Cyfarfodydd

Diweddaraf am y gyllideb

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 09/05/2025 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)

Diweddariad ar gyllid a'r gyllideb

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

11.0  Eitem 11 - Diweddariad ar gyllid a'r gyllideb

ARAC (25-02) Papur 11 - Diweddariad ar gyllid a'r gyllideb

 

11.1  Cadarnhaodd Lisa fod cyllideb 2024–25 wedi’i rheoli’n effeithiol, gyda thanwariant disgwyliedig o 1.1% ac arbedion o £315,000 wedi’u cyflawni, gyda chymorth gweithrediad effeithiol y Grŵp Rheoli Portffolio.

11.2  Cododd aelodau’r Pwyllgor nifer o gwestiynau’n ymwneud â thargedau arbedion, a oedd arbedion oherwydd effeithlonrwydd yn hytrach na llai o alw, a phenderfyniadau ynghylch lefelau staffio.

11.3  Eglurodd Lisa nad oedd targedau arbedion ar gyfer y dyfodol wedi'u gosod oherwydd y newid sylweddol yn y ddwy gyllideb nesaf i gefnogi Senedd fwy, gyda'r ceisiadau cyllideb mor fach â phosibl. Mewn ymateb i gwestiwn gan Mark Egan ynghylch a oedd yr arbedion yn cynrychioli gostyngiadau mewn cyfaint neu effeithlonrwydd, cytunodd Lisa i ddarparu rhagor o wybodaeth i'r Pwyllgor.

11.4  O ran cyflog staff, amlinellodd Lisa y trafodaethau parhaus ynghylch cytundeb cyflog staff newydd a fyddai’n cael ei adlewyrchu mewn cynigion cyllideb yn y dyfodol. Roedd cynnig cynnydd o 5% gan Lywodraeth y DU ar draws Gwasanaeth Sifil y DU wedi'i adlewyrchu yng nghais cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2025-26, ond nid oedd y cylch gwaith cyflog i lywio cyllidebau yn y dyfodol wedi'i gyhoeddi.

11.5  Eglurodd Lisa a Phil fod y cap sefydliad wedi'i osod ar gyfer cyflawni gweithgareddau busnes fel arfer, a oedd yn eithrio unrhyw swyddi newydd yn ymwneud â'r Seithfed Senedd neu raglenni Ffyrdd o Weithio. Amlinellwyd sut y cafodd yr holl recriwtio ei gymeradwyo gan y Cyfarwyddwyr cyn ei gyflwyno i'r Bwrdd Gweithredol i'w gymeradwyo. Rhoddwyd sicrwydd fod y prosesau sydd ar waith yn cynnwys herio a thrafodaethau priodol, fel rhan o’r gwaith o gynllunio gwasanaethau, ynghylch fforddiadwyedd neu unrhyw achos posibl o dorri'r cap. 

11.6  Nododd y Pwyllgor y colledion a'r taliadau arbennig a oedd wedi'u cynnwys yn niweddariad Lisa.

Camau i’w cymryd

Lisa Bowkett i ddosbarthu rhagor o fanylion am yr arbedion a gyflawnwyd.

 


Cyfarfod: 10/02/2025 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Adolygiad Blynyddol o Bolisïau Cyfrifyddu

7.0    Eitem 7 – Adolygiad Blynyddol o Bolisïau Cyfrifyddu

ARAC (25-01) Papur 9 – Adolygiad Blynyddol o Bolisïau Cyfrifyddu 

7.1    Cyflwynodd Lisa Bowkett y papur a oedd yn cynnwys manylion mân newidiadau ar gyfer safonau cyfrifyddu a gofynion datgelu, fel y nodir yn Llawlyfr Adroddiadau Ariannol (FReM) Trysorlys EM. Roedd y newidiadau'n ymwneud yn bennaf â phensiynau a McCloud heb unrhyw effaith sylweddol ar gyfrifon y Comisiwn.

7.2    Nododd y Pwyllgor y diweddariad, gan ddiolch i Clare amdano.

 

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 5

Cofnodion:

7.0    Item 7 - Annual Review of Accounting Policies

ARAC (25-01) Paper 9 – Annual Review of Accounting Policies

7.1    Lisa Bowkett presented the paper which included details of minor changes for accounting standards and disclosure requirements, as set out in HM Treasury’s Financial Reporting Manual (FReM). The changes related mainly to pensions and McCloud with no significant impact on the Commission’s accounts.

7.2    The Committee noted, and thanked Lisa for the update. 

 


Cyfarfod: 10/02/2025 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Strategaeth Pennu Cyllideb (gan gynnwys datblygu cyllideb a phroses y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig)

Llywodraethu'r Comisiwn

6.0    Eitem 6 - Strategaeth Pennu Cyllideb (gan gynnwys datblygu cyllideb a phroses y Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig)

ARAC (25-01) Papur 8 – Strategaeth Pennu Cyllideb

6.1    Atgoffodd y Cadeirydd y Pwyllgor i’r eitem hon gael ei chynnwys fel cyfle i ystyried proses y gyllideb. Gwahoddodd Lisa Bowkett i ddarparu adolygiad o’r cylch cyllideb blaenorol, yn ogystal â chyflwyno’r strategaeth ar gyfer cyllideb 2026-27, a amlinellwyd yn y papur.

6.2    Tynnodd Lisa sylw at y prif wahaniaethau yn y broses oherwydd y newid sylweddol yn y gyllideb yn ymwneud â Diwygio’r Senedd a’r angen i ymgysylltu mwy ag Aelodau.

6.3    Amlinellodd Hefin y ffyrdd yr oedd ef, a swyddogion, wedi ymgysylltu ag Aelodau yn ystod proses y gyllideb a oedd wedi gweithio’n dda. Roedd hyn wedi arwain at greu’r strategaeth ymgysylltu, a oedd wedi’i chynnwys yn y papur, fel ffordd o godeiddio’r dull gweithredu. Pwysleisiodd bwysigrwydd ymgysylltu gwleidyddol parhaus ac ymhelaethodd ar sut y byddai'r strategaeth hon yn cael ei chyflawni ar gyfer datblygu cyllideb 2026-27.

6.4    Amlinellodd Lisa’r amserlen ar gyfer paratoi cyllideb 2026-27, gan ddechrau gydag adnewyddiad o’r Fframwaith Adnoddau Tymor Canolig ym mis Ebrill, ac yna paratoi’r gyllideb yn fanwl rhwng mis Ebrill a mis Gorffennaf, a’i chwblhau dros yr haf. Tynnodd sylw hefyd at effaith rhaglenni a phrosiectau mawr, fel y rhai sy’n ymwneud â Diwygio’r Senedd a Bae 32, ar y gyllideb.

6.5    Soniodd aelodau’r Pwyllgor am y canlyniad cadarnhaol, a’r ymagwedd broffesiynol a’r strategaeth ymgysylltu sy’n cael eu mabwysiadu. Nodwyd ganddynt hefyd bwysigrwydd gwaith ymgysylltu parhaus, yn enwedig gan y byddai angen cynnydd pellach yn y gyllideb.

6.6    Gofynnodd y Cadeirydd am gael gwybod am y cynnydd gyda'r broses o bennu’r gyllideb ac i ddogfennau allweddol gael eu rhannu â'r tîm Clercio pan fyddant ar gael i'w cynnwys yn Llyfrgell Aelodau ARAC. 

 

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

Commission Governance

6.0    Item 6 - Budget Setting Strategy (including budget development and MTRF process)

ARAC (25-01) Paper 8 – Budget Setting Strategy

6.1    The Chair reminded the Committee that this item had been included to provide an opportunity to consider the budget process. He invited Lisa Bowkett to provide a review of the previous budget cycle, as well as presenting the strategy for the 2026-27 budget which was outlined in the paper.

6.2    Lisa highlighted the main differences in the process due to the step change in the budget relating to Senedd Reform and the need to engage more with Members.

6.3    Hefin outlined the ways in which he, and officials, had engaged with Members during the budget process which had worked well. This had led to the creation of the engagement strategy, which was included in the paper, as a way of codifying the approach. He emphasised the importance of continued political engagement and elaborated on how this strategy would be delivered for developing the 2026-27 budget.

6.4    Lisa outlined the timetable for preparing the 2026-27 budget, starting with a refresh of the Medium-Term Resource Framework in April, followed by detailed budget preparation between April and July, and finalisation over the summer. She also highlighted the impact of major programmes and projects such as those relating to Senedd Reform and Bay 32 on the budget.

6.5    Committee members commented on the positive outcome, and the professional approach and engagement strategy being adopted. They also noted the importance of continued engagement activity, particularly as further increases in the budget would be necessary.

6.6    The Chair asked to be kept informed of progress with the budget setting process and for key documentation to be shared with the Clerking team for inclusion in the ARAC Members’ Library when available.  

 


Cyfarfod: 18/11/2024 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb

Cofnodion:

7.0    Eitem 7 – Y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb

Diweddariad llafar

 

7.1    Gwahoddodd y Cadeirydd Simon Hart i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am sefyllfa ddiweddaraf y gyllideb.

7.2    Cadarnhaodd Simon fod y gyllideb atodol gyntaf wedi cael ei chymeradwyo. Roedd y gyllideb hon yn cynnwys cynnydd net yng nghyfraniadau pensiwn y cyflogwr yn ogystal â’r cynnig cyflog ôl-ddyddiedig ar gyfer bandiau cyflog is. Bydd y cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn cael effaith sylweddol ar gyllideb 2025-26, ond bydd y cynnydd yng nghyllideb ganlyniadol ac atodol Barnett yn talu’r gost ychwanegol. 

7.3    Gyda chynnydd sylweddol yng nghyllideb 2025-26, tynnodd Simon sylw at bedwar maes allweddol o wariant wedi’i neilltuo yn ymwneud â newid trawsnewidiol:

7.4    Diwygio'r Senedd;

-        Bae 32;

-        Gwaith ar Dŷ Hywel; a

-        chynnydd yng nghyflog staff y Comisiwn.

7.5    Roedd y Comisiynydd, Hefin David, ynghyd â swyddogion y Senedd wedi trafod yr ymrwymiadau hyn yn y Pwyllgor Cyllid ym mis Hydref, ac roedd holl argymhellion y Pwyllgor wedi cael eu derbyn. Mewn perthynas ag arbedion, nodwyd y bwriad i ystyried defnyddio datchwyddwr Cynnyrch Mewnwladol Crynswth cyfartalog dros dair blynedd fel mecanwaith ar gyfer amcangyfrif cyllidebau'r dyfodol.

7.6    Roedd y Pwyllgor Cyllid wedi gofyn am i gynllun gael ei ddatblygu i nodi sut oedd y Comisiwn yn bwriadu ymgysylltu ag Aelodau ynghylch ymrwymiadau cyllidebol. 

7.7    Manteisiodd Hefin ar y cyfle hwn i ddiolch i'r tîm Cyllid am ansawdd y cyngor a'r briffiadau manwl a gawsai; roedd yn hyderus y byddai'r gyllideb yn cael ei chymeradwyo yn ystod dadl yn y Cyfarfod Llawn yn y dyfodol.

Camau i’w cymryd

Cynnwys cynllun ymgysylltu yn yr eitem i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb yng nghyfarfod mis Chwefror

 


Cyfarfod: 10/06/2024 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb

Cofnodion:

Eitem Lafar

 

6.1 Eglurodd Kate, er bod cyllideb atodol y Comisiwn wedi’i chyflwyno, y byddai oedi cyn cymeradwyo oherwydd na fyddai Llywodraeth Cymru yn gallu gosod eu cyllideb tan yr hydref. Roedd hyn oherwydd nad oedd data rhagolygon economaidd Llywodraeth y DU ar gael gan na fyddai ar gael tan ar ôl yr Etholiad Cyffredinol ar 4 Gorffennaf. Byddai hyn yn effeithio ar bob sefydliad yn y sector cyhoeddus. Roedd oedi gyda'r gyllideb atodol yn golygu bod goblygiadau i'r Comisiwn a oedd yn cynnwys y rhai yn ymwneud â thrafodaethau cyflog staff.  

6.2 Cyfeiriodd Hefin David, fel aelod o’r Pwyllgor Cyllid, at y gefnogaeth drawsbleidiol i’r gyllideb atodol a nododd y byddai’r gyllideb ddrafft yn cael ei hystyried ym mis Hydref.

6.3 Nododd y Pwyllgor y diweddariad hwn a gofynnodd i Kate roi diweddariad pellach ar y gyllideb atodol pan fyddai ar gael. 

Cam i’w gymryd

-       Kate i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb atodol pan fydd ar gael.

 


Cyfarfod: 03/05/2024 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)

Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 15

Cofnodion:

ARAC (24-02) Papur 14 – Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid

 

15.1 Y targed ariannol oedd cyflawni alldro gweithredol diwedd blwyddyn o fewn 1.5 y cant o'r gyllideb weithredol gymeradwy a barn archwilio ddiamod. Y gyllideb weithredol gymeradwy ar gyfer 2023-24 ar ôl addasu ar gyfer y gyllideb atodol oedd £40.654 miliwn cyn cyllidebau nad ydynt yn arian parod. Y sefyllfa alldro a ragwelir ar gyfer diwedd y flwyddyn yw tanwariant o £90,000 (sy'n cyfateb i 0.22%) o'r gyllideb weithredol gymeradwy.

15.2 Er mwyn lleihau’r pwysau yn 2024-25, cyflawnwyd nifer o brosiectau yn 2023-24 â gwerth o £286,000.

15.3 Fe wnaeth y Pwyllgor longyfarch y tîm Cyllid ar y data perfformiad taliadau a nododd y colledion a'r taliadau arbennig. Fe wnaeth hefyd longyfarch y tîm cyfan am gynnal proses gyllidebol dynn iawn o ystyried y pwysau ariannol a ragwelir yn 2024-25.

 


Cyfarfod: 19/02/2024 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 15)

Proses y Gyllideb

Eitem lafar

Cofnodion:

15.1  Disgrifiodd Kate broses y gyllideb yn fanwl a’r amserlen ar gyfer gosod y gyllideb ym mis Medi a’r sesiynau craffu sy’n dilyn ym mis Hydref a mis Tachwedd.  Eglurodd hefyd fod 2024-25 yn gyfnod pontio ac mai’r bwriad yw i gynlluniau gwasanaeth, cyd-ddibyniaethau rhwng meysydd gwasanaeth a'r fframwaith adnoddau lywio proses y gyllideb yn y blynyddoedd i ddod.

15.2  Cytunodd y Pwyllgor y dylent ganolbwyntio ar y broses o bennu’r gyllideb a chreu’r cynllun tair blynedd (cyllideb dreigl). Gellid cyflawni hyn orau drwy adolygiad blynyddol o’r cylch cyllidebol blaenorol yng nghyfarfod y Pwyllgor yn y Gaeaf.   

Camau i’w cymryd

·       Y tîm clercio i ychwanegu diweddariad ar broses y gyllideb (cyllideb dreigl 3 blynedd) at y flaenraglen waith ar gyfer 2025.


Cyfarfod: 19/02/2024 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)

Adolygiad Blynyddol o bolisïau cyfrifyddu

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 20

Cofnodion:

ARAC (24-01) Papur 8 – Adolygiad Blynyddol o Bolisïau Cyfrifyddu

9.1    Roedd yr adolygiad o newidiadau cyfrifyddu allanol wedi nodi nad oedd unrhyw newidiadau disgwyliedig i’r safonau cyfrifyddu yn y polisïau cyfrifyddu a gymhwysir gan y Comisiwn ar gyfer 2023-24. Argymhellodd archwiliad Archwilio Cymru o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn ar gyfer 2022-23 y dylid cynnal adolygiad o’r canlynol:

·       Oes economaidd ddefnyddiol asedau

·       Lefelau cyfalafu ar gyfer asedau

·       Polisïau a phrosesau partïon cysylltiedig

9.2    O ganlyniad i’r adolygiad hwn, roedd oes asedau rhai eitemau wedi’i diwygio a byddai adolygiad yn cael ei gynnal ar adeg eu prynu.

9.3    Nododd y Pwyllgor y diweddariad hwn a’r newid arfaethedig i’r polisi Asedau.


Cyfarfod: 19/02/2024 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Yr wybodaeth ddiweddaraf am gyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 23

Cofnodion:

ARAC (24-01) Papur 7 – Yr wybodaeth ddiweddaraf am gyllid

8.1    Nododd y Pwyllgor ddiweddariad Kate a chyfeiriwyd yn benodol at y canlynol:

·       Fel rhan o asesiad o brosiectau, roedd y Grŵp Rheoli Portffolio wedi sgorio 46 o brosiectau ar ddechrau 2023-24 i’w cyflawni o bosibl yn 2023-24. Sgoriwyd 14 o brosiectau fel rhai hanfodol a chawsant arian yn y gyfran gyntaf. Roedd wyth prosiect wedi’u cwblhau, roedd pump ar y gweill ac roedd un yn y cyfnod olaf ar gyfer caffael. Roedd y prosiectau hynny’n cael eu hystyried ymhellach a gellid eu rhannu’n ‘ddarnau’ i reoli gwariant.

·       Aeth Kate i bob cyfarfod o’r Bwrdd Taliadau Annibynnol ar ran y Bwrdd Gweithredol. Rhoddodd gefndir o ran sut roedd cyllideb y Bwrdd Taliadau Annibynnol yn rhan o gyllideb gyffredinol y Comisiwn, ond cafodd ei chlustnodi i gwmpasu’r Penderfyniad. Cefnogodd y tîm Cyllid y Bwrdd Taliadau Annibynnol drwy baratoi cyfrifiadau a chostau ar gyfer eu gwaith. Cadarnhaodd hefyd y byddai rhaid ariannu unrhyw orwariant o’r Penderfyniad mewn egwyddor o gyllideb weithredol y Comisiwn.    

·       Roedd dyddiadau dechrau penodol o fewn recriwtio wedi sicrhau manteision ychwanegol gan gynnwys galluogi’r tîm Adnoddau Dynol i reoli llwythi gwaith a recriwtio rheolwyr i gynllunio ar gyfer eu staff newydd. Byddai dyddiadau dechrau penodol yn parhau gan fod yr amgylchedd economaidd cyhoeddus yn golygu ei bod yn ofynnol rheoli’r trosiant staff er mwyn rhyddhau £1 miliwn mewn cyllidebau staffio i gydbwyso’r gyllideb gyffredinol. 

8.2    Llongyfarchodd y Pwyllgor y tîm Cyllid ar dalu cyflenwyr yn brydlon, sef mewn 3.36 diwrnod fel y cyfrifir ar hyn o bryd.

8.3    Wrth ateb cwestiwn am y dull a ddefnyddiwyd i flaenoriaethu prosiectau, eglurodd Kate mai’r Grŵp Rheoli Portffolio a sgoriodd y prosiectau. Kate sy’n cadeirio’r Grŵp hwn, mae staff o bob rhan o’r sefydliad yn aelodau ohono ac maent yn craffu ar achosion busnes ac yn argymell prosiectau i’r Bwrdd Gweithredol eu cymeradwyo ar gyfer bwrw ymlaen â hwy. Roedd meini prawf sgorio yn cynnwys gwella busnes y Senedd, cynyddu ymgysylltiad, cyflwyno strategaethau ac ati. Cydnabu Kate fod craffu ar brosiectau a’u hargymell o ran sut roeddent yn mynd yn eu blaen yn faes a oedd yn parhau i gael ei ddatblygu. Mae hyn ochr yn ochr â gwaith ynghylch deall gofynion y prosiectau hynny o ran adnoddau fel rhan o’r gwaith o gynllunio gwasanaethau. 

8.4    Roedd sicrhau cyllid ar gyfer gwaith cynnal a chadw yn flaenoriaeth i’r Bwrdd Gweithredol yn 2024-25, yn dilyn rhai problemau ym mis Rhagfyr a dechrau mis Ionawr.

8.5    Nododd Kate hefyd y penderfyniad gan y Bwrdd Gweithredol i ddefnyddio unrhyw weddill dros ben ar gyfer materion seilwaith critigol fel TGCh y gellid ei gyflawni cyn diwedd mis Mawrth 2024 ynghyd â phrosiectau y gellid eu tynnu ymlaen a’u cyflawni yn 2024-25.

8.6    Gofynnodd y Cadeirydd fod papur cyllideb Cynilion 2024-25 yn cael ei ddosbarthu gan fod aelodau o’r pwyllgor yn cael trafferth gyda’r linc a ddarparwyd.

8.7    Croesawodd y Pwyllgor yr wybodaeth hon.


Cyfarfod: 12/06/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Diweddariad ar y gyllideb

Cofnodion:

Diweddariad llafar

 

7.1 Roedd Simon Hart yn falch o ddweud bod yr alldro ariannol ar gyfer 2022-23 o fewn 0.84% o’r rhagolwg, a oedd ymhell o fewn yr ystod darged. Yna rhoddodd grynodeb o’r gwaith parhaus ar gyllidebau atodol a phennu cyllidebau yn y dyfodol.

7.2 Atgoffodd Simon y Pwyllgor y byddai Kate Innes, y Prif Swyddog Cyllid, yn ei swydd ar gyfer cyfarfod mis Gorffennaf. Diolchodd y Pwyllgor i Simon am ei holl waith dros y misoedd diwethaf a dymunodd yn dda iddo ar gyfer y dyfodol. 

 


Cyfarfod: 27/04/2023 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb

Cofnodion:

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar

12.1 Rhoddodd Simon Hart y wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am gyllideb 2023-24. Byddai’r Gyllideb Atodol gyntaf ar gyfer 2023-24 yn cyflwyno gostyngiad o £435,000 yng nghyllideb gymeradwy’r Comisiwn, gan arwain at gynnydd o 3.4% ar gyllideb 2022-23 o’i gymharu â’r cynnydd o 4.1% a gymeradwywyd yn wreiddiol. Amlinellodd Simon hefyd y mesurau lleihau cyllideb penodol ar gyfer 2023-24 a oedd wedi’u cymeradwyo mewn cyfarfod o’r Comisiwn ar 27 Mawrth.

12.2 Roedd disgwyl i gyllideb atodol gyntaf gael ei gosod ar 13 Mehefin i ganiatáu dadl ar 4 Gorffennaf, cyn toriad yr haf. Roedd hyn yn caniatáu cyfnod o dair wythnos ar gyfer craffu o dan y Rheolau Sefydlog.

 


Cyfarfod: 21/11/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Y wybodaeth ddiweddaraf gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar

Cofnodion:

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar

8.1 Roedd Nia Morgan, Manon Antoniazzi a Ken Skates wedi rhoi tystiolaeth yn ddiweddar i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a'r Pwyllgor Cyllid. Roedd gwybodaeth ychwanegol, gan gynnwys copïau o adroddiadau ac ymatebion y Comisiwn, wedi’i rhoi i aelodau'r Pwyllgor cyn y cyfarfod hwn, ar 8 Tachwedd. Bydd copi o adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, y disgwylir iddo gael ei gyhoeddi erbyn dechrau Rhagfyr, yn cael ei rannu hefyd.

8.2 Nododd y Pwyllgor yr adroddiad cadarnhaol gan y Pwyllgor Cyllid yn benodol, gan ychwanegu bod yr aelodau wedi croesawu'r holl wybodaeth ychwanegol a anfonwyd atynt. Hefyd, diolchodd y Pwyllgor i Nia am y sesiynau briffio a'r gefnogaeth a gafwyd ganddi y tu allan i'r cyfarfodydd ffurfiol. 

Cam i’w gymryd:

·       Y tîm clercio i ddosbarthu adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus pan fydd ar gael.


Cyfarfod: 21/11/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 32

Cofnodion:

ARAC (22-06) Papur 6 - Y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol 2022-23 a chyllideb 2023-24

7.1 Disgrifiodd Nia Morgan y sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer 2022-23, gan gynnwys manylion y cyllidebau atodol. Roedd y papur hefyd yn amlinellu manylion cyllideb 2023-24, a chafwyd cadarnhad gan Nia fod y gyllideb hon wedi’i chymeradwyo yn y Cyfarfod Llawn ar 16 Tachwedd.

7.2 Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor, rhannodd Nia a Manon fanylion ychwanegol am y buddsoddiad mewn cyfleusterau, sy’n cynnwys gwaith hanfodol i gynnal a chadw adeiladau a chryfhau pwynt bregus a nodwyd gan y tîm Diogelwch yn ystod protest diweddar.

7.3 Hefyd, rhannodd Arwyn ragor o fanylion am y buddsoddiad mewn adnoddau ar gyfer datblygu’r gwaith o ymgysylltu ag etholwyr, a oedd yn cynnwys system Rheoli Perthynas â Chwsmeriaid ac adnodd ymgysylltu ar-lein. Bydd hyn yn hwyluso’r gwaith ymgysylltu, yn ogystal â’r gwaith o gasglu tystiolaeth ac ymatebion i ymgyngoriadau, i helpu i lywio gwaith Pwyllgorau'r Senedd a nodi adborth ar brofiadau ymwelwyr â'r ystâd.


Cyfarfod: 29/04/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 17)

Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid ac uwchraddio'r system gyllid

Y wybodaeth ddiweddaraf ar lafar

Cofnodion:

Y wybodaeth ddiweddaraf, ar lafar

17.1 Cadarnhaodd Nia ei bod yn rhy gynnar i gadarnhau’r ffigur alldro terfynol ar gyfer 2021-22 ac nad oedd unrhyw faterion i’w nodi o’r archwiliad interim o’r cyfrifon. Soniodd am rai pwysau ychwanegol a achoswyd gan rai meysydd gwasanaeth yn dychwelyd ffurflenni gwybodaeth ariannol yn hwyr.

17.2 Dywedodd Nia wrth y Pwyllgor bod y system gyllid wedi'i huwchraddio wedi mynd yn fyw yn ôl y bwriad a'i bod yn gweithio cystal â'r disgwyl, gyda rhai mân broblemau yn cael sylw.

17.3 Mewn perthynas â’r gyllideb gymeradwy ar gyfer 2022-23, dywedodd Nia fod cynnig ar gyfer cyllideb atodol am gael ei ystyried gan y Comisiwn ar 9 Mai, cyn ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cyllid. Roedd hefyd disgwyl i bapur strategaeth y gyllideb ar gyfer 2023-24 gael ei ystyried gan y Comisiwn. Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor ynghylch rheoli costau'n ymwneud â chwyddiant a chynnydd mewn Yswiriant Gwladol, dywedodd Nia fod bellach angen cais am gyllideb atodol, er bod pob ymdrech wedi'i gwneud i amsugno'r costau ychwanegol. Ychwanegodd y byddai unrhyw arbedion a wnaed yn ystod y pandemig yn cael eu gwrthbwyso gan y cynnydd mewn chwyddiant a chyfleustodau.  

17.4 Cytunodd Nia i rannu papurau â’r Pwyllgor ar y gyllideb atodol a strategaeth y gyllideb ar gyfer 2023-24 ar ôl iddynt gael eu hystyried gan Gomisiwn y Senedd a’r Pwyllgor Cyllid.

17.5 Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gwresogi rhanbarth. Roedd Ed yn ymwybodol o rai datblygiadau ar seilwaith i gefnogi'r cynllun, a nododd bod dyddiad lansio’r prosiect i fynd yn fyw i'w gadarnhau. Cytunodd i ddarparu’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor pan fydd ar gael.     

17.6 Fe wnaeth y Cadeirydd gydnabod yr ymdrech a wnaed i reoli cyllid a chynllunio cyllidebau, yn enwedig gan ei bod yn dod yn fwyfwy anodd cynllunio ar gyfer y dyfodol. Nododd hefyd y byddai pwysau adnoddau yn parhau i fod yn thema i'w thrafod yn y dyfodol. Roedd ef, ac aelodau'r Pwyllgor, hefyd yn falch bod y system gyllid newydd ar waith ac yn gweithio'n dda. 

Camau i’w cymryd

·       Nia Morgan i rannu papurau â’r Pwyllgor ar y gyllideb atodol a strategaeth y gyllideb ar gyfer 2023-24 ar ôl iddynt gael eu hystyried gan Gomisiwn y Senedd a’r Pwyllgor Cyllid.

·       Ed Williams i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am y cynllun gwresogi rhanbarth pan fydd ar gael.

 


Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y system gyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 37

Cofnodion:

ARAC (22-01) Papur 12 – uwchraddio’r system gyllid

14.1 Eitem olaf Nia oedd rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am statws y prosiect i uwchraddio'r system gyllid ac, ar gais y Cadeirydd, i ganolbwyntio'n benodol ar liniaru risgiau cysylltiedig.
 

14.2 Fel Prif Berchennog Cyfrifol ar gyfer y prosiect, cadarnhaodd Nia ei bod yn gyfforddus gyda'r camau lliniaru sydd ar waith, gan gynnwys profion trylwyr gan ddefnyddwyr a'r cynllun wrth gefn i ddychwelyd yn ôl i'r system bresennol pe bai materion yn codi i atal y bwriad i fynd yn fyw ym mis Ebrill 2022. Atgoffodd y Pwyllgor mai uwchraddio oedd hwn yn hytrach na gosod system hollol newydd sy’n lleihau rhai o'r risgiau gweithredu. Dywedodd Nia hefyd mai’r partneriaid cymorth meddalwedd a ddefnyddiwyd gan y Comisiwn a oedd wedi rheoli’r gosodiad gwreiddiol yn 2017. Ar ôl ennill y cystadleuaeth ail-dendro ar gyfer y contract cymorth yn 2018, byddent yn rheoli'r gwaith o symud data i'r amgylchedd byw ac yn darparu cymorth ychwanegol os oes angen ar ôl y dyddiad pan fyddwn yn mynd yn fyw.

14.3 Er mwyn uwchraddio'r system, mae'r Comisiwn yn dibynnu ar ei bartner datblygu trydydd parti, a bydd yn parhau i weithio ochr yn ochr â hwy. Drwy gydweithio, byddai'r ddwy ochr yn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu o brofiadau yn y gorffennol o uwchraddio’r system. Er mwyn sicrhau bod disgwyliadau ar bob ochr yn cael eu bodloni, byddai deialog barhaus yn cael ei gynnal gyda'r datblygwyr a chydweithredu agos â chydweithwyr caffael i sicrhau bod arferion rheoli contract cryf ar waith.

14.4 Roedd y Cadeirydd yn fodlon â’r cynnydd a lliniaru risgiau, gan nodi'r goblygiadau pe na bai'r broses weithredu’n mynd yn ôl y bwriad. Ailadroddodd hefyd y byddai angen i Archwilio Cymru gael mynediad at yr hen system ar gyfer yr archwiliad interim cyn i'r system newydd fynd yn fyw. Byddai Gareth Lucey yn gweithio'n agos gyda Nia ar hyn.

14.5 Tynnodd Gareth Watts sylw at y ffaith y byddai'r gwaith hwn o uwchraddio'r system yn cael ei gynnwys yn ei gynllun archwilio ar ôl gweithredu. Byddai hyn yn canolbwyntio ar adolygu uniondeb y data a'u trosglwyddiad gan y byddai’r strwythur codio yn aros yr un fath.

14.6 Yna, trafododd y Pwyllgor fater ymarferoldeb dwyieithog systemau TG yn fwy cyffredinol. Dywedodd Arwyn Jones ei fod yn gweithio gyda sefydliad o'r enw y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yng Nghymru a chytunodd i rannu manylion ei haelodaeth gydag Ann Beynon ac adrodd yn ôl ar unrhyw wybodaeth angenrheidiol i’r Pwyllgor.

 

Camau i’w cymryd

·       Rhoi rhagor o fanylion i Ann Beynon am y Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (mewn perthynas â darpariaeth ddwyieithog o fewn systemau TG)


Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)

Adolygiad Blynyddol o bolisïau a systemau cyfrifyddu

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 40

Cofnodion:

ARAC (22-01) Papur 11 – Adolygiad Blynyddol o Bolisïau Cyfrifyddu

13.1 Cyflwynodd Nia y papur a oedd yn nodi sut yr oedd y tîm Cyllid wedi cynnal ei adolygiad blynyddol o bolisïau cyfrifyddu. Cyfeiriodd y Pwyllgor at yr Atodiad a oedd yn amlinellu'r pwyntiau i'w nodi. Roedd yr adolygiad wedi ymdrin â newidiadau allanol megis safonau cyfrifyddu, yn ogystal â newidiadau i drefniadau mewnol ac adroddiad archwilio allanol a llythyr rheoli Archwilio Cymru.

13.2 Cadarnhaodd Nia mai dim ond mân newidiadau a oedd â goblygiadau i'w datgelu yng nghyfrifon 2021-22 y Comisiwn. Nododd fod camau eisoes wedi'u cymryd i fynd i'r afael â'r mater a godwyd gan Archwilio Cymru yn ystod archwiliad 2020-21, yn ymwneud ag eitemau o wariant cyfalaf. Newidiadau i'r cyfrifon sy'n adlewyrchu IFRS 16 – Byddai prydlesau’n cael eu gweithredu yn ystod 2022-23.

 


Cyfarfod: 14/02/2022 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)

Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 43

Cofnodion:

ARAC (22-01) Papur 10 – Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid

12.1 Cyflwynodd Nia y papur a oedd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf arferol am gyllid i'r Pwyllgor. Mewn perthynas â chyllideb weithredol gymeradwy 2021-22, y sefyllfa alldro a ragwelir ar ddiwedd mis Rhagfyr oedd tanwariant o 1.0 y cant, a oedd o fewn yr ystod targed ariannol corfforaethol o 0 y cant i 1.5 y cant. Roedd y tanwariant a oedd yn weddill yn gweithredu fel arian wrth gefn yn erbyn cynnydd annisgwyl yn y ddarpariaeth ar gyfer gwyliau blynyddol a gronnwyd ac unrhyw geisiadau brys am gyllid yn hwyr yn y flwyddyn ariannol.

12.2 Tynnodd Nia sylw at y ffaith nad oedd cyllideb 2022-23 yn adlewyrchu effaith IFRS 16 (Prydlesau) gan nodi, yn amodol ar ddim oedi pellach o ran gweithredu gan Drysorlys EM, y byddai'r effaith yn cael ei hadlewyrchu yng Nghyllideb Atodol gyntaf y Comisiwn ar gyfer 2022-23. Byddai'r gwaith paratoi yn dechrau ym mis Mawrth/Ebrill 2022 ar strategaeth gyllideb 2023-24.


12.3 Diolchodd y Pwyllgor i Nia am y wybodaeth ddiweddaraf ac am y wybodaeth yr oedd wedi'i rhannu y tu allan i'r Pwyllgor. Nododd y Pwyllgor wybodaeth am golledion a thaliadau arbennig.


Cyfarfod: 23/04/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)

Diweddariad cyllidol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 46

Cofnodion:

ARAC (02-21) Papur 11 – Diweddariad cyllidol

12.1      Amlinellodd Nia Morgan y sefyllfa gyllidol ddiweddaraf ar gyfer 2021-22 a’r sefyllfa gyllidol ddisgwyliedig ar gyfer 2021-22 a 2022-23. Disgwyliwyd mai 0.4 y cant fyddai alldro'r gyllideb weithredol erbyn diwedd y flwyddyn, a oedd ymhell o fewn y targed o rhwng 0 y cant ac 1.5 y cant.

12.2      Mewn ymateb i gwestiynau gan y Pwyllgor ynghylch cronni gwyliau, cadarnhaodd Nia fod y cyfnod estynedig pan oedd gwaith y Comisiwn wedi’i oedi yn ystod y Nadolig wedi gostwng y ffigur gofynnol o ran cronni gwyliau blynyddol, a bod y ffigur yn y cyfrifon yn addasiad cyfrifyddol yn unig.

 


Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 14)

Adolygiad o bolisïau cyfrifyddu

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 49

Cofnodion:

12.1    Cyflwynodd Nia y papur hwn a amlinellodd yr adolygiad blynyddol o bolisïau cyfrifyddu i sicrhau eu perthnasedd parhaus wrth gefnogi busnes y Senedd. Defnyddiodd y tîm Cyllid y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael gan Drysorlys Ei Mawrhydi a buont yn gweithio gyda gwasanaethau ar draws y Comisiwn, gan nodi unrhyw newidiadau sylweddol. Roedd y meysydd a adolygwyd yn cynnwys newidiadau allanol megis newidiadau i’r safonau cyfrifyddu, newidiadau i fusnes mewnol ac adroddiad archwilio allanol a llythyr rheoli Archwilio Cymru.

12.2    Er bod yr adolygiad yn parhau, nid oedd unrhyw newidiadau disgwyliedig i'r safonau cyfrifyddu y byddai angen eu hadlewyrchu yn y polisïau cyfrifyddu a gymhwyswyd gan y Comisiwn ar gyfer 2020-21, ar wahân i'r Safon Adrodd Ariannol Ryngwladol (IFRS) 16. Yn dilyn cryn oedi, cadarnhaodd Trysorlys EM ym mis Tachwedd 2020 fod y Bwrdd Cynghori ar Adroddiadau Ariannol wedi cytuno na fyddai IFRS 16 yn cael ei weithredu'n orfodol o 1 Ebrill 2021. Yn lle hynny, y dyddiad gweithredol bellach fyddai 1 Ebrill 2022. Bydd yr oedi pellach hwn i'w weithredu yn golygu na fydd IFRS 16 yn effeithio ar gyllideb y Comisiwn tan 2022-23. Penderfynodd y Comisiwn beidio â mabwysiadu IFRS yn gynnar (yn 2021-22). Yn amodol ar ganllawiau pellach gan Drysorlys EM, bydd yr effaith yn cael ei hadlewyrchu yng Nghyllideb Ddrafft y Comisiwn ar gyfer 2022-23 neu yn ei Gyllideb Atodol gyntaf ar gyfer 2022-23.

12.3    Diolchodd y Pwyllgor i Nia a'i thîm am eu hadolygiad manwl. Awgrymodd y gallai trafodaethau ag Archwilio Cymru fod yn ddefnyddiol i leihau dyblygu ymdrechion ar draws sefydliadau sector cyhoeddus Cymru o ran dadansoddi newidiadau i bolisïau cyfrifyddu a'r Llawlyfr Adrodd Ariannol (FReM).


Cyfarfod: 12/02/2021 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)

Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 52

Cofnodion:

11.1    Amlinellodd Nia Morgan mai targed ariannol corfforaethol 2020-21 oedd cyflwyno adroddiad archwilio diamod ac alldro gweithredol diwedd blwyddyn rhwng 0 y cant a 1.5 cant o'r gyllideb weithredol gymeradwy. Cadarnhaodd fod rhagolwg y sefyllfa alldro ar ddiwedd mis Ionawr ymhell o fewn y targed hwn, sef 0.4 y cant o'r gyllideb weithredol gymeradwy. Wrth i'r tanwariant aros yn dynn, byddai'r Bwrdd Gweithredol a'r tîm Arwain yn parhau i asesu ceisiadau am adnoddau prosiect gyda'r bwriad o gynnal lefel isel y tanwariant tan ddiwedd y flwyddyn. Roedd treialu gwahanol gyfluniadau ar gyfer gweithfannau wedi bod yn faes gwariant annisgwyl ychwanegol a bydd yn eitem o wariant y cyllidebir ar ei gyfer yn y blynyddoedd i ddod, os yw’r peilot yn llwyddiannus. 

11.2    Dylai Comisiwn y Senedd gael gwared ar ddangosyddion perfformiad allweddol yn y dyfodol a osodir i leihau tanwariant a chanolbwyntio, yn hytrach, ar ddefnyddio adnoddau ariannol mor effeithlon â phosibl. Gwneir gwaith yn ystod 2021-22 i ddatblygu cynigion i drafod â'r Comisiwn dargedau ariannol corfforaethol priodol ar gyfer y Chweched Senedd.

11.3    Cymeradwyodd y Comisiwn ail Gyllideb Atodol ym mis Rhagfyr. Fel y’i nodwyd yng nghyfarfod mis Tachwedd, roedd rhan o'r ail Gyllideb Atodol hon ar gyfer cynyddu cyllideb Gwariant a Reolir yn Flynyddol (AME) o £1.6 miliwn i £2.0 miliwn i adlewyrchu amcangyfrif yr Actiwari o'r cynnydd yng nghostau cyllid pensiwn yr Aelodau. 

11.4    Yna fe droes Nia at gyllideb 2021-22, sy’n ymwneud â blwyddyn gyntaf y Chweched Senedd a fydd yn cael ei goruchwylio gan y Comisiwn newydd sydd i’w benodi yn haf 2021. Gyda'r oedi cyn gweithredu Safon Adrodd Ariannol Ryngwladol (IFRS) 16 (Prydlesau) oherwydd effaith Covid-19 cafodd cyllideb 2021-22 ei chyflwyno heb unrhyw ddata IFRS 16. Mae mwy o fanylion am hyn ym mharagraff 12.2.

11.5    Diolchodd y Pwyllgor i Nia am y diweddariad hwn a nododd y ganmoliaeth a'r gydnabyddiaeth haeddiannol gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Roedd y gwaith a wnaed i gyflwyno cyllideb y dyfodol yn rhagorol a chytunodd Nia i rannu â'r Pwyllgor wybodaeth am unrhyw arbedion neu wariant ychwanegol oherwydd y pandemig maes o law.

Camau gweithredu

          Nia i rannu ag ARAC ddadansoddiad o wariant ac arbedion mewn perthynas â Covid ar ddiwedd y flwyddyn.


Cyfarfod: 20/11/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 55

Cofnodion:

ARAC (05-20) Papur 6 - Y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol 2020-21 a chyllideb 2021-22

 

8.1         Cyflwynodd Nia Morgan ddiweddariad ar sefyllfa ariannol 2020-21. Roedd yr alldro a ragwelir ar gyfer y Comisiwn yn cyfateb i 0.5 y cant o'r gyllideb weithredol gymeradwy a oedd o fewn yr ystod darged o 0 y cant i 1.5 y cant.

8.2         Roedd Nia wedi rhannu lincs ag aelodau’r Pwyllgor cyn y cyfarfod hwn i sesiynau craffu’r Comisiwn gyda Phwyllgor Cyllid a Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd gyda gohebiaeth gysylltiedig arall. Un maes y gofynnodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus am ragor o wybodaeth amdano oedd ailosod y ffenestri yn Nhŷ Hywel. Eglurodd Nia y byddai astudiaeth ddichonoldeb yn cael ei chynnal ar gyfer dull graddol, y byddai penderfyniad yn debygol o gael ei ohirio hyd nes i'r Comisiwn newydd gael ei benodi. Mewn ymateb i aelodau'r Pwyllgor yn annog ymgysylltiad cynnar â darpar gyflenwyr o Gymru, rhoddodd Dave sicrwydd fod hyn yn cael ei wneud.

8.3         Maes arall a godwyd yn y sesiynau craffu oedd effaith gwyliau blynyddol cronedig a fyddai'n arwain at yr angen am addasiad cyfrifyddu sylweddol. Trafododd y Pwyllgor yr effaith o ran lles staff, yn enwedig y rhai na allant gymryd gwyliau oherwydd pwysau gwaith. Dywedodd Nia y gofynnwyd i Benaethiaid Gwasanaethau annog eu staff i gymryd gwyliau dros gyfnod y Nadolig ac y byddai eitem ar y dudalen newyddion hefyd yn cael ei chyhoeddi.

8.4         Diolchodd y Pwyllgor i Nia a'i thîm am eu gwaith parhaus dros yr haf a'r ymdrech barhaus i sicrhau bod sefyllfa ariannol 2020-21 a chyllideb 2021-22 yn cael eu cyflwyno mewn ffordd mor gynhwysfawr.


Cyfarfod: 27/04/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 58

Cofnodion:

ACARAC (05-19) Papur 9 – Y wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa ariannol

9.1        Cyflwynodd Nia yr eitem, gan ofyn i aelodau'r Pwyllgor nodi'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer 2019-20 a’r sefyllfa ariannol a ragwelir ar gyfer 2020-21 a 2021-22. Esboniodd Nia, oherwydd amseriad y cyfarfod, nad oedd yn bosibl rhoi esboniad cywir o’r sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer 2019-20, ond y byddai’r ffigyrau hyn yn cael eu darparu maes o law.

9.2        Gofynnodd Nia i'r Pwyllgor nodi bod cyllideb atodol wrthi’n cael ei thrafod gan y Comisiwn, mewn perthynas â'r oedi wrth weithredu newidiadau i IFRS16 - Prydlesi, a oedd i fod i ddod i rym ar 1 Ebrill 2020. Gohiriwyd hyn tan 1 Ebrill 2021. Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd, ychwanegodd Nia fod y newid hwn wedi cael effaith sylweddol ar alldro 2020-21, felly roedd angen cyllideb atodol.

9.3        Mewn ymateb i gwestiynau am gyfrifo darpariaeth gwyliau blynyddol staff y Comisiwn, rhoddodd Nia sicrwydd nad oedd hyn yn fater arwyddocaol ond bod y safonau cyfrifyddu yn ei gwneud yn ofynnol i’r ddarpariaeth hon gael ei chynnwys yn y cyfrifon adnoddau.

9.4        Diolchodd y Pwyllgor i Nia am y wybodaeth ddiweddaraf.


Cyfarfod: 20/01/2020 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Y diweddaraf am y gyllideb

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 61

Cofnodion:

ACARAC (01-20) Papur 7 - Y wybodaeth ddiweddaraf am sefyllfa ariannol 2019-20 a chyllideb 2020-21

7.1        Cyflwynodd Nia yr eitem, gan ofyn i aelodau'r Pwyllgor nodi'r sefyllfa ariannol gyfredol ar gyfer blwyddyn ariannol 2019-20.

7.2        Tynnodd Nia sylw at y newid yng nghyflwyniad y gyllideb i adlewyrchu na fyddai'r Comisiwn bellach yn defnyddio unrhyw danwariant sy'n codi o gyllideb Penderfyniad y Bwrdd Taliadau i ariannu gwaith prosiect. Roedd y Pwyllgor yn dawel eu meddwl o glywed hynny, gan mai hon oedd y flwyddyn gyntaf o gyflwyno'r gyllideb fel hyn, a byddai'n destun adolygiad parhaus.

7.3        Mewn ymateb i gwestiynau ar y cynnydd yng nghanrannau trosiant staff, eglurodd Nia fod y cyfartaledd hwn yn dod â'r Comisiwn yn unol yn agosach â chyfartaledd y sector cyhoeddus ac nad oedd yn peri pryder i uwch-reolwyr ar hyn o bryd.

7.4        Holodd y Pwyllgor swyddogion ynghylch y gwariant ar yr ystâd a dyfodol Tŷ Hywel. Hysbysodd Dave y Pwyllgor, o dan y trefniadau cyfredol, fod angen lefel y buddsoddiad i gynnal a chadw'r adeilad.

7.5        Wrth ymateb i gwestiynau ynghylch y targed arbedion gwerth am arian, nododd Nia fod y wybodaeth hon bellach yn cael ei chasglu at ddibenion monitro mewnol yn unig.

 

 


Cyfarfod: 21/10/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 64

Cofnodion:

ACARAC (05-19) Papur 7 – Diweddariad ar Sefyllfa Ariannol 2019-20 a Chyllideb 2020-21

9.1        Aeth Nia drwy’r papur gyda’r Aelodau, gan nodi’r sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer 2019-20, a chyflwyno’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i gymeradwyo cynigion cyllideb 2020-21.

9.2        Diolchodd y Cadeirydd i Nia am y wybodaeth a nododd y Pwyllgor y papur.


Cyfarfod: 11/02/2019 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)

Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 67
  • Cyfyngedig 68
  • Cyfyngedig 69

Cofnodion:

ACARAC (01-19) Papur 13 - Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Gyllid

11.1    Mewn ymateb i gwestiynau gan y Cadeirydd, cadarnhaodd Suzy fod cyllideb y Penderfyniad yn cyd-fynd â disgwyliadau Pwyllgor Cyllid a Phwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad. Disgrifiodd hefyd sut y cafodd argymhellion y Pwyllgor Cyllid eu hystyried. Esboniodd Suzy a Nia eu bod yn cytuno mewn egwyddor â'r argymhelliad i olrhain Cronfa Gyfunol Cymru wrth bennu cyllideb y Cynulliad. Fodd bynnag, nododd y Pwyllgor yr her gan na fyddai'r ffigurau ar gael mewn pryd i bennu'r cyllidebau a bod risg posibl o ran enw da.

11.2    Llongyfarchodd y Cadeirydd Nia a'i thîm am werth am arian a pherfformiad taliadau prydlon. Pan ofynnwyd, cadarnhaodd Nia na fu unrhyw amrywiadau sylweddol yn erbyn cyllidebau wedi'u pennu ar gyfer rhaglenni a phrosiectau.

11.3    Nododd Nia hefyd y gallai'r cynnydd mewn cyfraniadau pensiwn arwain at gyllideb atodol ar gyfer 2019-20.  Roedd y Pwyllgor Cyllid wedi cael gwybod am hyn.

 


Cyfarfod: 23/04/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 9)

Y wybodaeth ddiweddaraf gan y tîm Cyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 72
  • Cyfyngedig 73

Cofnodion:

ACARAC (02-18) Papur 7 - Y wybodaeth ddiweddaraf gan y tîm Cyllid

ACARAC (02-18) Papur 7 – Atodiad A

9.1        Amlinellodd Nia y sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer 2017-18 a'r sefyllfa a ragwelir ar gyfer 2018-19 a 2019-20.  Roedd yn rhagweld, gyda chymorth blaenoriaethu gwariant cadarn gan y Bwrdd Gweithredol, y byddai'r Comisiwn o fewn y targed heriol o 0.5% ar ddiwedd y flwyddyn.

9.2        Roedd Cyllid a Thollau EM yn cynnal archwiliad o drefniadau tâl y Comisiwn a oedd wedi gorfod dargyfeirio rhai adnoddau o fen y tîm Cyllid. Byddai'r broses yn cymryd rhwng 12 a 18 mis ac nid oedd disgwyl iddo effeithio ar amserlen yr archwiliad.

9.3        Trafododd y Pwyllgor y goblygiadau ar gyfer cyllideb y Comisiwn o ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid i Danwariant Penderfyniad y Bwrdd Taliadau ac ymgynghoriad y Bwrdd Taliadau ar gynigion sy'n deillio o'r adolygiad ar gymorth staffio i Aelodau.

9.4        Diolchodd y Pwyllgor i Nia am adroddiad rhagorol.

 


Cyfarfod: 05/02/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 76
  • Cyfyngedig 77
  • Cyfyngedig 78

Cyfarfod: 05/02/2018 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Adolygiad o bolisïau cyfrifyddu

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 81

Cofnodion:

ACARAC (01-18) Papur 5 – Adolygiad o bolisïau cyfrifyddu

Eitem 7 - Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid

ACARAC (01-18) Papur 6 - Y wybodaeth ddiweddaraf am Gyllid

6.1        Cyflwynodd Nia'r ddau bapur a chroesawodd gwestiynau gan aelodau'r Pwyllgor ynghylch y sefyllfa ariannol ddiweddaraf.

6.2        Nododd y Pwyllgor bapur yr adolygiad o bolisïau cyfrifyddu Pan ofynnwyd iddynt, cadarnhaodd cynrychiolwyr Swyddfa Archwilio Cymru eu bod yn fodlon ar driniaeth dadfeiliadau a amlinellwyd yn y papur.

6.3        Roedd y sefyllfa ariannol gyfredol yn dal i fod yn heriol. Fodd bynnag, ers cyfarfod mis Tachwedd, rhoddwyd tasg i'r Cyfarwyddwyr ganfod arbedion, gan gynnwys gohirio rhywfaint o'r gwariant tan 2018-19 i ddarparu lefel wrth gefn a hyblygrwydd yn 2017-18, gan gydnabod y byddai hyn yn effeithio ar gyllideb 2018-19. Bydd y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau yn ystyried cyn bo hir a fydd rhai o'r prosiectau a ohiriwyd, megis y cylch newid peiriannau TGCh, yn gallu parhau yn 2017-18. 

6.4        Byddai offeryn blaenoriaethu a ddatblygwyd gan Dave a Gareth Watts yn cynorthwyo â phenderfyniadau cyllido yn y dyfodol. Gofynnodd y Pwyllgor am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y sail a'r meini prawf ar gyfer blaenoriaethu yng nghyfarfod mis Ebrill. 

6.5        Eglurodd Nia yr angen am gyllideb atodol i dalu am y diffyg a achoswyd gan gynnydd yn rhagolygon Adran Actiwari'r Llywodraeth o gost y cyllid pensiwn. Cyflwynwyd Memorandwm Esboniadol i'r Pwyllgor Cyllid ym mis Rhagfyr.

6.6        Cadarnhaodd Dave fod arbedion wedi'u negodi mewn perthynas â rhai cytundebau heb unrhyw newid i safon y gwasanaeth. Cyfeiriodd Nia at yr arbedion gwerth am arian yn deillio o arbedion effeithlonrwydd busnes, ond rhybuddiodd y byddai arbedion mewn meysydd megis caffael yn fwy anodd yn y dyfodol oni bai fod newidiadau sylweddol i ddarpariaeth gwasanaethau. Mewn ymateb i gwestiynau am yr ardoll brentisiaeth, cytunodd Nia i gadarnhau a ddylai cyflogres Aelodau, fel cyflogeion unigol, gael eu trin ar wahân neu ar y cyd o ran y trothwy £3 miliwn.

6.7        Gwahoddwyd y Pwyllgor i anfon unrhyw sylwadau i Nia mewn llythyr yr oedd disgwyl iddo gael ei anfon i'r Pwyllgor Cyllid yn dilyn lansiad ei ymchwiliad i sut yr oedd cyllideb gwariant Seneddau eraill yn cysylltu â chyflog a lwfans Aelodau.       

Camau i’w cymryd

-      Dave a Gareth Watts i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y meini prawf blaenoriaethu a'r modd y caiff ei weithredu yng nghyfarfod mis Ebrill. 

-      Nia i egluro a yw'r ardoll brentisiaeth yn berthnasol i Aelodau'r Cynulliad fel cyflogwyr.

 


Cyfarfod: 27/11/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)

Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 84

Cofnodion:

ACARAC (05-17) Papur 11 - Y wybodaeth ddiweddaraf am Gyllid

8.1        Gofynnodd Nia i’r Pwyllgor nodi’r diweddariad a oedd yn manylu ar y sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer 2017-18, a oedd yn cael ei monitro gan yr IRB bob pythefnos.

8.2        Roedd y Pwyllgor yn croesawu’r papur cynhwysfawr hwn ac yn cydnabod y pwysau ariannol y mae’r sefydliad yn ei wynebu.

Camau i’w cymryd

-         Nia i roi manylion am fodelu cyllideb i aelodau’r Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 20/03/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)

Diweddariad ar gyllid a'r gyllideb

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 87

Cofnodion:

ACARAC (02-17) Papur 13 - Diweddariad ar gyllid a'r gyllideb

12.1     Oherwydd amserlennu cynnar y cyfarfod hwn, ni allai Nia ddarparu gwybodaeth am y sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn i'r Pwyllgor gan nad oedd yr addasiadau cyfrifo wedi'u prosesu eto. 

12.2     Byddai cyfarfod cynllunio capasiti y Bwrdd Rheoli yn llywio'r gofynion ar y gyllideb ar gyfer 2017-18 ymhellach a byddai hyn hefyd yn cael ei fonitro'n agos gan y Bwrdd Adnoddau a Buddsoddi.   

 


Cyfarfod: 06/02/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 7)

Adolygiad o bolisïau cyfrifyddu

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 90

Cyfarfod: 06/02/2017 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 93

Cofnodion:

Llywodraethu'r Comisiwn

ACARAC (01-17) Papur 7 - Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid a'r gyllideb

ACARAC (01-17) Papur 8 - Polisïau cyfrifyddu - adolygiad blynyddol

6.1     Cyflwynodd Nia Morgan y ddwy eitem hyn.  Cafodd y targedau ariannol corfforaethol ar gyfer 2016-17 eu hadolygu a'u diweddaru mewn cyfarfod o'r Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau a gynhaliwyd yn ddiweddar.  Diwygiwyd y targed tanwario diwedd blwyddyn o 1.0% i 0.5%, a phennwyd targedau llymach ar gyfer targedau talu'n brydlon.  Hefyd, soniodd Nia am y newidiadau yn staff y tîm Cyllid.

6.2     Byddai'r targed tanwario diwygiedig o lai na 0.5% yn her, ond mewn cyfarfod o'r Bwrdd Rheoli a gynhaliwyd yn ddiweddar roedd Nia wedi dweud wrth Benaethiaid y Gwasanaethau fod yr wythnosau sy'n weddill o'r flwyddyn ariannol gyfredol yn gyfnod hollbwysig o ran rheoli cyllidebau eu gwasanaethau. Tynnodd y Pwyllgor sylw at y posibilrwydd y gallai targed o'r fath yn cynyddu'r risg o orwario.

6.3     Croesawodd y Pwyllgor yr adolygiad blynyddol o bolisïau cyfrifyddu gan ddiolch i Nia am y papur cynhwysfawr.

 


Cyfarfod: 21/11/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 13)

Y wybodaeth ddiweddaraf am Gyllideb 2016-17

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 96

Cofnodion:

12.0   Y wybodaeth ddiweddaraf am Gyllideb 2016-17

ACARAC (05-16) Papur 16 - Y wybodaeth ddiweddar am  Gyllid

12.1    Dywedodd Nia wrth y Pwyllgor fod y tanwariant targed o 1% ar y trywydd iawn ac y byddai'n gweithio'n agos gyda Swyddfa Archwilio Cymru i benderfynu yn llawn a oedd unrhyw oblygiadau cyfalaf ar gyfer y gwaith a gynlluniwyd ar gyfer ailgyflunio Tŷ Hywel. 

 


Cyfarfod: 21/11/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y Pwyllgor Cyllid (CC) a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PAC)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 99
  • Cyfyngedig 100
  • Cyfyngedig 101
  • Cyfyngedig 102
  • Cyfyngedig 103
  • Cyfyngedig 104

Cofnodion:

11.0   Y wybodaeth ddiweddaraf am y Pwyllgor Cyllid (CC) a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (PAC)

ACARAC (05-16) Papur 15 -  y wybodaeth ddiweddaraf am FC a PAC

ACARAC (05-16) Papur 15 - Atodiad 1 Llythyr at PAC

ACARAC (05-16) Papur 15 - Atodiad 1 Llythyr at PAC

ACARAC (05-16) Papur 15 - Atodiad i Gyllideb FC 2017-18

ACARAC (05-16) Papur 15 - Atodiad 3 Adroddiad FC

ACARAC (05-16) Papur 15 - Atodiad 4 Y wybodaeth ddiweddaraf am  FC a PAC

11.1    Diolchodd Nia Morgan i Suzy a'r Pwyllgor am eu cymorth i baratoi ar gyfer y Pwyllgor Cyllid  a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Dywedodd fod dau ymateb arall i fod i gael eu hanfon at y Pwyllgor Cyllid.

11.2    Croesawodd y Pwyllgor yr adborth ac roeddent yn falch bod y paratoadau wedi bod yn fuddiol.

 


Cyfarfod: 25/04/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)

Polisïau cyfrifyddu

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 107

Cofnodion:

ACARAC (32) Papur 13 - Polisïau cyfrifyddu

11.1     Nododd y Pwyllgor y papur hwn er gwybodaeth ac amlinellodd Nia'r mân newidiadau a wnaed ganddi. 

11.2     Mewn perthynas â phrynu offer TG yn ôl y gofyn, rhoes Dave sicrwydd i'r Pwyllgor fod prisiau'n cael eu gwirio i sicrhau eu bod yn gystadleuol.

 


Cyfarfod: 25/04/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 10)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 110

Cofnodion:

ACARAC (32) Papur 12 - Y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb

10.1     Cyflwynodd Nia bapur yn nodi'r sefyllfa ariannol ddiweddaraf ar gyfer 2015-16.  Roedd y papur hefyd yn cynnwys y wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith i gyflawni cyllidebau yn y dyfodol. 

10.2     Cafwyd rhagor o fanylion gan Claire am oblygiadau'r cynllun ymadael gwirfoddol a'r cynlluniau ehangach i ailstrwythuro rhai timau yn ystod y Pumed Cynulliad er mwyn sicrhau effaith gadarnhaol o ganlyniad i'r cynllun.  Dywedodd y Cadeirydd fod y broses a ddilynwyd i bob golwg yn un gadarn, gyda sicrwydd annibynnol yn rhan o'r broses.

10.3     Eglurodd Nia na phennwyd targed arbed gwerth am arian ar gyfer 2016-17 gan nad oed angen adnewyddu contractau mawr, ond byddai cyfarfodydd rheolaidd â thimoedd Ystadau a Rheoli Cyfleusterau a TGCh yn debygol o nodi rhai arbedion ar wahân neu arbedion effeithlonrwydd.  Eglurodd Claire rôl y Bwrdd Buddsoddi ac Adnoddau wrth benderfynu sut i ddefnyddio'r arbedion a gafwyd orau.

10.4     Hefyd, hysbysodd Nia'r Pwyllgor fod ei thîm yn wynebu ychydig fisoedd heriol gan ei bod yn debygol y byddai strategaeth gyllideb newydd yn cael ei chyflwyno i Gomisiwn newydd y Cynulliad ym mis Mehefin.  


Cyfarfod: 08/02/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 12)

Y wybodaeth ddiweddaraf am gyllid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 113

Cofnodion:

ACARAC (31) Papur 14 - Y wybodaeth ddiweddaraf am Gyllid

12.1     Cyflwynodd Nicola y papur hwn a oedd yn nodi’r sefyllfa ariannol ar gyfer 2015-16. 

12.2     Roedd y Pwyllgor yn croesawu cynnwys llythyr a anfonwyd gan y Dirprwy Lywydd at Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ac yn canmol y Cynulliad am ei berfformiad o ran talu’n brydlon.

 


Cyfarfod: 08/02/2016 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 6)

Trosolwg o'r cyfrifon

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 116

Cofnodion:

ACARAC (31) Papur 8 - Cyfrifon blynyddol 2015-16 

6.1        Cyflwynodd Nicola y papur hwn a dywedodd wrth y pwyllgor fod cyfres interim o gyfrifon wedi cael eu cyflwyno i Swyddfa Archwilio Cymru.  Yn dilyn gweithdy a gynhaliwyd gan y Swyddfa ar gyfer Penaethiaid Adnoddau, byddai’n cael gweld cyfrifon interim gan gyrff eraill yn y sector cyhoeddus.  

6.2        Holodd aelodau’r Pwyllgor sut y caiff tâl gwyliau Staff Cymorth Aelodau’r Cynulliad ei drin yn y cyfrifon, a chadarnhaodd Nicola y byddai’n diweddaru’r Pwyllgor ar ôl i gynnydd pellach gael ei wneud gyda Swyddfa Archwilio Cymru.

6.3        Trafodwyd y defnydd o'r Pierhead hefyd.  Roedd yr adeilad yn cael ei ddefnyddio'n aml ac mae’r gofod digwyddiadau yn llawn tan fis Mawrth 2018.  Pan holwyd ynghylch y gwaith sy’n angenrheidiol i gynnal yr adeilad, cadarnhaodd swyddogion bod y blaengynllun gwaith cynnal a chadw ar gyfer y 10 mlynedd nesaf yn seiliedig ar gyngor arbenigol.

6.4        At ei gilydd, mae’r pwyllgor yn fodlon ar y diweddariad i’r Llythyr Rheoli 2014-15 a’r amserlen a nodir yn y papur.           

Cam i’w gymryd

-        Nicola i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor am sut y caiff tâl gwyliau Staff Cymorth Aelodau'r Cynulliad i drin yn y cyfrifon.

 


Cyfarfod: 16/11/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)

Y wybodaeth ddiweddaraf am y gyllideb

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 119

Cofnodion:

ACARAC (30) Papur 10 - Y wybodaeth ddiweddaraf am y Gyllideb

11.1     Rhoddodd Nicola grynodeb o’r sefyllfa ariannol ar gyfer 2015-16 a chadarnhaodd fod cyllideb 2016-17 wedi ei chymeradwyo gan y Cynulliad.  Roedd y Pwyllgor Cyllid wedi craffu ar y gyllideb yn drylwyr, gyda lefel uwch o her i rai llinellau yn y gyllideb nag o'r blaen, a chafodd eu holl argymhellion eu derbyn.  Byddai arbedion caffael 2015-16 yn is nag yn y blynyddoedd blaenorol oherwydd y contractau gwerth is sy’n dod i ben yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

11.2     Dywedodd Claire fod y flwyddyn ariannol hon yn cael ei hystyried yn flwyddyn drosiannol ar gyfer y dull Gwerth am Arian.  Roedd adolygiad o gapasiti arall wedi'i drefnu ar gyfer diwedd mis Tachwedd.

11.3    Gofynnodd y Cadeirydd am y wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad o Effeithiolrwydd Busnes pan fydd hynny'n briodol.   

Camau gweithredu

-        Dave i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr Adolygiad o Effeithiolrwydd Busnes pan fydd hynny'n briodol.

 


Cyfarfod: 09/02/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 11)

Polisïau cyfrifyddu: llinell amser a phroses

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 122

Cofnodion:

ACARAC (26) Papur 13 - Polisïau cyfrifyddu - adolygiad blynyddol

11.1    Cafodd y Pwyllgor yr wybodaeth ddiweddaraf am adolygiad 2014-15 o bolisïau cyfrifyddu. Adolygwyd y newidiadau allanol a mewnol i sicrhau perthnasedd parhaus wrth gefnogi busnes y Cynulliad.

11.2     Soniodd Nicola fod Swyddfa Archwilio Cymru heb gadarnhau'r datgeliad i TGCh ar gyfer y driniaeth arfaethedig o asedau, ond bod trafodaethau ar y gweill eto.  Nododd y Pwyllgor yr hyfforddiant a'r canllawiau a gynigir i reolwyr asedau. Gofynnodd Eric i'r eitem hon gael ei hychwanegu at Flaenraglen Waith y Pwyllgor yn flynyddol. 

Camau gweithredu

-        Roedd y tîm Clercio i ychwanegu adolygu polisïau cyfrifyddu fel eitem flynyddol i'r Flaenraglen Waith.