Cyfarfodydd

Fframwaith ar gyfer y drefn busnes seneddol yn y Seithfed Senedd

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 16/12/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Busnes Seneddol yn y Seithfed Senedd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 2

Cofnodion:

Rhoddodd y Rheolwyr Busnes adborth gan eu grwpiau ar yr opsiynau amserlen lefel uchel ar gyfer Busnes Seneddol yn y Seithfed Senedd, a chytunodd i ofyn i swyddogion baratoi opsiwn wedi’i fireinio o amserlen tair wythnos i'w ystyried yn fanwl yn y Flwyddyn Newydd.

 

 


Cyfarfod: 16/12/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Newidiadau drafft i Ganllawiau ar y modd priodol o gynnal busnes y Senedd – cwestiynau llefarwyr

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 5

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor Busnes y diwygiadau arfaethedig i'r adran berthnasol o'r Canllawiau ar y modd priodol o gynnal busnes y Senedd, gyda'r bwriad o roi effaith i newidiadau i gwestiynau llefarwyr y cytunwyd arnynt ar 9 Rhagfyr. Dywedodd y Llywydd y bydd y Canllawiau diwygiedig ar waith cyn y Cyfarfod Llawn cyntaf yn 2026.

 

 


Cyfarfod: 13/11/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Busnes Seneddol yn y Seithfed Senedd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 8

Cofnodion:

Rhoddodd yr Aelodau adborth yn sgil ymgynghori â'u grwpiau ar y materion a drafodwyd yn y cyfarfod ar 16 Hydref.

 

Mewn perthynas â Rheol Sefydlog 11.10 (sy'n ymwneud ag ystod amser ar gyfer busnes), cytunodd y Pwyllgor i argymell diwygio'r Rheol Sefydlog hon drwy ddileu'r holl destun ar ôl y gair “trefniadau”.

Cytunodd y Pwyllgor i gynnig dileu Rheol Sefydlog 12.6(i) (sy'n ymwneud â'r gofyniad i gyfarfodydd llawn gael eu cynnal fel arfer ar ddydd Mawrth a dydd Mercher a dechrau am 1.30pm).

Cytunwyd ar y newidiadau arfaethedig hyn i'r Rheolau Sefydlog i wneud y mwyaf o'r hyblygrwydd a fyddai ar gael i'r Seithfed Senedd o ran penderfynu ar ei busnes seneddol.

Cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol:

  • peidio â diwygio Rheol Sefydlog 12.56(ii) sy'n ymwneud â'r cyfnod y mae'n rhaid trefnu bod amser ar gael ynddo i bob un o Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol ateb cwestiynau llafar yn y cyfarfod llawn); a
  • pheidio â newid nifer y cwestiynau llafar a ddewisir i’w hateb.

 

Gofynnodd y Llywydd i’r clercod roi cyngor iddi ar ymarferoldeb dileu llefarwyr o’r balot Cwestiynau Llafar o bosibl; a chyflwyno terfynau amser ar ymatebion Gweinidogion i gwestiynau.

Cytunodd y Llywydd i ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes eto, os bydd hi’n ystyried cynnig unrhyw welliannau i'r canllawiau yn dilyn ei hystyriaeth o gyngor clercod.

Nododd y Pwyllgor bwysigrwydd sicrhau bod hyfforddiant ar gyfer craffu effeithiol yn cael ei gynnig i Aelodau ar ddechrau'r Seithfed Senedd.

 

 

 


Cyfarfod: 13/11/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Busnes Seneddol yn y Seithfed Senedd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 11

Cofnodion:

Trafododd yr Aelodau’r materion a amlinellwyd yn y papur, a gwnaethant gytuno ar ymgynghori â’u grwpiau a rhannu adborth eu grwpiau mewn cyfarfod yn y dyfodol.


Cyfarfod: 16/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)

Busnes Seneddol yn y Seithfed Senedd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 14

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y papur. Cytunodd yr Aelodau i ymgynghori â'u grwpiau ar y materion yn y papur a rhoi adborth mewn cyfarfod dilynol.


Cyfarfod: 09/07/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Trefniadaeth busnes seneddol yn y Seithfed Senedd

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 17

Cyfarfod: 09/07/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)

Trefniadaeth busnes seneddol yn y Seithfed Senedd

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau ar y dull a awgrymwyd yn y papur.