Cyfarfodydd
Cynllun Ieithoedd Swyddogol
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 17/06/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad Blynyddol y Cynllun Ieithoedd Swyddogol 2023-24
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
Adolygodd y Comisiynwyr yr Adroddiad Blynyddol drafft ar y Cynllun
Ieithoedd Swyddogol sy’n manylu’r gwaith a wnaed ar draws y sefydliad yn ystod
2023-24, i ganiatáu i’r Comisiwn gynnal ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau
dwyieithog rhagorol.
Mae'n ofynnol i Gomisiwn y Senedd osod adroddiad gerbron y Senedd yn nodi
sut y mae'r Comisiwn wedi rhoi'r Cynllun ar waith yn ystod y flwyddyn dan
sylw.
Diolchodd
y Comisiynydd â’r portffolio Ieithoedd Swyddogol i’r Gwasanaeth Cyfieithu a
Chofnodi am y polisïau blaengar sydd wedi bod o fudd i’r ystad ac mewn
gweithgareddau ymgysylltu. Soniodd y Comisiynwyr am fywiogrwydd ac
optimistiaeth y timau sy'n croesawu pobl i'r senedd.
Cytunodd y Comisiynwyr ar yr adroddiad blynyddol drafft,
gan gytuno y byddai’r Rhagair gan y Comisiynydd sy'n gyfrifol am yr Ieithoedd
Swyddogol yn cael ei ddarparu i'r Comisiynwyr i’w nodi.
Nodwyd hefyd y
byddai’r adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi ar-lein ac y byddai cynnig yn
cael ei gyflwyno gan y Llywydd i alluogi i’r ddadl ofynnol yn y Cyfarfod Llawn
gael ei chynnal.
Cyfarfod: 19/06/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad Blynyddol y Cynllun Ieithoedd Swyddogol 2022-23
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 6
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
Cyflwynodd y Comisiynydd gyda'r portffolio Ieithoedd Swyddogol yr adroddiad
ar y gwaith a wnaed ar draws y sefydliad i alluogi'r Comisiwn i gynnal ei
ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol, gan gynnwys cymeradwyo a
gweithredu'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd.
Cytunodd y Comisiynwyr
ar yr adroddiad gan nodi y byddai dadl yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei threfnu cyn
diwedd y tymor.
Cyfarfod: 28/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 5)
- Gweddarllediad ar gyfer 28/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 28/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd a nodi'r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer 2021-22
NDM8078 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cymeradwyo
Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd, yn unol â pharagraff 8(11)(d) o
Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd
gerbron Senedd Cymru ar 21 Medi 2022; a
2.
Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd
ar gyfer y cyfnod 2021-22, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd
gerbron y Senedd ar 30 Mehefin 2022.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 15.20
NDM8078 Elin Jones
(Ceredigion)
Cynnig
bod y Senedd:
1.
Yn cymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd, yn unol â
pharagraff 8(11)(d) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron
Senedd Cymru ar 21 Medi 2022; a
2.
Yn nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd
ar gyfer y cyfnod 2021-22, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006, a osodwyd gerbron
y Senedd ar 30 Mehefin 2022.
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 21/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 21/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn
- Trawsgrifiad ar gyfer 21/09/2022 - Y Cyfarfod Llawn
Cynnig i gymeradwyo'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd a nodi'r adroddiad blynyddol ar y Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer2021-22 - Gohiriwyd tan 28 Medi
Cofnodion:
Gohiriwyd yr eitem hon
Cyfarfod: 20/06/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Blynyddol y Cynllun Ieithoedd Swyddogol 2021-22
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
- Cyfyngedig 15
Cofnodion:
Cytunodd y Comisiynwyr
ar yr adroddiad ar y gwaith a wnaed ar draws y sefydliad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf
i alluogi'r Comisiwn i gynnal ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog
rhagorol.
Trafododd y
Comisiynwyr daith dysgwyr a phwysigrwydd bod yn gynhwysol wrth alluogi staff i
ddysgu, gan gadw mewn cof y drafodaeth flaenorol ar amrywiaeth a chynhwysiant.
Gwnaeth y Comisiynwyr sylwadau ar y berthynas â recriwtio, gan gydnabod gwerth
data a gwaith allgymorth wrth gael gwared ar rwystrau.
Cyfarfod: 31/01/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Cynllun Ieithoedd Swyddogol ar gyfer y Chweched Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18
- Cyfyngedig 19
Cyfarfod: 04/11/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 8)
- Gweddarllediad ar gyfer 04/11/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 04/11/2020 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2019-20
NDM7447 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd,
yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:
Yn nodi'r Adroddiad
Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd, a osodwyd
gerbron y Senedd ar 18 Mehefin 2020.
Cofnodion:
Dechreuodd
yr eitem am 15.41
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7447
Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod y Senedd, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru
2006:
Yn
nodi'r Adroddiad Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd, a osodwyd gerbron y Senedd ar
18 Mehefin 2020.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig:
|
O
blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
|
52 |
3 |
0 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Adroddiad Blynyddol ar Gydymffurfio â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24
Cofnodion:
Yn unol â Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012,
bu'r Comisiynwyr yn ystyried adroddiad o'r gwaith a wnaed ar draws y sefydliad
yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, i alluogi'r Comisiwn i gynnal ei ymrwymiad i
ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol.
Cymeradwyodd y
Comisiynwyr yr Adroddiad.
Cyfarfod: 17/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 7)
- Gweddarllediad ar gyfer 17/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 17/07/2019 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018 - 19
NDM7126 Elin
Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006:
Yn nodi'r Adroddiad
Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd
gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Gorffennaf 2019.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 16.02
NDM7126 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol
Cymru, yn unol â pharagraff 8 (8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006:
Yn nodi'r Adroddiad
Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 10 Gorffennaf 2019.
Derbyniwyd y cynnig yn
unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 10/06/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad Blynyddol ar Gydymffurfio â’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 29
- Cyfyngedig 30
Cofnodion:
Mae’n ofynnol i Gomisiwn
y Cynulliad “osod adroddiad gerbron y Cynulliad yn nodi sut y mae’r Comisiwn, yn
ystod y flwyddyn dan sylw, wedi rhoi effaith i’r Cynllun” - Deddf Cynulliad
Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012.
Adolygodd y Comisiynwyr
adroddiad yn trafod y gwaith a wnaed ar draws y sefydliad yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf. Gwnaethant geisio sicrwydd ynghylch y ffordd
y mae’r cynllun yn gweithredu mewn perthynas â recriwtio, a thrafodwyd
cyfleoedd i gymryd rhan yn rhaglen Common Voice Mozilla i gasglu recordiadau o
bobl yn siarad i helpu i ddysgu peiriannau sut mae pobl yn siarad yn Gymraeg.
Cymeradwyodd y
Comisiynwyr yr adroddiad drafft, yn amodol ar fân newidiadau, cyn y ddadl yn y
Cyfarfod Llawn.
Cyfarfod: 18/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd (Eitem 9)
- Gweddarllediad ar gyfer 18/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
- Trawsgrifiad ar gyfer 18/07/2018 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2017 - 18
NDM6774
Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006:
Yn nodi'r Adroddiad
Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad, a osodwyd
gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Gorffennaf 2018.
Cofnodion:
Dechreuodd yr eitem am 17.10
NDM6774 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â pharagraff 8(8) o Atodlen 2 i Ddeddf
Llywodraeth Cymru 2006:
Yn
nodi'r Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn
y Cynulliad, a osodwyd
gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 11 Gorffennaf 2018
Derbyniwyd
y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cyfarfod: 04/06/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Yr Adroddiad Blynyddol drafft ar Gydymffurfio â’r Cynllun Ieithoedd Swyddogol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
- Cyfyngedig 36
Cyfarfod: 02/03/2017 - Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu - Y Bumed Senedd (Eitem 2)
2 Llythyr at y Cadeirydd gan Adam Price AC, Comisiwn y Cynulliad: Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol Drafft
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 26/01/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Y Cynllun Ieithoedd Swyddogol newydd a'r gofynion o ran cyflwyno adroddiad blynyddol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 43
- Cyfyngedig 44
- Cyfyngedig 45
Cofnodion:
Cyflwynodd Adam Price, sef deiliad y portffolio, gynigion ar gyfer Cynllun
Ieithoedd Swyddogol newydd Comisiwn y Cynulliad ar gyfer y Pumed
Cynulliad.
Rhoddodd y Comisiynwyr sylw arbennig
i'r ymgynghoriad a gynhaliwyd a'r ffyrdd y mae barn y rhai yr ymgynghorwyd â
hwy wedi cynorthwyo i lunio'r Cynllun drafft.
Roedd yr
ymatebion i'r ymgynghoriad yn gefnogol ar y cyfan ac ystyriodd y Comisiynwyr
rai o'r meysydd lle y gwnaed awgrymiadau a'r addasiadau a wnaed i'r drafft o
ganlyniad. Trafodwyd hefyd sut y byddai staff yn cael eu cefnogi a'r berthynas
rhwng cyfrifoldebau'r Comisiwn i ddarparu gwasanaethau yn y ddwy iaith
swyddogol, a chyfrifoldebau eraill, er enghraifft cydraddoldebau.
Nododd y Comisiynwyr y camau
cadarnhaol a gymerwyd ers cyflwyno'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol, ac roeddent
yn cytuno bod y fersiwn a ystyriwyd gan y Comisiwn yn gam i fyny o ran
darpariaeth gwasanaeth a dull gweithredu cytbwys er mwyn ein symud tuag at
gyflawni ein huchelgais.
Derbyniodd y Comisiynwyr y Cynllun Ieithoedd Swyddogol drafft, cynigion ar
gyfer rhagor o waith craffu ar y Cynllun cyn ei gymeradwyo yn ffurfiol yn y
Cyfarfod Llawn, ac y dylai Adam Price AC gymeradwyo'r fersiwn derfynol ar ran
Comisiwn y Cynulliad.
Hefyd, derbyniodd y Comisiwn yr adroddiad blynyddol drafft, a fydd yn cael
ei osod i'w ystyried gan y Cyfarfod Llawn maes o law, gan ddod â'r Cynllun
Ieithoedd Swyddogol presennol i ben.