Cyfarfodydd

Ystyried materion gweithdrefnol cyn y Seithfed Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 03/03/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4.1)

Deisebau'r Cyhoedd: Adroddiad ar Newid Rheolau Sefydlog

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cyfarfod: 10/02/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Datganiadau o fuddiant: Adroddiad ar Newid Rheolau Sefydlog

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 4

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr adroddiad drafft.

 

 


Cyfarfod: 10/02/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Busnes Seneddol yn y Seithfed Senedd: Adroddiad ar Newid Rheolau Sefydlog

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 7

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar yr adroddiad drafft.

 

 


Cyfarfod: 10/02/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Llythyr gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad mewn perthynas â datganiadau o fuddiant

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 10

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes yr ymateb gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn cynnwys canllawiau arfaethedig ynghylch y gofyniad i Aelodau sy'n cyflwyno busnes ar ran eraill ddatgan buddiannau ar adeg ei gyflwyno. Dywedodd y Pwyllgor Busnes ei fod yn fodlon ar y cynnig.

 


Cyfarfod: 10/02/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Ystyried newidiadau i Reol Sefydlog 23

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 13

Cofnodion:

Dychwelodd y Pwyllgor Busnes at ystyried gwelliannau i'r Rheolau Sefydlog a gynigiwyd gan y Pwyllgor Deisebau a chytunodd i gynnig rhai o'r newidiadau i'r Senedd.

Penderfynodd y Pwyllgor Busnes na fyddai’n bwrw ymlaen â chynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 23.1, a fyddai wedi ei gwneud yn ofynnol i ddeisebau gael eu cyfeirio at un pwyllgor, ar y sail nad yw am gyfyngu ar hyblygrwydd y Pwyllgor Busnes nesaf pan fydd yn sefydlu pwyllgorau yn y Seithfed Senedd.

Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai adroddiad drafft ar newid Rheolau Sefydlog yn cael ei lunio i’w gytuno mewn cyfarfod yn y dyfodol.

 


Cyfarfod: 03/02/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Llythyr gan Fforwm y Cadeiryddion mewn perthynas â ffurfioli Fforwm y Cadeiryddion

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 16

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i beidio â chynnig unrhyw newidiadau i'r Rheolau Sefydlog ynghylch Fforwm y Cadeiryddion yn y Senedd bresennol.

Cytunodd y Pwyllgor i gynnwys y potensial ar gyfer ystyriaeth weithdrefnol o'r mater hwn fel rhan o'i adroddiad gwaddol cyn y Seithfed Senedd.

 

 


Cyfarfod: 03/02/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Llythyr gan y Pwyllgor Deisebau mewn perthynas ag ystyried newidiadau i Reol Sefydlog 23

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 19

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chynigion am newidiadau i'r Rheolau Sefydlog gan y Pwyllgor Deisebau. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod gyda'u grwpiau cyn dychwelyd i ystyried y newidiadau arfaethedig ymhellach yn ei gyfarfod nesaf.

 

 


Cyfarfod: 29/01/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)

Datgan buddiant

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 22

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gynnig newidiadau i'r Rheolau Sefydlog i roi effaith i argymhelliad 1 yn adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar ddatganiadau o fuddiant (gan ddileu'r gwaharddiad ar bleidleisio pan fo Aelod wedi datgan buddiant cofrestradwy). Cytunodd y dylai'r adroddiad sy’n cynnig newid y Rheol Sefydlog adlewyrchu'r rhesymau a roddir gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad dros ddileu'r gwaharddiad ar bleidleisio, a oedd yn cynnwys arddeliad y Pwyllgor hwnnw fod natur y gofyniad ynghylch gwaharddiad ar bleidleisio yn golygu mai dim ond mewn amgylchiadau penodol iawn y byddai'n cael ei sbarduno; nad oes unrhyw achosion ohono'n cael ei sbarduno yn y Senedd/Cynulliad; absenoldeb gofyniad o'r fath mewn deddfwrfeydd eraill yn y DU neu Iwerddon; a bod y ddarpariaeth bresennol wedi bod ar waith ers cyn gwahanu'r weithrediaeth a'r ddeddfwrfa yn ffurfiol yn 2007.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ohirio penderfyniad terfynol ynghylch argymhelliad 2 (datganiadau o fuddiant ar adeg cyflwyno) nes y byddai wedi cael ymateb i'w lythyr at y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn gofyn am sicrwydd y byddai'r canllawiau ar ddatganiadau o fuddiant yn mynd i'r afael â chymhwyso'r gofyniad i Aelodau a oedd yn cyflwyno busnes ar ran eraill (megis Rheolwyr Busnes yn cyflwyno busnes ar ran eu grŵp gwleidyddol, y Trefnydd yn cyflwyno busnes ar ran y llywodraeth, neu gadeiryddion pwyllgorau yn cyflwyno busnes ar ran eu pwyllgor).

 


Cyfarfod: 27/01/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Datganiadau o fuddiant: nodyn ychwanegol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 25

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes nodyn ychwanegol ynghylch materion a godwyd yn y cyfarfod blaenorol a chytunodd i ddychwelyd i ystyriaeth bellach o'r argymhellion a wnaed gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ei gyfarfod ddydd Iau 29 Ionawr, yn dilyn ymgynghori â grwpiau.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i ysgrifennu at y Pwyllgor Safonau Ymddygiad er mwyn gofyn i'w ddiwygiadau arfaethedig i'r canllawiau sy'n ymwneud â datgan buddiannau (y 'prawf perthnasedd') ddyfynnu Rheolwyr Busnes neu'r Trefnydd, wrth gyflwyno ar ran eu grŵp neu'r llywodraeth, fel enghraifft o lle na ellid fel arfer feddwl yn rhesymol bod buddiant personol wedi dylanwadu ar eu penderfyniad i wneud hynny.

 

 


Cyfarfod: 20/01/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 28

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes bapur yn cynnwys dadansoddiad o argymhellion a wnaed iddo gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn ei adroddiad ar ei Ymchwiliad i Gofrestru a Datgan Buddiannau: Datgan buddiannau.

Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod yr argymhellion gyda'u grwpiau gwleidyddol a'u hystyried ymhellach yng nghyfarfod y Pwyllgor Busnes ar 29 Ionawr.

Mewn perthynas ag argymhelliad 2 o'r adroddiad hwnnw, gofynnodd y Pwyllgor Busnes am ragor o wybodaeth am oblygiadau'r hyn a argymhellir ar gyfer cynigion sy'n cael eu cyflwyno gan Reolwyr Busnes ar ran eu grŵp gwleidyddol. Nododd y Trefnydd fod arferion Aelodau wrth ddatgan buddiannau ar lafar yn ystod trafodion yn amrywio o un i’r llall ac awgrymodd y dylid egluro'r gofyniad yn y canllawiau.

 

 


Cyfarfod: 01/10/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Paratoi at y Seithfed Senedd: Cynigion sy'n codi o ddiwrnod cwrdd i ffwrdd Comisiwn y Senedd / y Pwyllgor Busnes

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 31
  • Cyfyngedig 32
  • Cyfyngedig 33
  • Cyfyngedig 34
  • Cyfyngedig 35

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dirprwy Lywydd gynnig ar gyfer sefydlu pwyllgor newydd i ystyried ffyrdd o weithio yn y dyfodol a pharatoadau ar gyfer y Seithfed Senedd.

Cytunodd y Pwyllgor Busnes mewn egwyddor i gynnig i'r Senedd y dylid sefydlu pwyllgor, gyda'r trefniadau a ganlyn:

 

o   dylai'r Pwyllgor gael ei gadeirio gan y Dirprwy Lywydd mewn rôl sydd heb bleidlais (ac eithrio mewn achos pan fydd angen pleidlais fwrw);

o   dylai fod gan y pwyllgor bedwar aelod (dau yn cynrychioli Llafur Cymru, un yn cynrychioli'r Ceidwadwyr Cymreig, ac un yn cynrychioli Plaid Cymru);

o   o'r ddau le a ddyrennir i grŵp Llafur Cymru, dylai aelod o'r llywodraeth lenwi un, ac un lle gael ei lenwi gan aelod mainc gefn, yn cynrychioli'r grŵp Llafur;

o   gall cadeirydd y pwyllgor ystyried gwahodd Jane Dodds AS a Rhys ab Owen AS i gymryd rhan yng ngwaith y pwyllgor yn unol â Rheol Sefydlog 17.49, neu ddarparu tystiolaeth i lywio'r gwaith hwnnw;

o   cadeirydd y Pwyllgor i ystyried trefniadau ar gyfer galluogi pob aelod o'r pwyllgor i gael un person i fod yn bresennol yng nghyfarfodydd y pwyllgor mewn rôl gefnogol.

 

Mynegodd y Rheolwyr Busnes gefnogaeth mewn egwyddor i feysydd eang posibl gael eu cynnwys o fewn cylch gwaith y pwyllgor ac i hyn gael ei ddatblygu ymhellach fel rhan o gynnig i'r Senedd.