Cyfarfodydd

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Cyllid (Rhif 2)

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 25/02/2026 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 2)

2 PTN 1 - Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg ynghylch y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Cyllid (Rhif 2) - 17 Chwefror 2026

Dogfennau ategol:


Cyfarfod: 03/02/2026 - Y Cyfarfod Llawn (Eitem 10)

Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Cyllid (Rhif 2)

NDM9125 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)

 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Cyllid (Rhif 2) i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU.

Troednodyn:

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU: Finance (No. 2) Bill - Parliamentary Bills - UK Parliament

 

Dogfennau ategol:

Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

 

 

Cofnodion:

Dechreuodd yr eitem am 16.08 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio. 

NDM9125Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd) 

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Cyllid (Rhif 2) i’r graddau y maent yn ystyried materion datganoledig, gael eu hystyried gan Senedd y DU. 

Troednodyn: 

GosodwydMemorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Rhagfyr 2025 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2. 

Gellir gweld copi o’r Bil ar wefan Senedd y DU:Finance (No. 2) Bill - Parliamentary Bills - UK Parliament 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig: 

O blaid 

Ymatal 

Yn erbyn 

Cyfanswm 

37 

10 

47 

Derbyniwyd y cynnig. 

 

 

 


Cyfarfod: 27/01/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid at Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid (Rhif 2)

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y llythyr a chytunodd i roi gwybod i Bwyllgor Busnes y Seithfed Senedd y gallai fod angen iddo ystyried y goblygiadau gweithdrefnol sy'n deillio o gyfraddau treth incwm eiddo Cymru, a sut y byddai hyn yn gweithredu ochr yn ochr â phenderfyniad cyfraddau treth incwm blynyddol Cymru.

 

 


Cyfarfod: 26/01/2026 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 13)

13 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid (Rhif 2): Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft.


Cyfarfod: 21/01/2026 - Y Pwyllgor Cyllid (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid (Rhif 2)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

9.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dogfennau ategol a'r dystiolaeth a gafwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg mewn perthynas â'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol, a chytunodd i ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cabinet yn gofyn am ragor o wybodaeth.


Cyfarfod: 19/01/2026 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad (Eitem 9)

9 Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Cyllid (Rhif 2).

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol a chytunodd i drafod adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.