Cyfarfodydd
Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 03/10/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011: Trafodaeth yr Aelodau ar yr ohebiaeth gan Lywodraeth Cymru
PAC(4)-25-13
(papur 3)
PAC(4)-25-13 (papur 4)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (7/1)
- Cyfyngedig 3
Cofnodion:
7.1 Mynegodd yr Aelodau siom ynghylch
ymateb Llywodraeth Cymru, ond teimla'r Aelodau y byddai'n fuddiol rhannu'r
ohebiaeth honno gyda'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
Cyfarfod: 06/06/2013 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar weithredu'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'
PAC(4) 16-13 –
Papur 2 – Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus’
Dr June Milligan,
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau, Llywodraeth Cymru
Dogfennau ategol:
- PAC(4) 16-13 (p2) Y diweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus’, Eitem 3
PDF 235 KB Gweld fel HTML (3/1) 88 KB
- Linc y'r Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus, Eitem 3
PDF 5 KB Gweld fel HTML (3/2) 3 KB
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Dr
June Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau,
Llywodraeth Cymru; Piers Bisson, Pennaeth yr Is-adran Diwygio'r Gwasanaethau
Cyhoeddus, Llywodraeth Cymru; ac Abigail Harris, Cyfarwyddwr Strategaeth a
Pholisi, yr Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.
3.2 Bu'r Pwyllgor yn holi'r
tystion.
Camau gweithredu:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i
ddarparu:
·
Ffigurau
sy'n dangos sut mae sgiliau rheoli cyllid yn y gwasanaeth cyhoeddus wedi
gwella;
·
Eglurhad
o gostau a buddion y gwaith a wnaed ar y cyd gan fentrau megis y Grŵp
Cyflawni Diwygio; Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus; Cyngor Partneriaeth;
Academi; a'r Comisiwn newydd ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus;
·
Nodyn
ynghylch y defnydd o systemau darbodus o fewn Llywodraeth Cymru;
·
Enghreifftiau
o achosion lle mae Llywodraeth Cymru wedi cyllido ymgynghorwyr i adolygu
mentrau'r system ddarbodus sydd heb gael eu gweithredu;
·
Rhagor o
fanylion ynghylch sut y bydd arfer da yn y sectorau iechyd a chymdeithasol yn
cael ei rhannu ar draws awdurdodau lleol.
3.3 Cytunodd y Pwyllgor i
ysgrifennu at y Gweinidog yn nodi'r pryderon a gododd y Pwyllgor yn y cyfarfod
hwn.
Cyfarfod: 02/10/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar ymateb Llywodraeth Cymru i 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'
PAC(4) 19-12 –
Papur 4 – Cyngor gan Archwilydd Cyffredinol Cymru
Dogfennau ategol:
Cofnodion:
3.1 Croesawodd y Cadeirydd Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru a Mark Jeffs o Swyddfa Archwilio Cymru, i’r cyfarfod.
3.2 Bu Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cynghori’r Pwyllgor ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Darlun o Wasnaethau Cyhoeddus.
Cyfarfod: 24/04/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
Ystyried yr adroddiad drafft, 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 15 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (3/1)
Cofnodion:
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad, ‘Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011’, a fydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan.
Cyfarfod: 20/03/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 7)
Ystyried adroddiad drafft ar 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 18 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (7/1)
Cofnodion:
Cyfarfod: 06/03/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 5)
Ystyried yr adroddiad drafft: Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 21 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (5/1)
Cofnodion:
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor ei adroddiad drafft: Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus.
Cyfarfod: 21/02/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Darlun o wasanaethau cyhoeddus - tystiolaeth gan Gonffederasiwn y GIG
PAC(4) 03-12 – Papur 1 – Conffederasiwn y GIG
Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr, Conffederasiwn GIG Cymru
Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
Dogfennau ategol:
- PAC(4) 03-12 (p1) - Conffederasiwn GIG Cymru (Saesneg yn unig), Eitem 2
PDF 125 KB Gweld fel HTML (2/1) 32 KB
Cofnodion:
2.1 Croesawodd y Cadeirydd Helen Birtwhistle, Cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, a Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan.
2.2 Holodd y Pwyllgor y tystion.
Pwyntiau gweithredu:
Cytunodd Conffederasiwn GIG Cymru i ddarparu’r hyn a ganlyn:
· Manylion am yr arian ychwanegol a ryddhawyd o gyllideb ddiweddar Llywodraeth Cymru a ddyrennir i Fyrddau Iechyd Lleol dros y tair blynedd nesaf.
· Rhagor o wybodaeth am lle y gwnaed arbedion ariannol arwyddocaol a lle y llwyddwyd i leihau costau’n sylweddol gan fyrddau iechyd unigol.
Cyfarfod: 17/01/2012 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 6)
Ystyried y dystiolaeth a gafwyd ynghylch yr adroddiad 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus'
Cofnodion:
Cyfarfod: 06/12/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2.)
Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011 – Y prif heriau sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus Cymru: tystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Cyfarfod: 22/11/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 3)
3 Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011 - Yr Heriau Ariannol Allweddol a Wynebir gan Wasanaethau Cyhoeddus yng Nghymru: Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru
Papur: PAC(4)
07-11 – Papur 1 – Tystiolaeth gan Lywodraeth Cymru: Darlun o Wasanaethau
Cyhoeddus 2011
Gillian Morgan,
Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru
June Milligan,
Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau
Michael Hearty, Cyfarwyddwr
Cyffredinol, Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad
Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr
Llywodreath Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus
Dogfennau ategol:
- PAC(4)-07-11 : Paper 1 : Picture of Public Services - Welsh Government, Eitem 3
PDF 219 KB Gweld fel HTML (3/1) 94 KB
Cofnodion:
3.1 Estynnodd y
Pwyllgor groeso i’r Fonesig Gillian Morgan, yr Ysgrifennydd Parhaol; June
Milligan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Llywodraeth Leol a Chymunedau; Michael
Hearty, Cyfarwyddwr Cyffredinol Cynllunio Strategol, Cyllid a Pherfformiad; a
Reg Kilpatrick, Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus.
3.2 Estynnodd y Pwyllgor groeso hefyd i Huw Vaughan
Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru, a Mark Jeffs, Swyddfa Archwilio Cymru.
3.3 Gofynnodd y Pwyllgor gwestiynau i’r tystion.
Camau i’w cymryd:
Cytunodd Llywodraeth Cymru i ddarparu:
· Proffil o’r arbedion y bydd adrannau Llywodraeth Cymru yn eu gwneud dros y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
· Rhagor o fanylion am gyllid ychwanegol a oedd ar gael i’r gwasanaeth iechyd yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf.
· Sut y defnyddiwyd methodoleg ddarbodus i ddatblygu Cyswllt Ffermio, gan gynnwys dulliau o leihau’r amser y mae’n rhaid i gwsmeriaid aros.
· Atebion i’r cwestiynau na chyrhaeddodd y Pwyllgor yn ystod y cyfarfod.
Cyfarfod: 18/10/2011 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Sesiwn friffio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru am adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, 'Darlun o Wasanaethau Cyhoeddus 2011'
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35 , Gweld rhesymau dros gyfyngu (4/1)
Cofnodion: