Cyfarfodydd

Buddsoddi Cyfalaf mewn Ysgolion

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 15/01/2014 - Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus – y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch Adroddiad y Pwyllgor ar Fuddsoddi Cyfalaf mewn Ysgolion

CYP(4)-01-13 – Papur i'w nodi 4

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/12/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

8 Buddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion: Y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-32-13 papur 9

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd y Pwyllgor yr ymateb pellach gan Lywodraeth Cymru, a chytunwyd i'w rannu gyda'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc.

 


Cyfarfod: 03/10/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 8)

Buddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion: Trafodaeth yr Aelodau ar yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru

PAC(4)-25-13 (papur 5)

PAC(4)-25-13 (papur 6)

 

 

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

8.1 Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth a gafwyd gan y Llywodraeth, a chytunasant i ysgrifennu at y Llywodraeth, i ofyn am eglurhâd ynghylch y materion a ganlyn:

 

Y sail rhesymegol ar gyfer penderfynu pa ysgolion yng nghategori C sy'n cael eu dewis ar gyfer y buddsoddiad cyntaf o dan y rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif, a rhestr o'r ysgolion hyn

Diffiniad o'r term 'addas i'r diben'

Y dull a ddefnyddir i archwilio ysgolion am asbestos

 


Cyfarfod: 06/06/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)

Ystyried y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am weithredu'r argymhellion yn adroddiadau'r Pwyllgor

Cofnodion:

7.1 Trafododd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr adroddiadau 'Arlwyo a Maeth Cleifion mewn Ysbytai'; 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'; a 'Buddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion'.

 

7.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidogion perthnasol yn nodi'r prif bryderon ac argymhellion.

 


Cyfarfod: 06/06/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)

4 Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar weithredu'r argymhellion a wnaed gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y trydydd Cynulliad ar 'Fuddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion'

PAC(4) 16-13 – Papur 3 – Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar ‘Fuddsoddiad Cyfalaf mewn Ysgolion’

Owen Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Owen Evans, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Addysg a Sgiliau, Llywodraeth Cymru; Melanie Godfrey, Cyfarwyddwr y Rhaglen Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif, Llywodraeth Cymru; a Sonia Reynolds, Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Rhaglen Trawsnewid.

 

4.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r tystion.

 

Camau gweithredu:

 

Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:

 

·         Dadansoddiad o'r nifer o ysgolion ym mhob categori a nodwyd gan arolwg stoc Llywodraeth Cymru yn 2009, gan gynnwys rhestr o'r ysgolion hynny ym Mand D.

 

4.3 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog yn nodi'r pryderon a gododd yr Aelodau yn y cyfarfod hwn.