Cyfarfodydd

Blaenraglen Waith - y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 14/01/2021 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Ystyried blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Bu’r Aelodau'n trafod y flaenraglen waith.

 

 


Cyfarfod: 21/10/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith, gan gytuno ar y materion a ganlyn:

- i gynnal sesiwn dystiolaeth y tymor nesaf i drafod busnes sy’n gysylltiedig â COVID-19;

- dull ar gyfer y gwrandawiad cyn penodi’r ymgeisydd a ffafrir ar gyfer rôl Cadeirydd Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru;

- i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg i gyflwyno crynodeb o ganfyddiadau’r Pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad byr i wella ysgolion a chodi safonau, a oedd wedi’i oedi oherwydd y pandemig;

- pa feysydd yr hoffai’r Pwyllgor ganolbwyntio arnynt ym mhob sesiwn ar yr Adroddiad Blynyddol;

- i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am wybodaeth ysgrifenedig fanwl i helpu i lywio gwaith craffu’r Pwyllgor ar y gyllideb ddrafft;

- i ddychwelyd at y drafodaeth ar gyllid ysgolion yn y dyfodol;

- i ddychwelyd at y drafodaeth ar waith ar etifeddiaeth y Pwyllgor yn y dyfodol; a

- bod staff y Pwyllgor yn cadw llygad ar fframweithiau cyffredin y DU sy’n berthnasol i waith y Pwyllgor.

 


Cyfarfod: 20/07/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 9)

9 Blaenraglen waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Trafododd y Pwyllgor bapur ar y flaenraglen waith.

9.2 Cytunodd yr Aelodau ar y canlynol:

- ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes i ofyn am slot i gyfarfod yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 19 Hydref 2020, er mwyn cwblhau’r gwaith o graffu ar y Bil;

- y drefn a awgrymir ar gyfer gwaith a ohiriwyd yn sgil COVID-19;

- y rhaglen waith ar gyfer tymor yr hydref, gan ychwanegu’r gwaith o drafod adolygiad Llywodraeth Cymru o gyllid ysgolion pan fo’n briodol.

 

 


Cyfarfod: 07/07/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Trafod deddfwriaeth sydd ar ddod

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y ddeddfwriaeth sydd ar ddod.

 


Cyfarfod: 09/06/2020 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 12)

Dull y Pwyllgor o ran y ddeddfwriaeth sydd ar ddod

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

12.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei ddull o ymdrin â deddfwriaeth sydd ar ddod.

12.2 Fe wnaeth y Pwyllgor y canlynol:

 

·         cytunodd ar ddull mewn egwyddor o graffu ar Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) yng Nghyfnod 1, yn amodol ar ei gyflwyno cyn toriad yr haf;

·         nododd ddatganiad Llywodraeth Cymru ar 9 Mehefin 2020 yn nodi y bydd y Bil Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) yn cael ei gyhoeddi fel Bil Drafft a bydd ei gyflwyno’n cael ei ohirio; a

·         cytunodd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ddiweddariad ar yr amserlenni ar gyfer gweithredu camau nesaf o ran y diwygiadau Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac arwydd a fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ymateb i’r pwyntiau a godwyd yn ystod yr ymgynghoriad y llynedd ar y Cod ADY Drafft cyn gosod y fersiwn derfynol gerbron y Senedd.

·          

 


Cyfarfod: 18/07/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Llythyr gan y Gweinidog Addysg - y wybodaeth ddiweddaraf am Addysg yn y Cartref

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/06/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Cadeirydd at y Gweinidog Addysg – Addysg ddewisol yn y cartref

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 26/06/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Cadeirydd at Gomisiynydd Plant Cymru – Addysg ddewisol yn y cartref

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/06/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith. Cytunodd yr Aelodau ar y canlynol ar gyfer tymor yr hydref:

·         Sesiwn graffu gyda'r Gweinidog Addysg ar y cwricwlwm newydd fel rhan o waith craffu parhaus y Pwyllgor ar ddiwygio'r cwricwlwm;

·         Sesiwn unigol ar ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar, i gynnwys gwaith dilynol ar Dechrau'n Deg: allgymorth a materion sy'n codi wrth graffu ar y Bil Cyllido Gofal Plant;

·         Ymchwiliad byr i Hawliau Plant yng Nghymru  ;

·         Craffu ar y Gyllideb Ddrafft;

·         Ymchwiliad i Addysg heblaw yn yr ysgol neu mewn Unedau Atgyfeirio Disgyblion;

·         Sesiwn unigol ar wella ysgolion a chodi safonau; a

·         Gwaith dilynol parhaus ar ymrwymiadau presennol a chraffu ar adroddiadau blynyddol.

7.2 Nododd y Pwyllgor y wybodaeth sydd ar gael am y rhaglen ddeddfwriaethol, gan gynnwys yr angen a ragwelir i gwblhau trafodion Cyfnod 2 o Fil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) os yw'n pasio Cyfnod 1.  

 

 

 

 


Cyfarfod: 13/02/2019 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 O dan Reol Sefydlog 17.24A, datganodd Hefin David fod ei ferch wedi cael diagnosis o awtistiaeth.

 

1.2 Ystyriodd y Pwyllgor ei flaenraglen waith. 

 

1.3 Trafododd yr Aelodau raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, â’r Biliau sy’n debygol o gael eu hanfon i’r Pwyllgor yn ymwneud â:

  • chael gwared ar amddiffyniad cosb resymol;
  • addysg ôl-orfodol a hyfforddiant;
  • diwygio'r cwricwlwm. 

 

1.4 Cytunodd yr Aelodau ar y dulliau a gymerir ar gyfer darnau penodol o waith maent wedi ymrwymo i’w cynnal, gan gynnwys:

  • gwaith craffu dilynol ar weithredu'r argymhellion yn ei adroddiad Cadernid Meddwl;
  • Adolygiad Diamond a gwaith craffu ariannol yn ystod y flwyddyn: cyllid Addysg Uwch ac Addysg Bellach;
  • Craffu ôl-ddeddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015. 

 

1.5 Cytunodd yr Aelodau i ystyried, maes o law, gwmpas y gwaith ar:

  • wella ysgolion a chodi safonau;
  • Unedau Cyfeirio Disgyblion (UCDau), gwaharddiadau ac addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS);
  • Craffu ôl-ddeddfu ar Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011;
  • Gwaith craffu dilynol ar weithredu argymhellion ei adroddiad Dechrau'n Deg: Allgymorth

 

 


Cyfarfod: 10/10/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Ymchwiliad i gyllido ysgolion - Trafod y dull gweithredu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl diwygiedig a'r dull casglu tystiolaeth.


Cyfarfod: 26/09/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

1 Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

1.1 Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.

 


Cyfarfod: 20/09/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 1)

Papur briffio technegol ar yr Adolygiad Annibynnol o Dâl ac Amodau Athrawon

Cofnodion:

1.1 Cafodd Aelodau eu briffio gan aelodau'r panel.

 


Cyfarfod: 20/09/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol - Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/09/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr at y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol - Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/09/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr oddi wrth y Llywydd - Mentrau Senedd@

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 18/07/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr oddi wrth y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol - Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd.

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/06/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

Ystyried Blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

3.1 Trafododd y Pwyllgor bapur ar y flaenraglen waith.

 


Cyfarfod: 14/06/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei ddull gweithredu ar gyfer gwaith yn y dyfodol yn ymwneud â:

·         Cyllido Ysgolion

·         Gwaith Athrawon Cyflenwi

·         Strategaeth Gordewdra Genedlaethol

·         Craffu ar ôl deddfu ar Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru)

·         Craffu ar ôl deddfu ar Ddeddf Addysg Uwch (Cymru) 2015

 

 


Cyfarfod: 24/05/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Cod Trefniadaeth Ysgolion

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/05/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr at y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant - Grant Cyflawni Plant a Theuluoedd

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/05/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

7 Blaenraglen Waith - dull gweithredu'r ymchwiliad i statws Bagloriaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl a'r dull o gasglu tystiolaeth a gwaith ymgysylltu.

 


Cyfarfod: 02/05/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

6 Blaenraglen Waith y Pwyllgor - Sesiwn gynllunio strategol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith ar gyfer y tymor hir. Cytunodd y byddai darnau penodol yn cael eu cwmpasu a'u trafod mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 

6.2 Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i Fagloriaeth Cymru, gan lansio ymgynghoriad cyn toriad yr haf.

 

6.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am y wybodaeth ddiweddaraf am Ofal Newyddenedigol, yn enwedig mewn perthynas â'r trydydd rhifyn o'r safonau newyddenedigol.

 

6.4 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet am eglurhad o'r sefyllfa o ran cyllid ar gyfer y Grant Darparu Plant a Theuluoedd.

 

6.5 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet, yn gofyn am ragor o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer y Cod Trefniadaeth Ysgolion sydd ar ddod.

 

6.6 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i dynnu sylw at bryderon ynghylch y defnydd o ddata dros dro gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cyllidebau drafft.

 

6.7 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn amlinellu rhai materion allweddol y mae am eu hystyried fel rhan o'r cylch cyllideb nesaf, gan gynnwys ei ddisgwyliadau y darperir Asesiad o'r Effaith ar Hawliau Plant ar gyfer y Gyllideb Ddrafft 2019 - 2020.

 

 


Cyfarfod: 15/02/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

7.1 Nododd y Pwyllgor y papur a chytunodd cynnal sesiwn fwy manwl ar ôl toriad y Pasg.

 


Cyfarfod: 18/01/2018 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

8 Blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Llythyr gan Lywodraeth Cymru - Ysgolion Bro

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 16/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

4 Blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 08/11/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4.1)

4.1 Llythyr oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Ysgolion bro

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/10/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Diweddariad ar y Flaenraglen Waith

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

6.1 Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith, a chytuno i wahodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a'r Athro Donaldson i'r Pwyllgor am sesiwn graffu ar y datblygiadau diweddaraf ynghylch y Cwricwlwm.

 

6.2 Yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl diwygiedig ar gyfer yr ymchwiliad i gyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol.

 


Cyfarfod: 12/10/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Llywydd - Senedd@Delyn

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/10/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Gwir Anrhydeddus Robert Halfon AS, Cadeirydd y Pwyllgor Addysg

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/10/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr at Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg – Ysgolion Bro

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 04/10/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan Dr Sarah Wollaston AS, Cadeirydd Pwyllgor Iechyd Tŷ'r Cyffredin

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/09/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg - Ysgolion bro

Ysgrifennodd y Cadeirydd at Ysgrifennydd y Cabinet i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am ysgolion bro, a darperir y wybodaeth yn y llythyr.

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/09/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

5 Llythyr gan y Cadeirydd at y Llywydd - Rhaglen ar gyfer y ddeddfwriaeth sydd ar ddod

Trafododd y Pwyllgor hyn yn y cyfarfod ar 20 Gorffennaf. Dyma'r ymateb a anfonwyd ar ran y Pwyllgor at y Llywydd.

 

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/07/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr gan y Llywydd a Chadeirydd y Pwyllgor Busnes –Rhaglennu deddfwriaeth sydd ar y gweill

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 20/07/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Llythyrau gan y Llywydd - Rhaglennu deddfwriaeth sydd ar ddod a Gweithredu Deddf Cymru 2017

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y llythyrau a chytunwyd ar ei ymateb iddynt.

 


Cyfarfod: 14/06/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 3)

3 Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 14/06/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 5)

Ystyried blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y flaenraglen waith. Cytunwyd ar gylch gorchwyl yr ymchwiliadau i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed a chyllid wedi'i dargedu i wella canlyniadau addysgol. Caiff yr ymchwiliad i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed ei lansio cyn toriad yr haf.

 

Cytunwyd mynd ati i gasglu tystiolaeth lafar yn nhymor yr hydref ar gyfer dau ymchwiliad ar y 1,000 diwrnod cyntaf – Dechrau'n Deg a'r gweithlu.

 

 

 

 

 


Cyfarfod: 05/04/2017 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith. Byddai papur cwmpasu ar ymchwiliadau posibl yn y dyfodol yn cael ei ystyried mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 08/12/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 7)

Blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl ar gyfer y gwaith ar Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon a'r ymgynghoriad ar y 1000 Diwrnod Cyntaf.

 

 


Cyfarfod: 30/11/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 8)

Blaenraglen waith y Pwyllgor - cytuno ar yr ymchwiliad nesaf

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei flaenraglen waith. Cytunodd y Pwyllgor i gynnal rhywfaint o waith ar hyfforddiant athrawon, sef 'y 1000 diwrnod cyntaf', a chytunodd i barhau â'i waith ar Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.

 


Cyfarfod: 20/10/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 1.)

Pennu strategaeth a chynllunio blaenraglen waith

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 12/10/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y flaenraglen waith. Cytunwyd i gynnal ymchwiliadau i'r ddarpariaeth o ran eiriolaeth statudol a'r Grant Gwella Addysg: Plant Sipsiwn, Roma a Theithwyr, a phlant o leiafrifoedd ethnig. Cytunwyd hefyd i weithio ar y broses o weithredu diwygiadau'r cwricwlwm a chraffu ar Adroddiad Blynyddol Cymwysterau Cymru. 

 


Cyfarfod: 14/09/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 4)

Trafod blaenraglen waith y Pwyllgor

Papur preifat 2

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar yr amlinelliad o’i flaenraglen waith dros dro ar gyfer tymor yr hydref.  Cytunodd y Pwyllgor i drafod y mater ymhellach yn ei gyfarfod nesaf, ochr yn ochr â’r ymatebion a gafwyd i ymgynghoriad cyhoeddus y Pwyllgor ar ei flaenoriaethau.


Cyfarfod: 13/07/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 6)

Cyfrifoldebau'r Pwyllgor a materion y Pumed Cynulliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i gynnal ymchwiliad i wasanaethau ieuenctid yng Nghymru ac i ymgynghori â rhanddeiliaid ar eu blaenoriaethau ar gyfer y Pumed Cynulliad.


Cyfarfod: 07/07/2016 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd (Eitem 2.)

Cyfrifoldebau pwyllgor a materion y Pumed Cynulliad

Dogfennau ategol: