Cyfarfodydd
Fframwaith ar gyfer y drefn busnes seneddol yn y Seithfed Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 16/12/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Busnes Seneddol yn y Seithfed Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Rhoddodd y Rheolwyr Busnes adborth gan eu grwpiau ar yr
opsiynau amserlen lefel uchel ar gyfer Busnes Seneddol yn y Seithfed Senedd, a
chytunodd i ofyn i swyddogion baratoi opsiwn wedi’i fireinio o amserlen tair
wythnos i'w ystyried yn fanwl yn y Flwyddyn Newydd.
Cyfarfod: 16/12/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Newidiadau drafft i Ganllawiau ar y modd priodol o gynnal busnes y Senedd – cwestiynau llefarwyr
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
Cofnodion:
Nododd y Pwyllgor Busnes y diwygiadau arfaethedig i'r
adran berthnasol o'r Canllawiau ar y modd priodol o
gynnal busnes y Senedd, gyda'r bwriad o roi effaith i newidiadau i
gwestiynau llefarwyr y cytunwyd arnynt ar 9 Rhagfyr. Dywedodd y Llywydd y
bydd y Canllawiau diwygiedig ar waith cyn y Cyfarfod Llawn cyntaf yn 2026.
Cyfarfod: 13/11/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Busnes Seneddol yn y Seithfed Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 8
Cofnodion:
Rhoddodd yr Aelodau adborth yn sgil ymgynghori â'u
grwpiau ar y materion a drafodwyd yn y cyfarfod ar 16 Hydref.
Mewn perthynas â Rheol Sefydlog 11.10 (sy'n ymwneud ag
ystod amser ar gyfer busnes), cytunodd y Pwyllgor i argymell diwygio'r Rheol
Sefydlog hon drwy ddileu'r holl destun ar ôl y gair “trefniadau”.
Cytunodd y Pwyllgor i gynnig dileu Rheol Sefydlog 12.6(i)
(sy'n ymwneud â'r gofyniad i gyfarfodydd llawn gael eu cynnal fel arfer ar
ddydd Mawrth a dydd Mercher a dechrau am 1.30pm).
Cytunwyd ar y newidiadau arfaethedig hyn i'r Rheolau
Sefydlog i wneud y mwyaf o'r hyblygrwydd a fyddai ar gael i'r Seithfed Senedd o
ran penderfynu ar ei busnes seneddol.
Cytunodd y Pwyllgor ar y canlynol:
- peidio â
diwygio Rheol Sefydlog 12.56(ii) sy'n ymwneud â'r cyfnod y mae'n rhaid
trefnu bod amser ar gael ynddo i bob un o Weinidogion Cymru a'r Cwnsler
Cyffredinol ateb cwestiynau llafar yn y cyfarfod llawn); a
- pheidio â newid
nifer y cwestiynau llafar a ddewisir i’w hateb.
Gofynnodd y Llywydd i’r clercod roi cyngor iddi ar
ymarferoldeb dileu llefarwyr o’r balot Cwestiynau Llafar o bosibl; a chyflwyno
terfynau amser ar ymatebion Gweinidogion i gwestiynau.
Cytunodd y Llywydd i ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes eto,
os bydd hi’n ystyried cynnig unrhyw welliannau i'r canllawiau yn dilyn ei
hystyriaeth o gyngor clercod.
Nododd y Pwyllgor bwysigrwydd sicrhau bod hyfforddiant ar
gyfer craffu effeithiol yn cael ei gynnig i Aelodau ar ddechrau'r Seithfed
Senedd.
Cyfarfod: 13/11/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Busnes Seneddol yn y Seithfed Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Trafododd yr Aelodau’r materion a amlinellwyd yn y papur,
a gwnaethant gytuno ar ymgynghori â’u grwpiau a rhannu adborth eu grwpiau mewn
cyfarfod yn y dyfodol.
Cyfarfod: 16/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 4)
Busnes Seneddol yn y Seithfed Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor y papur. Cytunodd yr Aelodau i
ymgynghori â'u grwpiau ar y materion yn y papur a rhoi adborth mewn cyfarfod
dilynol.
Cyfarfod: 09/07/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Trefniadaeth busnes seneddol yn y Seithfed Senedd
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cyfarfod: 09/07/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 7)
Trefniadaeth busnes seneddol yn y Seithfed Senedd
Cofnodion:
Cytunodd yr
Aelodau ar y dull a awgrymwyd yn y papur.