Cyfarfodydd
Trefniadau o ran Cyflwyno
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 10/02/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Cyflwyno ar ôl yr etholiad: Trefniadau cynnar
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y papur a:
- chytunodd y
bydd y Swyddfa Gyflwyno yn agor ar ôl Cyfarfod Llawn cyntaf y Seithfed
Senedd ar gyfer derbyn dogfennau a osodwyd, cwestiynau ysgrifenedig,
busnes brys, cynigion, gwelliannau, datganiadau barn, a gosod dogfennau;
- nododd y caiff
Cwestiynau Ysgrifenedig a gyflwynir o hynny ymlaen eu cyhoeddi yn y ffordd
arferol, a'r dyddiad olaf ar gyfer ateb cwestiynau ysgrifenedig fydd pum
niwrnod gwaith ar ôl iddynt gael eu cyflwyno; a
- nododd y caiff
Cwestiynau Ysgrifenedig a gyflwynir i Lywodraeth Cymru eu cyflwyno i’w
hateb gan y Prif Weinidog, a fydd yn penderfynu pwy ddylai eu hateb, hyd
nes y caiff Gweinidogion eraill eu penodi.
Cyfarfod: 10/02/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Trefniadau Cyflwyno
Cyfarfod: 27/01/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Pasg a'r Diddymiad
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
Ystyriodd y Pwyllgor Busnes gyngor gan y Swyddfa Gyflwyno
a chytunodd:
- mai'r terfyn
amser ar gyfer derbyn Cwestiynau Ysgrifenedig fydd 4pm ddydd Gwener 20
Mawrth;
- mai'r terfyn
amser ar gyfer derbyn eitemau eraill o fusnes a gyflwynir, ac eithrio
busnes brys yn ymwneud ag unrhyw gyfarfodydd adalw a gynhelir yn ystod
toriad y Pasg, fydd 4pm ddydd Gwener 27 Mawrth;
- y bydd y
Swyddfa Gyflwyno ar agor rhwng 10am a 3pm yn ystod y toriad, ac eithrio
dydd Mawrth 7 Ebrill pan fydd ar agor tan 6pm;
- nad oes modd
derbyn dim dogfennau i'w gosod os ydynt yn dod i law ar ôl 6pm ddydd
Mawrth 7 Ebrill;
- nad oes modd
gwneud unrhyw newidiadau i'r Gofrestr Buddiannau ar ôl 6pm ddydd Mawrth 7
Ebrill; ac
- mai'r dyddiad
olaf ar gyfer cyflwyno dogfennau sy'n ymwneud â gweithgareddau Grwpiau
Trawsbleidiol yw 6pm ddydd Mawrth 7 Ebrill ac y bydd yr holl Grwpiau
Trawsbleidiol yn cael eu dadgofrestru'n awtomatig unwaith y bydd y
diddymiad yn dechrau am hanner nos ddydd Mercher 8 Ebrill.
Cyfarfod: 27/01/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Trefniadau Cyflwyno
Cyfarfod: 18/11/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Nadolig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 12
Cofnodion:
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau arfaethedig ar
gyfer:
· gosod dogfennau yn ystod cyfnod y Nadolig;
· cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod wythnos gyntaf y tymor a
gwelliannau i Filiau; a
· cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig yn ystod toriad y Nadolig.
Cyfarfod: 18/11/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Trefniadau Cyflwyno
Cyfarfod: 08/07/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad yr haf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Cadarnhaodd
y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn
ystod toriad yr haf a chytunodd ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau
Ysgrifenedig.
Cyfarfod: 08/07/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Trefniadau Cyflwyno
Cyfarfod: 25/03/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Pasg
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 22
Cofnodion:
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn, cwestiynau
ysgrifenedig a gwelliannau i Filiau yn ystod toriad y Pasg, a newidiadau i
derfynau amser o ganlyniad i wyliau banc mis Mai.
Unrhyw
fater arall
Fformat
cyfarfodydd yn y dyfodol
Trafododd
Rheolwyr Busnes fformat cyfarfodydd y Pwyllgor Busnes yn y dyfodol a chytunodd
y bydd cyfarfodydd yn cael eu cynnal yn y cnawd o'r wythnos nesaf, gydag opsiwn
hybrid ar gael.
Cyfeiriodd
y Llywydd at y nifer uchel o faterion gweithdrefnol sydd i'w hystyried gan y
Pwyllgor dros y 12 mis sy’n weddill o'r Senedd hon, a nododd y gallai fod angen
i'r Pwyllgor Busnes ystyried defnyddio slot cyfarfod amgen yn rheolaidd ar
gyfer gwaith gweithdrefnol.
Darllenfa
Siambr Hywel
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y defnydd posibl ar gyfer ail ddarllenfa yn Siambr Hywel a
nododd y byddai'r Llywydd yn gwneud penderfyniad ynghylch a ddylid bwrw ymlaen
ar ôl ystyried yr opsiynau a'r gost o ddarparu un.
Cyfarfod: 25/03/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Trefniadau Cyflwyno
Cyfarfod: 05/11/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Nadolig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 27
Cofnodion:
Cadarnhaodd
y Pwyllgor Busnes y trefniadau arfaethedig ar gyfer
- gosod dogfennau yn ystod
cyfnod y Nadolig;
- cyflwyno busnes y Cyfarfod
Llawn yn ystod wythnos gyntaf y tymor; a
- chyflwyno Cwestiynau
Ysgrifenedig yn ystod toriad y Nadolig.
Cyfarfod: 05/11/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Trefniadau Cyflwyno
Cyfarfod: 09/07/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad yr Haf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y
trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod toriad yr haf a
chytunodd hefyd ar y trefniadau arferol ar gyfer cyflwyno Cwestiynau
Ysgrifenedig.
Cyfarfod: 09/07/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)
Trefniadau Cyflwyno
Cyfarfod: 12/03/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Pasg
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 37
Cofnodion:
Cytunodd
y Pwyllgor Busnes ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn, cwestiynau
ysgrifenedig a gwelliannau i Filiau yn ystod toriad y Pasg a gwyliau banc
priodol. At hynny, nododd y Pwyllgor fod y Gweinidogion y cyfeiriwyd atynt fel
rhai a oedd yn ateb Cwestiynau Llafar ar ôl toriad y Pasg yn destun newid yn
sgil penodi Llywodraeth newydd.
Cyfarfod: 12/03/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Trefniadau Cyflwyno
Cyfarfod: 05/12/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad y Nadolig
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 42
Cofnodion:
Cytunodd
y Pwyllgor Busnes ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn,
Cwestiynau Ysgrifenedig a gwelliannau i'r Bil Seilwaith (Cymru), pe bai'r egwyddorion
cyffredinol yn cael eu cytuno, yn ystod toriad y Nadolig.
Cyfarfod: 05/12/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Trefniadau Cyflwyno
Cyfarfod: 11/07/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)
Trefniadau cyflwyno yn ystod toriad yr haf
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 47
Cofnodion:
Cytunodd
y Pwyllgor Busnes ar y trefniadau ar gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn a’r
trefniadau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig yn ystod toriad yr
haf.
Cyfarfod: 11/07/2023 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)
Trefniadau cyflwyno
Cyfarfod: 28/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Trefniadau Cyflwyno yn ystod Toriad yr Haf 2022
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 52
Cofnodion:
Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y trefniadau ar gyfer
cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn a’r trefniadau ar gyfer cyflwyno Cwestiynau
Ysgrifenedig yn ystod toriad yr haf .
Cyfarfod: 28/06/2022 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Trefniadau cyflwyno
Cyfarfod: 16/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Toriad y Nadolig 2021: Trefniadau cyflwyno a gosod
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 57
Cofnodion:
Toriad y
Nadolig 2021: Trefniadau cyflwyno a gosod
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes ar y canlynol:
- cadarnhau’r trefniadau ar
gyfer gosod dogfennau yn ystod cyfnod y Nadolig, gan gynnwys cytuno ar y
cynnig i glerc ar ddyletswydd fod ar alwad i gyhoeddi unrhyw reoliadau a
osodir ar ddiwrnodau gwaith rhwng y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd.
- cadarnhau'r trefniadau ar
gyfer cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod wythnos gyntaf y tymor;
a’r
- trefniadau ar gyfer cyflwyno
Cwestiynau Ysgrifenedig.
Cyfarfod: 16/11/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Trefniadau Cyflwyno
Cyfarfod: 06/07/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Trefniadau cyflwyno yn ystod yr haf 2021
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 62
Cofnodion:
Cadarnhaodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau ar gyfer
cyflwyno busnes y Cyfarfod Llawn yn ystod toriad yr haf a chytunodd ar y
trefniadau arferol ar gyfer cyflwyno Cwestiynau Ysgrifenedig.
Cyfarfod: 06/07/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Trefniadau cyflwyno
Cyfarfod: 25/05/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Trefniadau cyflwyno dros gyfnod y Sulgwyn 2021
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 67
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor Busnes y
newidiadau canlynol i derfynau amser cyflwyno, oherwydd Diwrnod Gŵyl Banc
y Sulgwyn a Diwrnod Braint ar 31 Mai a 1 Mehefin:
·
Cynigion i'w trafod ddydd Mawrth 8
Mehefin i'w cyflwyno erbyn 4.00pm ddydd Gwener 28 Mai; a
·
Cynhelir balotau ar gyfer
cwestiynau llafar sydd i'w hateb ar 8 a 9 Mehefin am 9:30am ddydd Gwener 28
Mai.
Cyfarfod: 25/05/2021 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Trefniadau cyflwyno