Cyfarfodydd

Rhaglen Waith Weithdrefnol

Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.

Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.

Cyfarfod: 20/01/2026 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Gwaith Gweithdrefnol


Cyfarfod: 16/12/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Gwaith Gweithdrefnol


Cyfarfod: 09/12/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Cyflwyno Cwestiynau Llefarwyr

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 6

Cofnodion:

Ystyriodd y Pwyllgor Busnes bapur yn cynnwys opsiynau ar gyfer cyfyngu neu roi rhwystrau ar y gallu i lefarwyr pleidiau ofyn cwestiynau a gyflwynir yn yr un sesiynau cwestiynau llafar ag y maent yn cael eu galw i ofyn cwestiynau llefarwyr. Cymeradwyodd y Rheolwyr Busnes gynnig a wnaed gan y Llywydd y dylid diwygio canllawiau i nodi y byddai nifer y cwestiynau heb rybudd y byddai llefarydd yn cael eu galw i'w gofyn yn cael ei leihau gan un cwestiwn, os oes ganddynt gwestiwn wedi'i gyflwyno ar y papur busnes ar gyfer y sesiwn honno o gwestiynau llafar.

 

Trafododd y Rheolwyr Busnes y posibilrwydd o dreialu dull o gyflwyno terfynau amser ar gyfer atebion gweinidogol i gwestiynau llefarwyr. Cytunodd y Trefnydd i drafod gyda Gweinidogion yr angen i sicrhau bod yr atebion a roddir yn gryno.

 

 


Cyfarfod: 09/12/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Cwestiynau Ysgrifenedig

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 9

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes nifer o faterion yn gysylltiedig â rheolau ac arferion yn ymwneud â chwestiynau ysgrifenedig.

 

Nododd y Rheolwyr Busnes:

  • fod y Llywydd wedi gofyn i'r Swyddfa Gyflwyno weithredu'r cyfnod o dri mis lle na ellir gofyn yr un cwestiwn i'r un Gweinidog fel cyfnod treigl o fis Ionawr 2026 ymlaen, yn lle'r dull tymhorol presennol;
  • fod offeryn AI yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i gynorthwyo'r Swyddfa Gyflwyno i wirio'r holl gwestiynau yn erbyn y rhai a atebwyd yn flaenorol; a
  • byddai effeithiolrwydd yr offeryn AI yn cael ei asesu cyn gwneud unrhyw newidiadau i reolau ac arferion cwestiynau ysgrifenedig, megis symud o gyfnod o dri i chwe mis lle na ellir gofyn yr un cwestiynau neu gwestiynau tebyg.

 

 


Cyfarfod: 09/12/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Gwaith Gweithdrefnol


Cyfarfod: 21/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)

Gwaith Gweithdrefnol


Cyfarfod: 14/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Gwaith gweithdrefnol


Cyfarfod: 14/10/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Adolygiad o’r canllawiau ar drafodion rhithwir a hybrid

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 18

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes y diwygiadau arfaethedig i ganllawiau’r Llywydd ar drafodion rhithwir a hybrid o ran y lleoliadau y caniateir i Aelodau fwrw eu pleidleisiau ohonynt yn ystod trafodion y Cyfarfod Llawn, cyn nodi ei fod yn fodlon â’r newidiadau hyn. Caiff y canllawiau diwygiedig eu cyhoeddi cyn gynted â phosibl.

 

Nododd y Pwyllgor Busnes y bydd yn trafod rhagor o ddiwygiadau i agweddau eraill ar y canllawiau ynghylch trafodion y pwyllgorau, yng ngoleuni'r newidiadau hyn a'r sylwadau a wnaed gan Fforwm y Cadeiryddion, mewn cyfarfod dilynol.

 


Cyfarfod: 23/09/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)

Gwaith Gweithdrefnol


Cyfarfod: 15/07/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)

Gwaith Gweithdrefnol


Cyfarfod: 15/07/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 8)

Adborth ar yr ymagwedd at waith gweithdrefnol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 25

Cofnodion:

Dywedodd y Rheolwyr Busnes eu bod yn fodlon â'r dull a gymerwyd tuag at y cyfarfodydd ychwanegol ar gyfer cyflwyno ei raglen waith weithdrefnol hyd yn hyn. Cytunodd y Pwyllgor Busnes mai’r bwriad fyddai i bapurau ar gyfer y cyfarfodydd ychwanegol gael eu hanfon bedwar diwrnod gwaith cyn y cyfarfodydd.

 

 


Cyfarfod: 05/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 2)

Dull ar gyfer cyfarfodydd ychwanegol

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 28

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y byddai'r cyfarfodydd ychwanegol yn parhau i gael eu cynnal yn breifat.

 

Dywedodd y Llywydd mai ei dewis hi fyddai cynnal cyfarfodydd yn bersonol pryd bynnag y bo modd, ond y byddai cyfleusterau hybrid ar gael.

 

Nodwyd, pe bai angen sesiwn gyhoeddus cyn cwblhau'r gwaith gweithdrefnol, byddai hyn yn cael ei drefnu.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes y gall Rheolwyr Busnes ddod â swyddog grŵp gwleidyddol nad yw'n cymryd rhan i arsylwi yn y cyfarfodydd gweithdrefnol ychwanegol, a gall y Trefnydd ddod â swyddog grŵp gwleidyddol nad yw'n cymryd rhan a swyddog Llywodraeth Cymru.

 

Nododd y Llywydd fod trefniadau ar gyfer Aelodau nad ydynt mewn grŵp gwleidyddol i gael eu cadw yn unol â chyfarfodydd cyfredol y Pwyllgor Busnes.


Cyfarfod: 05/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 2)

Blaenoriaethu

Dogfennau ategol:

  • Cyfyngedig 31

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor Busnes Bapur 1 - Gwaith gweithdrefnol: Blaenoriaethu ("Papur 1").

 

Nododd y Llywydd y diddordeb oedd gan aelodau'r Pwyllgor Busnes yn y gwaith hwn a'r rôl y byddant yn ei chwarae wrth ymgysylltu ag aelodau eu grwpiau gwleidyddol ynglŷn â'r rhaglen waith weithdrefnol.

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes ar y faenoriaeth a awgrymir ym Mhapur 1, yn amodol ar y sylwadau a'r gwelliannau canlynol:

 

  • Mynegodd Jane Dodds a Heledd Fychan eu pryderon ynglŷn â'r awgrym o ddflaenoriaethu cwotâu amrywiaeth deddfwriaethol.
  • Nododd y Pwyllgor Busnes y cwestiwn o gymhwysedd deddfwriaethol yng nghyddestun cwotâu amrywiaeth ddeddfwriaethol, a chyhoeddiad Llywodraeth Cymru o’r Canllawiau amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol cofrestredig yng Nghymru.
  • Awgrymodd Heledd Fychan y dylid cynnwys adolygiad y Pwyllgor Cyllid o weithdrefnau'r gyllideb yn y rhaglen waith weithdrefnol. Nododd y Llywydd efallai na fydd y gwaith hwn yn bosibl yn ystod tymor y Senedd hon, oherwydd maint y gwaith sydd ei angen, ond awgrymodd ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid i ofyn am ragor o wybodaeth cyn penderfynu a yw gwaith pellach ar yr eitem hon yn bosibl cyn diwedd y Chweched Senedd.

·       Mewn perthynas â threfnu busnes yn y Seithfed Senedd, mae amser i'w neilltuo o fewn y rhaglen waith i ddatblygu fframwaith a argymhellir ar gyfer trefnu busnes yn y Seithfed Senedd.

·       Dylid rhoi ystyriaeth bellach i eitem y broses cydsyniad deddfwriaethol cyn penderfynu a yw gwaith pellach ar yr eitem hon yn bosibl cyn diwedd y Chweched Senedd.

·       Mae'r eitemau canlynol, a awgrymir i'w dadflaenoriaethu ym Mhapur 1, i gael eu cynnwys yn y rhaglen waith weithdrefnol:

    • Gweithredu pwyllgorau (i'w hymgorffori yn yr eitem ar drefnu busnes);
    • Proses cydsynio deddfwriaethol (i benderfynu a yw gwaith pellach yn bosibl cyn diwedd y Chweched Senedd);
    • Adolygiad y Pwyllgor Cyllid o weithdrefnau’r gyllideb (i benderfynu a yw gwaith pellach yn bosibl cyn diwedd y Chweched Senedd); a
    • Gweddill yr amser a ddyrennir i Aelodau o fewn eitemau'r Cyfarfod Llawn (i'w hymgorffori yn yr eitem ar drefnu busnes).

 

Cytunodd y Pwyllgor Busnes i gyhoeddi adroddiad i esbonio ei raglen waith weithdrefnol a'r penderfyniadau y mae wedi'u gwneud o ran blaenoriaethu.


Cyfarfod: 05/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 2)

Rhaglen Waith Weithdrefnol