Cyfarfodydd
Ystâd y Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 29/04/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Mewnoli Gwasanaethau'r Comisiwn
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
- Cyfyngedig 4
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Yn ei gyfarfod ar 6 Tachwedd 2023, cytunodd y Comisiwn ar
ddatganiad eang o egwyddor mai dewis craidd y Comisiwn yw i wasanaethau gael eu
darparu’n fewnol lle bynnag y bo’n ymarferol.
Trafododd y Comisiynwyr brif ganfyddiadau ymarfer cwmpasu
a materion penodol ynghylch mewnoli mewn perthynas â phob un o'r gwasanaethau
dan sylw, gan gynnwys amcangyfrif o lefel debygol y cymhlethdod a'r risg sy'n
gysylltiedig â mewnoli’r meysydd gwasanaethau hynny. Cawsant hefyd yr
amcangyfrif cyfunol ar gyfer cam nesaf proses o fewnoli, a oedd yn rhagdybio y
byddai'r gwaith yn cael ei wneud ar ffurf un rhaglen sy’n cynnwys yr holl
feysydd gwasanaeth sydd o fewn cwmpas y gwaith.
Trafododd y Comisiynwyr y wybodaeth a ddarparwyd a
myfyrio ar y cymhlethdod a'r risgiau a nodwyd yn y canfyddiadau sydd wedi’u
hamlinellu yn y papur. Trafodwyd y berthynas â chontractau presennol, yn
ogystal â chapasiti a hynt rhaglenni gwaith sylweddol sydd eisoes ar y gweill.
Roedd y Comisiynwyr yn cydnabod y byddai’n rhaid darparu ar gyfer cyllid
buddsoddi yn y gyllideb i fwrw ymlaen â'r prosiect, gan gydnabod hefyd y
byddai'n dasg sylweddol a fyddai'n gofyn am lawer o ffocws ac ymdrech gan y tîm
rheoli.
Hefyd, cynghorwyd bod yr adroddiad allanol wedi nodi'r
risg bosibl na fyddai achosion busnes yn y dyfodol sy’n deillio o brosiect
mewnoli yn pasio'r prawf gwerth am arian; yn y sefyllfa honno, mae'n debygol y
byddai’n rhaid cael cyfarwyddyd gan y Comisiwn i'r Prif Weithredwr, fel y
Swyddog Cyfrifyddu, cyn bwrw ymlaen â'r gwaith.
Cytunodd y Comisiynwyr mai’r safbwynt a ffefrir ganddynt fyddai gwneud
ymrwymiad ‘caled’ mewn egwyddor i fwrw ymlaen â Phrosiect Mewnoli
Gwasanaethau’r Comisiwn, ac y dylid dechrau’r gwaith hwn hanner ffordd drwy’r
Senedd nesaf, gan gydnabod y byddai wedyn yn golygu gweithredu fesul cam. Bydd
angen ailgaffael rhai contractau presennol yn y blynyddoedd nesaf hyd yn oed os
bwriedir dod â hwy’n fewnol yn y tymor hir. Byddai penderfyniadau yn y cyfnod
interim yn cael eu cymryd gyda'r amcan hwn mewn golwg.
Cytunodd y Comisiynwyr
i drafod y dull gweithredu arfaethedig hwn gyda’u grwpiau gwleidyddol a rhoi
adborth y diwrnod canlynol drwy gysylltu â’r ysgrifenyddiaeth pe bai unrhyw
bryderon yn codi.
Cyfarfod: 29/01/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Defnydd o'r ystad - gwaith dilynol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Yn ystod y cyfarfod ar 6 Tachwedd, cytunodd y Comisiynwyr
ar nifer o gynigion ynghylch diweddaru’r polisi ar ddefnydd o ystad y Senedd,
gan gynnwys cytuno i ymestyn y ffenestr amser ar gyfer trefnu digwyddiadau o
chwech i 11 mis ac i guradu’r dyraniadau, yn hytrach na dilyn dull ‘y cyntaf
i'r felin’.
Trafododd y Comisiynwyr y meini prawf i'w defnyddio i
asesu addasrwydd ceisiadau newydd ar gyfer digwyddiadau ar ystad y Senedd, cyn
cytuno arnynt. Nod y meini prawf hyn yw sicrhau defnydd tecach a mwy amrywiol
o'r ystad.
Caiff y polisi ar
ddefnydd o’r ystad ei ddiweddaru yn unol â’r meini prawf y cytunwyd arnynt.
Cyfarfod: 06/11/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Adolygiad o’r Polisi Defnydd o'r Ystâd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Ar ôl ystyried y materion a godwyd yn yr ymgynghoriad ar
yr Adolygiad o’r Defnydd o’r Ystâd ym mis Medi, trafododd y Comisiynwyr nifer o
gynigion a fyddai’n cael eu defnyddio i ddiweddaru’r polisi ar gyfer defnyddio
ystâd y Senedd. Cytunwyd i ymestyn y cyfnod ar gyfer archebu digwyddiadau o
chwe mis i 11 mis, a chytunwyd y dylai'r dyraniadau gael eu curadu gan y Tîm
Digwyddiadau (yn hytrach na system cyntaf i'r felin), gyda meini prawf i'w
cyflwyno i un o gyfarfodydd y Comisiwn yn y dyfodol. Gwnaethant gytuno hefyd y
dylai digwyddiadau sydd i ddod ar yr ystâd gael eu cyhoeddi dri mis ymlaen llaw
pan fo hynny'n bosibl.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylid cynnwys capasiti a
hyblygrwydd yn y system i ddiogelu dyddiadau allweddol (byddai’r Comisiwn yn
cytuno ar y manylion mewn cyfarfod yn y dyfodol) ac i ddarparu ar gyfer
ceisiadau munud olaf am le ar gyfer digwyddiadau yn ymwneud â materion
cyfoes/perthnasol.
Mewn ymateb i wybodaeth am awydd Aelodau am ddigwyddiadau
a phatrymau defnydd newidiol ar ôl Covid, cytunodd y Comisiynwyr i symud tuag
at ddefnyddio un slot digwyddiad premiwm y mis (amser cinio dydd Mawrth neu
ddydd Mercher) i dreialu ‘marchnadoedd’ yn y Senedd o’r Pasg ac am weddill
2024, yn lle'r defnydd arferol o Ystafelloedd Ciniawa ar gyfer digwyddiadau
'galw heibio'. Cytunwyd hefyd i dderbyn gwerthusiad o’r dull hwn yn gynnar yn
2025 i gytuno ar safbwynt parhaol. Fodd bynnag, roeddent yn cydnabod y byddai
lleoliad llai cyhoeddus yn fwy priodol i rai sefydliadau, ac felly ni ddylai
mynediad at Ystafell Giniawa breifat ddod i ben yn gyfan gwbl.
Nododd y Comisiynwyr hefyd barhad y polisi presennol o 10
slot digwyddiadau yr wythnos a’r gwaith i adolygu’r categorïau a’r broses ar
gyfer digwyddiadau gan gynnwys y dull a ddefnyddir i wella’r broses gymeradwyo
ar gyfer gweithgarwch Llywodraeth Cymru ar yr ystâd; gwaith ar y gweill i
gryfhau'r cysylltiadau rhwng digwyddiadau a Busnes y Senedd; a'r dull a
awgrymir ar gyfer amseroedd paratoi hirach ar gyfer digwyddiadau ymgysylltu dan
arweiniad y Comisiwn.
Byddai'r newidiadau y cytunir arnynt yn rhan o bolisi
wedi'i ddiweddaru a'i gyhoeddi ar gyfer gweithgarwch ar yr ystâd.
Cyfarfod: 25/09/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Diweddariad ar Faterion Cynllunio
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
ceisiadau cynllunio diweddar a adolygwyd a'r ymgysylltiad cynhyrchiol â
datblygwyr a swyddogion Cynllunio; a'r Ymgynghoriad a gynlluniwyd yn ystod yr
haf a'r hydref 2023 gan yr Awdurdod Lleol mewn perthynas â'r Cynllun Datblygu
Lleol ar gyfer Bae Caerdydd.
Cyfarfod: 25/09/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adolygiad o’r Polisi Defnydd o'r Ystâd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Rhoddwyd diweddariad
i'r Comisiynwyr am y materion a godwyd drwy'r ymarfer ymgynghori ar y defnydd
o'r ystâd; a gwnaethant nodi crynodeb byr o’r cynnydd a wnaed eisoes gan Dîm
Digwyddiadau a Lleoliadau’r Senedd o ran adolygu sawl agwedd ar y broses sy’n
gysylltiedig â defnyddio’r ystâd. Byddai papur pellach yn cael ei ddarparu yn
ddiweddarach yn y flwyddyn yn amlinellu atebion posibl i rai o'r materion a
godwyd.
Cyfarfod: 27/03/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adolygiad o’r Polisi Defnydd o'r Ystâd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
Cofnodion:
Bu'r Comisiynwyr yn
ystyried ymarfer ymgynghori arfaethedig i lywio adolygiad o'r Polisi Defnydd
o'r Ystad. Roedd hyn yn ymateb i ymholiadau sy'n cael eu codi ynghylch gofynion
cyfredol ar ddefnyddio'r ystâd, angen digwyddiadau yn y dyfodol, newidiadau ers
y pandemig ar y modd y mae digwyddiadau ymgysylltu yn cael eu cynnig a sut mae
Aelodau am ddefnyddio'r Ystâd.
Cymeradwyodd y
Comisiynwyr gynigion tymor byr a chanolig ar gyfer newidiadau i gadw
ystafelloedd.
Awgrymwyd y dylid
gwahodd swyddogion i fynd i gyfarfodydd grŵp y pleidiau i gael adborth am
anghenion Aelodau yn y maes hwn, ac anogwyd swyddogion i siarad hefyd â rhai
o'r sefydliadau a oedd wedi codi cwestiynau.
At hynny, bu'r
Comisiynwyr yn trafod dyddiadau rheolaidd arwyddocaol yn y cylch calendr
blynyddol, a sut y gallai'r rhain gael eu hadlewyrchu'n briodol yn y system.
Buont yn trafod gwerth yr ymarfer ymgysylltu, a chroesawu’r ffaith y byddai
cynnig polisi wedi’i ddiweddaru yn cael ei gyflwyno iddynt yn yr hydref. At
hynny, amlygwyd y berthynas rhwng nifer y digwyddiadau y gellir eu cefnogi a'r
adnoddau sydd ar gael, gan gyfeirio at yr ymarfer lleihau costau diweddar a
drafodwyd yn gynharach yn y cyfarfod.
Cyfarfod: 14/03/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Ystâd y Senedd a ffyrdd o weithio yn y dyfodol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 23 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (2/1)
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr y camau nesaf yn dilyn trafodaethau am Strategaeth
yr Ystâd ym mis Tachwedd a mis Ionawr. Cydnabuwyd y berthynas gyd-ddibynnol
rhwng ffyrdd o weithio a'r amgylchedd gwaith.
Cytunodd y Comisiynwyr i ddwyn ynghyd yn ffurfiol uchelgeisiau’r Comisiwn
ar gyfer gweithio ystwyth a gweithio hyblyg, yr adolygiad o gapasiti, a'r
gofynion llety mewn un strategaeth Ffyrdd o Weithio a rhaglen gyflawni
gysylltiedig. Nodwyd map trywydd lefel uchel Ffyrdd o Weithio a'r broses
datblygu achos busnes, fel y’i nodwyd, a chymeradwywyd elfennau cychwynnol y
gwaith hwn ar gyfer eu datblygu'n gyflym o dan gynllun gweithredu interim.
Trafododd y Comisiynwyr bwysigrwydd sicrhau bod y trefniadau llywodraethu ar
gyfer y materion strategol bwysig hyn yn gadarn, a phwysleisiwyd y pwysigrwydd
y maent yn ei roi ar ymgysylltu ac ymgynghori drwy gydol y broses. Wrth wneud
hynny, mynegwyd cefnogaeth i weithio gyda phartneriaid i ddeall anghenion pawb
sy’n gysylltiedig.
Byddai’r cynlluniau gweithredu’n cynnwys, mewn perthynas â llety ym Mae
Caerdydd:
• cyflogi ymgynghorwyr eiddo
i roi cyngor penodol,
• drafftio strategaeth
bresenoldeb, gan ymdrin â modelau gweithio hybrid,
• cyflogi ein hymgynghorwyr
swyddfa i gynnig cyngor pellach ar symud y tu hwnt i’n cynlluniau peilot
presennol ar gyfer gweithio hybrid,
• dechrau’r broses ffurfiol o
gadarnhau gofynion Llywodraeth Cymru ynghylch ei defnydd o ystâd y Senedd yn y
dyfodol a datblygu opsiynau ar gyfer sut i fodloni’r gofynion hynny, ac ysgrifennu
at y Bwrdd Taliadau i fynegi diddordeb mewn gweithio’n agos ar faterion sy’n
ymwneud â ffyrdd o weithio yn y dyfodol.
O ran presenoldeb rhanbarthol y Senedd, byddai’r cynlluniau cychwynnol yn
cynnwys:
• prosiect i archwilio
cynigion ar gyfer hybiau Senedd rhanbarthol yn y gogledd, y canolbarth a’r
gorllewin, gan nodi amseroedd mewn perthynas â swyddfeydd Bae Colwyn, a
• chysylltu’n ffurfiol â Llywodraeth Cymru ynglŷn â
defnyddio dull partneriaeth i ddatblygu opsiynau ar gyfer hybiau Senedd rhanbarthol.
Cytunodd y Comisiynwyr
hefyd y dylid cynnal adolygiad mewnol ynglŷn â defnyddio adeilad y
Pierhead yn y dyfodol.
Cyfarfod: 31/01/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Diweddariad ar ddatblygu Strategaeth yr Ystâd
Cyfarfod: 13/12/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Strategaeth yr ystâd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 28
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr nifer o ffactorau sy'n
berthnasol i ddatblygu Strategaeth Ystâd Comisiwn y Senedd.
Roedd y rhain yn cynnwys anghenion swyddfeydd
hirdymor i’r Aelodau a staff, defnydd mwy hyblyg ac ystwyth o swyddfeydd,
ystyried yr angen am bresenoldeb ar sail ranbarthol ehangach a’r defnydd o'r
Pierhead.
Rhoddodd y Comisiynwyr
adborth ar yr ystyriaethau strategol a nodwyd, a gwnaethant ofyn am wybodaeth
ychwanegol ynghylch rhai meysydd.
Cyfarfod: 08/11/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Ymestyn contract Rheoli Cyfleusterau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
wybodaeth am ymestyn y contract Rheoli Cyfleusterau 11 mis.
Cyfarfod: 27/09/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Rhwydwaith Gwresogi Ardal
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr Gynllun Gwresogi Ardal Caerdydd, yr oedd gan y
Comisiwn y dewis i ymuno ag ef fel y prif “gleient allweddol”.
Byddai’r cynllun yn cefnogi cyflenwi Strategaeth Carbon Niwtral y Comisiwn.
Trafododd y Comisiynwyr faterion yn ymwneud ag anghenion yr ystâd, ffynhonnell
yr ynni a pherfformiad thermol y Senedd a Thŷ Hywel.
Cytunodd y Comisiynwyr
y byddai’r Comisiwn yn ymuno â Chynllun Gwresogi Ardal Caerdydd, ar yr amod bod
y Gwasanaethau Cyfreithiol yn cytuno ar unrhyw newidiadau terfynol i
ddrafftio’r contract arfaethedig.
Cyfarfod: 08/02/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Ffenestri newydd yn Nhŷ Hywel - astudiaeth ddichonoldeb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
- Cyfyngedig 39
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
yr adroddiad dichonoldeb a gynhaliwyd i gael cyngor arbenigol i lywio
penderfyniad i’r dyfodol ar oblygiadau'r gyllideb, yr amseru a'r gwaith sydd ei
angen i roi ffenestri newydd yn Nhŷ Hywel yn raddol.
Gofynnodd y Comisiynwyr gwestiynau am fanylion ac
ystyriaethau ymarferol o ran y gwaith yr oedd ei angen, a gofynnwyd am gadarnhad
nad oedd unrhyw fater wedi’i nodi fel perygl. Cytunwyd i ohirio unrhyw
benderfyniad i’w drosglwyddo i’r Comisiwn nesaf, ar y sail y byddai angen
ymestyn y ddarpariaeth gyllid ar gyfer y prosiect dros nifer o flynyddoedd
ariannol.
Cyfarfod: 16/03/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Opsiynau o ran lle yn y dyfodol – hyblygrwydd cynyddol y swyddfeydd o fewn Tŷ Hywel
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 42
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr gynigion i
newid rhywfaint ar y lle sydd ar gael yn Nhŷ Hywel i roi mwy o hyblygrwydd
i swyddfeydd yr Aelodau.
Cyfarfod: 23/09/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Gosod Ffenestri Newydd yn Nhŷ Hywel
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 45
Cofnodion:
Trafododd y
Comisiynwyr gynigion ar gyfer gosod ffenestri newydd yn Nhŷ Hywel, sy'n
agosáu at ddiwedd eu hoes weithredol, ac rydym yn gweld nifer gynyddol o ddiffygion
nad oes modd o’u trwsio.
Cytunodd y Comisiynwyr
y dylid cynnal astudiaeth ddichonoldeb, ac y dylid adrodd ar y canlyniad maes o
law.
Cyfarfod: 15/07/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Cynnig am gofeb
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 48
- Cyfyngedig 49
Cofnodion:
Cytunodd y Comisiynwyr ar
gynnig gan Mick Antoniw AC am gofeb i'r Capten Archibald Dickson.
Cyfarfod: 28/01/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Polisi ar gyfer darparu henebion, cofebion a phlaciau
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 52
- Cyfyngedig 53
Cofnodion:
Roedd y Comisiynwyr wedi
gofyn am ddrafftio polisi yn ymwneud â gosod cofebion ar ystâd y Cynulliad.
Trafodwyd proses lle byddai'r Comisiwn yn trafod cynigion ac yn gwneud
penderfyniadau, a thrafodwyd canllawiau cysylltiedig i gynigwyr hefyd.
Gofynnodd y Comisiynwyr
am addasiadau i'r polisi drafft, ac am iddo gael ei ddosbarthu er mwyn iddynt
gytuno arno.
Cyfarfod: 05/11/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Llwybr Seren Cymru
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 56
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr
ddiweddariad ar ddatblygiadau diweddar ynghylch y cynigion hirdymor ar gyfer
'Llwybr Seren Cymru'. Daeth y Comisiynwyr i'r casgliad nad oeddent yn teimlo eu
bod yn gallu cefnogi'r syniad o ddatblygu 'Llwybr Seren Cymru' ar ystâd y
Cynulliad.
Cyfarfod: 05/11/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Cerflun Rhodri Morgan
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 59
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr gais a ddaeth i law yn gofyn am
gytundeb mewn egwyddor, am gerflun i goffáu bywyd a gwaith y diweddar Brif
Weinidog, Rhodri Morgan, i'w osod ar ystâd y Cynulliad.
Gofynnodd y Comisiynwyr
am ddatblygu polisi i ddarparu proses ar gyfer gwneud penderfyniadau ynghylch
ceisiadau yn y dyfodol ar gyfer gosod cofebion a cherfluniau. Yn y cyfamser
roeddent yn fodlon, mewn egwyddor, y gellid gosod cerflun o Rhodri Morgan, fel
Prif Weinidog cyntaf Cymru ar dir y Cynulliad, yn amodol ar gael sicrwydd
addas, y dylai trydydd parti ddal y cerflun mewn ymddiriedaeth a bod yn
gyfrifol amdano.
Cyfarfod: 04/06/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Anghenion o ran yr adeilad yn y dyfodol - diweddariad
Cyfarfod: 26/02/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Ein hanghenion o ran adeiladau yn y dyfodol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 64
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr ddiweddariad am y
trafodaethau parhaus ynghylch diwallu anghenion y Cynulliad a’r Comisiwn o ran
adeiladau yn y dyfodol.
Cyfarfod: 06/11/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Plac porffor
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 67
Cyfarfod: 17/07/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Rheoli rhaglenni'r ystâd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 70
Cofnodion:
Yn eu
cyfarfod ym mis Mai, cytunodd y Comisiynwyr ar ddull wedi'i reoli'n well ar
gyfer defnyddio ystâd y Cynulliad yn fwy pwrpasol.
Trafododd
y Comisiynwyr gynigion ar gyfer gweithredu'r newidiadau i gyflawni'r nod hwn.
Cytunwyd y dylai newidiadau gael eu datblygu a thynnwyd sylw at rai dulliau a
allai fod yn ddefnyddiol mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft cysylltu pobl â
Grwpiau Trawsbleidiol presennol.
Cyfarfod: 17/07/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Diwallu ein Hanghenion o ran Llety yn y Dyfodol - y wybodaeth ddiweddaraf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 73
- Cyfyngedig 74
Cofnodion:
Cafodd y
Comisiynwyr y wybodaeth ddiweddaraf am y sgyrsiau archwiliadol â thirfeddianwyr
a chawsant atebion i gwestiynau a ofynnwyd yn y cyfarfod ym mis Mehefin 2017.
Cyfarfod: 12/06/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Anghenion ar gyfer y dyfodol
Eitem
lafar
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr ddiweddariad ar waith i ddiwallu anghenion o ran yr
adeilad yn y dyfodol a nodwyd y sgyrsiau archwiliadol sy’n cael eu cynnal â
thirfeddianwyr. Cytunwyd ar gael rhagor o wybodaeth cyn toriad yr haf.
Cyfarfod: 15/05/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Diwallu ein Hanghenion o ran Llety yn y Dyfodol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 79
- Cyfyngedig 80
- Cyfyngedig 81
Cofnodion:
Trafododd y Comisiynwyr y wybodaeth a ddarparwyd mewn ymateb i ymholiadau a
godwyd ganddynt yn y cyfarfod blaenorol.
Derbyniwyd yr awgrymiadau a wnaed, a nodwyd meysydd ble y byddent yn
hoffi cael rhagor o fanylion.
Cyfarfod: 15/05/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Gweithgarwch ar ystâd y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 84
Cofnodion:
Trafododd
y Comisiynwyr gynigion i newid y modd y caiff gweithgarwch ar yr ystâd ei reoli
a'i flaenoriaethu, â'r nod o sicrhau ei fod yn adlewyrchu blaenoriaethau'r
Comisiwn yn well o ran ymgysylltu, gan alluogi'r ystâd, a'r Senedd yn arbennig,
i gael ei ddefnyddio'n fwy pwrpasol ac felly i ddod yn adnodd allweddol ar
gyfer hyrwyddo ymgysylltiad â'r Cynulliad ac annog cynulleidfa fwy amrywiol i'n
hystâd.
Cydnabu'r
Comisiynwyr yr heriau sydd ynghlwm wrth y dull presennol o ddefnyddio'r ystâd,
ac roeddent o blaid newid i ddull mwy strategol o ddefnyddio'r ystâd mewn modd
pwrpasol ac effeithiol. Nodwyd rhai anawsterau penodol o'u gwybodaeth a'u
profiad eu hunain, ac awgrymwyd nifer o ddulliau a allai fod yn ddefnyddiol yn
y broses o reoli gweithgarwch yn fwy effeithiol. Bydd rhagor o waith yn cael ei
wneud i baratoi canllawiau i gefnogi'r newid.
Cyfarfod: 05/04/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Diwallu ein hanghenion o ran adeiladau yn y dyfodol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 87
- Cyfyngedig 88
- Cyfyngedig 89
- Cyfyngedig 90
Cofnodion:
Trafododd
y Comisiynwyr y wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd mewn ymateb i faterion, ymholiadau
a chwestiynau penodol a godwyd ganddynt yn y cyfarfod blaenorol.
Cytunodd
y Comisiynwyr i ddiystyru opsiwn yr ystyriwyd nad oedd yn ffordd ymarferol ac
effeithiol o fodloni anghenion llety.
Nododd y
Comisiynwyr feysydd eraill ar gyfer ystyriaeth fanylach mewn cyfarfod yn y
dyfodol.
Cyfarfod: 20/03/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Diwallu ein hanghenion o ran adeiladau yn y dyfodol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 93
- Cyfyngedig 94
Cofnodion:
Trafododd
y Comisiynwyr ddulliau posibl o ddarparu lle ychwanegol, gan ofyn am ragor o wybodaeth
er mwyn ystyried y mater ymhellach mewn cyfarfodydd y Comisiwn yn y dyfodol.
Cyfarfod: 02/03/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 4)
Gweithgarwch ar ystâd y Cynulliad
Papur 2 – Gweithgarwch ar ystâd y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 97
Cofnodion:
Cyflwynodd Craig y papur ar ran
Natalie Drury-Styles, a gofynnodd i’r Bwrdd am ei sylwadau.
Mae Strategaeth y Comisiwn ar gyfer 2016-2021 yn amlygu pwysigrwydd
galluogi ac annog ymgysylltu â’r cyhoedd yng ngwaith y Cynulliad. I fod yn fwy
cydnaws â blaenoriaethau’r Comisiwn, roedd y papur yn awgrymu y dylai’r gwaith
o reoli digwyddiadau ar yr ystâd newid i fod yn ddull mwy rhagweithiol,
strategol ac ystyriol.
Trafododd y Bwrdd y papur, a
chytunodd fod hwn yn fater o flaenoriaeth i’r Comisiwn ar hyn o bryd.
Pwysleisiwyd bod angen sicrhau y ceir y cydbwysedd cywir o ran yr amrywiaeth o
ddigwyddiadau, ac, ar yr un pryd, bod angen bod yn ystyriol o ran rheoli’n
ofalus ganfyddiadau rhanddeiliaid ynghylch unrhyw newid yn y trefniant ac wrth
drefnu digwyddiadau.
Er mwyn caniatáu digon o amser ar gyfer rhagor o waith drafftio, bydd y
papur yn cael ei roi i’r Comisiwn yn ei gyfarfod ar 15 Mai.
Cyfarfod: 26/01/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Ystâd y Cynulliad
Cofnodion:
Cadarnhaodd Dave Tosh ei fod wedi cwrdd â phob un o'r Comisiynwyr i roi’r
wybodaeth ddiweddaraf iddynt am y gwaith sydd ar y gweill. Gofynnodd y
Comisiynwyr am bapur i roi gwybodaeth gefndir ychwanegol.
Penderfynodd y Comisiynwyr gyfyngu ar gwmpas y gwaith sydd i'w wneud i
archwilio'r opsiynau ar gyfer darparu capasiti yn y dyfodol.
Cyfarfod: 05/12/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Ystâd y Cynulliad
Cofnodion:
Rhoddwyd
diweddariad cryno i'r Comisiynwyr o'r trafodaethau cychwynnol a gynhaliwyd ac
sydd wedi'u cynllunio. Roedd disgwyl
ymatebion i’r ar gyfer y gwaith sydd angen ei wneud ar yr ystafelloedd pwyllgor
newydd ar y llawr gwaelod yn fuan, gan ddisgwyl y bydd y gwaith yn digwydd yn
bennaf rhwng y Nadolig a'r Pasg.
Cyfarfod: 03/11/2016 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Capasiti Ystâd y Cynulliad yn y dyfodol
Cofnodion:
Trafododd
y Comisiynwyr faterion sy'n gysylltiedig â chapasiti ystâd y Cynulliad yn y
tymor byr a'r tymor hwy. Maent yn cefnogi'r gwaith i wella darpariaeth o ran
ystafelloedd pwyllgora a chytunwyd y dylid trafod yr opsiynau i alluogi
penderfyniadau yn y dyfodol.
Cyfarfod: 07/07/2014 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Gwneud y gorau o ystâd y Cynulliad
papur 3
Cofnodion:
Cwblhawyd
nifer o ychwanegiadau a gwelliannau yn ystod y 12 mis diwethaf ac maent wedi
gwella'r amgylchedd i'r rhai sy'n gweithio ar Ystâd y Cynulliad neu'n ymweld â
hi. Mae'r rhain yn cynnwys newidiadau i drefniadau diogelwch Tŷ Hywel a'r
dderbynfa sydd wedi gwella profiadau ymwelwyr yn arw a chrewyd hefyd
ystafelloedd cyfarfod lle gall yr Aelodau gyfarfod â'r rhai sy'n ymweld â'r
adeilad, mae arwyddion newydd wedi'u gosod ger y Senedd ac mae rhai o'r
cyfleusterau wedi'u gwella. Yn dilyn adborth gan yr Aelodau, mae'r system
wresogi wedi'i gwella i greu amgylchedd gwaith mwy cyfforddus yn y Senedd, y
Siambr, yr ystafelloedd pwyllgora a'r swyddfeydd. Byddai gwaith yn cael ei
wneud dros doriad yr haf i adnewyddu gweddill y toiledau yn Nhŷ Hywel.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylai'r tîm Rheoli
Ystadau a Chyfleusterau ystyried meysydd eraill i'w gwella fel rhan o waith
cynnal a chadw parhaus. Yn ystod gweddill y Cynulliad hwn, dylid rhoi
blaenoriaeth i wella'r safleoedd hynny a gaiff eu defnyddio gan y nifer
sylweddol sy'n ymweld ag Ystâd y Cynulliad, fel y Pierhead a'r ystafelloedd
cynadledda yn Nhŷ Hywel. Dylai'r tîm hefyd ystyried
unrhyw adborth sy'n codi yn yr arolwg blynyddol o'r Aelodau a'u staff cymorth,
a fydd ar gael yn ystod toriad yr haf.
Byddai'r tîm
yn cysylltu â Grwpiau Plaid i nodi unrhyw newidiadau angenrheidiol (fel
dodrefnu swyddfeydd yr Aelodau a'r Grwpiau) i sicrhau eu bod yn parhau i
ddiwallu eu hanghenion. Byddai unrhyw waith mawr yn cael ei wneud yn ystod y
cyfnod diddymu rhwng y Pedwerydd a'r Pumed Cynulliad, i amharu cyn lleied â
phosibl ar yr Aelodau a'u staff.
Awgrymwyd
hefyd y dylid archwilio'r posibilrwydd o godi wal wydr yn neuadd Siambr Hywel i
greu lle hyblyg ychwanegol ar gyfer digwyddiadau etc.
Cyfarfod: 18/04/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Adolygiad strategol o ystâd y Cynulliad 2013
Papur 2
(rhannau 1 a 2)
Cofnodion:
Rhaid rheoli Ystâd y Cynulliad
yn ofalus er mwyn gwneud y defnydd mwyaf effeithiol o’r cyfleusterau sydd ar
gael. Mae’r adeiladau eiconig yn ganolog i allu’r Cynulliad i ymgysylltu â
phobl Cymru a thu hwnt ac i godi ymwybyddiaeth o’r Cynulliad fel cartref
democratiaeth Cymru.
Trafododd y Comsiynwyr yr
heriau presennol a’r heriau posibl yn y dyfodol ar yr ystâd, a nodwyd nifer o
faterion i’w hystyried yn fanylach.
Gall y galw am y lleoedd
cyfyngedig sydd ar gael fod yn uchel iawn ar adegau penodol ac maent yn
amrywio’n sylweddol drwy gydol y flwyddyn. Cytunwyd y dylai’r defnydd o
gyfleusterau fel ystafelloedd cyfarfod fod yn hyblyg ac y dylid eu rheoli’n
greadigol fel y gellir diwallu anghenion holl ddefnyddwyr yr ystâd, yn enwedig
yn ystod cyfnodau prysur fel ar ddiwrnodau busnes pan fo’r ystafelloedd
cyfarfod i gyd yn llawn.
Cynhaliwyd adolygiad o’r
swyddfeydd sydd ar gael i weithwyr y Comisiwn yn ddiweddar er mwyn canfod
cyfleoedd i wneud y gorau o’r lle. Bydd angen i unrhyw newidiadau yn y defnydd
o le adlewyrchu blaenoriaethau’r Comisiwn ac anghnenion y Cynulliad.
Pwysleisiodd y Comisiynwyr yr angen i feddwl am yr heriau yn y dyfodol ar yr
holl ystâd, gan gynnwys y presenoldeb yn y gogledd, wrth wneud penderfyniadau
ynghylch rheoli’r ystâd. Dylid adolygu trefniadau ar gyfer isbrydlesu’r ystâd
er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r diben ac yn cynrychioli gwerth am arian.
Cytunwyd y byddai angen edrych
ar y materion canlynol ymhellach:
·
Defnyddio’r
lle yn Nhŷ Hywel a’r Senedd i
sicrhau y gellir diwallu anghenion y rhai sy’n defnyddio’r adeilad, yn enwedig
yn ystod cyfnodau prysurach;
·
Trefniadau
isbrydlesu yn Nhŷ Hywel;
·
Prydles
hirdymor Tŷ Hywel;
·
Swyddfa’r
Cynulliad yn y gogledd.
Cyfarfod: 07/02/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Ystad sy'n addas i'r diben - Portico allanol
Cyfarfod: 29/11/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Prosiect Derbynfa Tŷ Hywel