Cyfarfodydd
Adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Senedd
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 15/12/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Graffu ar Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn 2024-25
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr yr adroddiad a gyhoeddwyd ar 2 Rhagfyr 2025 yn dilyn
y sesiwn graffu a gynhaliwyd ar 2 Hydref. Byddai’r Comisiynwyr yn cael ymateb
drafft yn y cyfarfod ym mis Ionawr 2026.
Cyfarfod: 30/06/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn 2024-25
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 5
- Cyfyngedig 6
Cofnodion:
Adolygodd y Comisiynwyr yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon drafft ar gyfer
y cyfnod o 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025.
Roedd y Pwyllgor
Archwilio a Sicrwydd Risg wedi argymell cymeradwyo'r adroddiad gan y Comisiwn
yn ei gyfarfod ar 23 Mehefin.
Ceisiodd y Comisiynwyr
eglurder ynghylch yr adroddiad archwilio mewnol ar urddas a pharch.
Cymeradwyodd y Comisiynwyr yr adroddiad terfynol, yn amodol ar unrhyw fân
gywiriadau neu ddiwygiadau.
Byddai’r Adroddiad yn
cael ei lofnodi a’i osod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a’i gyhoeddi ar-lein
ar dudalennau gwe adroddiad blynyddol penodol, gyda nifer cyfyngedig o gopïau
printiedig yn cael eu cynhyrchu, cyn diwedd tymor yr haf.
Cyfarfod: 17/02/2025 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Ymateb i argymhellion Adroddiad Craffu ar Gyfrifon y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar gyfer 2023-24
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 9
- Cyfyngedig 10
- Cyfyngedig 11
Cofnodion:
Roedd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth
Gyhoeddus wedi gwneud chwe argymhelliad i’r Comisiwn yn ei Adroddiad Craffu ar
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023-24.
Trafododd y
Comisiynwyr yr ymatebion a chytunwyd arnynt. Bydd y llythyr yn cael ei ddarparu
i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a fydd yn ei gyhoeddi
fel rhan o bapurau cyfarfod y pwyllgor.
Cyfarfod: 09/12/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar ei waith craffu ar adroddiad a chyfrifon blynyddol 23-24
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 14
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr
adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus, a gyhoeddwyd
ar 29 Tachwedd. Bydd ymateb i’r adroddiad hwn yn cael ei lunio maes o law.
Cyfarfod: 23/09/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Llythyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 17
Cofnodion:
Nododd
y Comisiynwyr yr ymateb y byddai’r Prif Weithredwr yn ei anfon at y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i roi diweddariadau pellach o ran
argymhellion yr Adroddiad Craffu ar Gyfrifon 2022-23. Roedd hyn yn cynnwys:
- cynnydd o ran gweithredu prosiectau fel rhan
o'r Strategaeth Carbon Niwtral;
- gwaith y grwpiau sy'n edrych ar rôl
Deallusrwydd Artiffisial yn y Senedd; a
- gwaith a wnaed i annog ceisiadau gan unigolion
o amrywiaeth o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol a daearyddol.
Roedd y llythyr hefyd yn rhoi'r wybodaeth
ddiweddaraf am brosiectau a roddwyd ar waith yn sgil y Gronfa Prosiectau a
chontractau a ddyfarnwyd i gyflenwyr o Gymru.
Cyfarfod: 15/07/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2023-24
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 20
- Cyfyngedig 21
Cofnodion:
Cymeradwyodd y
Comisiynwyr ddrafft terfynol yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer
2023-24, yn amodol ar unrhyw fân gywiriadau neu newidiadau golygyddol.
Bydd yr Adroddiad yn
cael ei lofnodi a'i osod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a'i gyhoeddi ar-lein
ar dudalennau gwe Adroddiad Blynyddol penodol.
Cyfarfod: 17/06/2024 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn ar gyfer 2023-24
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 24
- Cyfyngedig 25
Cofnodion:
Adolygodd y Comisiynwyr y drafft cyfredol o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
y Comisiwn ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024 ar gyfer ei
ystyried.
Gwnaethant nodi i'r
broses o gwblhau fersiwn gyflawn o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn
gael ei gohirio oherwydd effaith nas datryswyd yn ymwneud â dyfarniad McCloud
ar gyfrifiadau pensiwn. Mae'r oedi cyn cael y wybodaeth angenrheidiol am
bensiynau gan Gynllun Pensiwn y Gwasanaeth Sifil yn fater sy'n effeithio ar yr
holl lywodraethau a chyrff cyhoeddus sydd â staff yng Nghynllun Pensiwn y
Gwasanaeth Sifil. Dywedodd y Prif
Swyddog Cyllid fod Trysorlys EF wedi cyhoeddi FReM diwygiedig yn ddiweddar, gyda
diwygiad cydymffurfio neu egluro a'r datgeliad gofynnol a nodir yn y diwygiad i
egluro’r oedi. Yng ngoleuni'r newid hwn, byddai Archwilio Cymru yn adolygu
geiriad y farn archwilio a’i diwygio i'r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon allu
cael eu cwblhau.
Trafododd y Comisiynwyr adrannau naratif yr adroddiad a gofynnwyd am i’r
wybodaeth ddiweddaraf am absenoldeb hirdymor oherwydd salwch gael ei darparu
mewn cyfarfod yn y dyfodol. Gwnaethant hefyd drafod yr adroddiad gwariant gyda
chyflenwyr Cymreig, a gofynnwyd am ragor o waith yn y rhan o'r adroddiad sy’n
ymwneud ag Urddas a Pharch.
Cytunodd y Comisiynwyr
i gael yr Adroddiad terfynol yn y cyfarfod ym mis Gorffennaf ar gyfer ei
gymeradwyo, gyda’r adroddiad terfynol wedyn yn cael ei lofnodi gan Archwilydd
Cyffredinol Cymru a’i osod, a’i gyhoeddi ar-lein.
Cyfarfod: 19/06/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn 2022-23
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 28
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
Trafododd y
Comisiynwyr eu hadroddiad blynyddol a’u cyfrifon ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill
2022 i 31 Mawrth 2023. Cawsant sicrwydd bod y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd
Risg wedi argymell cymeradwyo’r adroddiad, a chytunwyd ar y fersiwn derfynol
i'w chyhoeddi, yn amodol ar unrhyw fân gywiriadau neu olygiadau.
Cyfarfod: 22/05/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Diweddariad i PAPAC
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 32
Cofnodion:
Ystyriodd y
Comisiynwyr wybodaeth i’w darparu i’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus mewn dau faes yn dilyn Craffu ar y Cyfrifon ar gyfer
2021-22. Roedd y rhain yn ddadansoddiad o'r prosiectau a weithredwyd fel rhan
o’r gronfa brosiectau, a chrynodeb o ganlyniadau'r arolwg staff a'r arolwg
pwls. Gofynnodd y Comisiynwyr am rywfaint o eglurhad a chytunwyd ar gynnwys y
llythyr at y Pwyllgor.
Cyfarfod: 30/01/2023 - Comisiwn y Senedd (Eitem 4)
Ymateb i Adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Gyfrifon 2021-22
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 35
Cofnodion:
Ar 7 Rhagfyr 2022,
cytunodd y Comisiynwyr ar eu hymateb i’r saith o argymhellion yn adroddiad y
Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus ar Graffu ar Gyfrifon
2020-21.
Cyfarfod: 07/11/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Llythyr at y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus i roi gwybodaeth ychwanegol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 38
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y llythyr sy’n rhoi rhagor o wybodaeth i’r Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn dilyn y sesiwn graffu ar
adroddiad blynyddol a chyfrifon y Comisiwn ar gyfer 2021-22.
Yn benodol, trafododd y Comisiynwyr y rhaglenni cymorth a gynigir i staff y Comisiwn, gan gytuno y dylid cadw
llygad barcud ar y sefyllfa. Hefyd, cafodd trefniadau eraill o ran cyflogaeth
eu trafod, fel staff cymorth yr Aelodau a chontractwyr y Comisiwn.
Cyfarfod: 20/06/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
Yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2021-22
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 41
- Cyfyngedig 42
Cofnodion:
Cymeradwyodd y
Comisiynwyr fersiwn derfynol yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon, yn cwmpasu’r
cyfnod o 1 Ebrill 2021 hyd at 31 Mawrth 2022, yn amodol ar unrhyw fân waith
cywiro neu olygu.
Wrth wneud hynny,
trafodwyd elfennau yn ymwneud â'r ieithoedd swyddogol, a chytunwyd i gyfeirio
atynt yn fwy amlwg o fewn blaenoriaethau'r Comisiwn ar gyfer y flwyddyn i ddod.
Croesawodd y
Comisiynwyr y dull o gyhoeddi’r adroddiad ar ffurf cyfres newydd o dudalennau
ar y we sy’n cyflwyno uchafbwyntiau’r adroddiad (a’r adroddiadau blynyddol
eraill – Amrywiaeth a Chynhwysiant, y Cynllun Ieithoedd Swyddogol a
Chynaliadwyedd). Daethpwyd i’r casgliad bod hyn yn gwneud cynnwys yr adroddiad
yn llawer mwy hygyrch a hylaw.
Bydd yr Adroddiad yn
cael ei lofnodi a’i osod ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru ac fe’i cyhoeddir
ar-lein cyn diwedd tymor yr haf.
Cyfarfod: 31/01/2022 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Gohebiaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 45
- Cyfyngedig 46
- Cyfyngedig 47
Cyfarfod: 08/11/2021 - Comisiwn y Senedd (Eitem 9)
Ymateb i sesiwn graffu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 50
Cofnodion:
Nododd y Comisiynwyr y
wybodaeth ychwanegol a ddarparwyd i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a
Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn dilyn y sesiwn graffu ym mis Hydref.
Cyfarfod: 15/06/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 53
Cofnodion:
Cymeradwyodd y
Comisiynwyr adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod
o 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020.
Cyfarfod: 04/05/2020 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad blynyddol – sylwadau’r Comisiynwyr ar y drafft
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 56
- Cyfyngedig 57
Cofnodion:
Roedd y Comisiynwyr wedi trafod fersiwn
ddrafft o adroddiad blynyddol a chyfrifon y Comisiwn yn ymwneud â 1 Ebrill 2019
i 31 Mawrth 2020, er mwyn rhoi sylwadau cyn cwblhau'r adroddiad.
Roedd y Comisiynwyr yn
croesawu’r gwaith hyd yma gan gydnabod y byddai diweddariadau ychwanegol i
adlewyrchu digwyddiadau diweddar. Awgrymwyd hefyd y dylid cynnwys adran edrych
ymlaen.
Bydd yr adroddiad yn
cael ei osod a'i gyhoeddi ar-lein yn dilyn cymeradwyaeth derfynol ym mis
Mehefin.
Cyfarfod: 15/07/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad blynyddol a chyfrifon
Copi caled yn unig
Cofnodion:
Cytunodd y Comisiynwyr ar
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2018 i 31
Mawrth 2019.
Gwnaethant nodi un mater
a oedd wedi codi ers eu trafodion blaenorol, yn ymwneud â dyfarniad diweddar
iawn yn y Goruchaf Lys a oedd wedi effeithio ar rwymedigaethau Cynllun Pensiwn
Aelodau'r Cynulliad yng nghyfrifon y Comisiwn.
Byddai'r adroddiad yn
cael ei gymeradwyo gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a'i osod cyn diwedd tymor
yr haf.
Cyfarfod: 10/06/2019 - Comisiwn y Senedd (Eitem 6)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft Comisiwn y Cynulliad 2018-19
Drafft fel ar 3 Mehefin (Saesneg yn unig)
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 62
- Cyfyngedig 63
- Cyfyngedig 64
Cofnodion:
Trafododd y
Comisiynwyr fersiwn ddrafft o adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y
Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2018 hyd at 31 Mawrth 2019,
ac roeddent yn fodlon ar yr hyn a welwyd.
Bydd y fersiwn
derfynol i’w chymeradwyo ym mis Gorffennaf, ac yna caiff ei gosod erbyn diwedd
tymor yr haf. Bydd ar gael ar-lein.
Cyfarfod: 09/07/2018 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Drafft 2017-18
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 67
- Cyfyngedig 68
Cofnodion:
Cymeradwyodd y
Comisiynwyr y drafft o'u Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon, yn cwmpasu 1 Ebrill
2017 hyd at 31 Mawrth 2018, yn amodol ar unrhyw fân waith cywiro neu olygu.
Cytunwyd y byddai'r adroddiad yn cael ei osod cyn diwedd tymor yr haf a'i
gyhoeddi ar-lein.
Cyfarfod: 12/06/2017 - Comisiwn y Senedd (Eitem 7)
Adroddiad a chyfrifon blynyddol
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 71
- Cyfyngedig 72
Cofnodion:
Cafodd y Comisiynwyr fersiwn ddrafft o adroddiad blynyddol a chyfrifon
Comisiwn y Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2016 hyd at 31
Mawrth 2017.
Cymeradwyodd y Comisiynwyr yr adroddiad, yn amodol ar fân newidiadau i
ystyried sylwadau gan Bwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Cynulliad a
chan Gomisiynwyr; ynghyd â phroses prawfddarllen derfynol, fformatio a brandio.
Caiff y fersiwn derfynol ei gosod yn Gymraeg ac yn Saesneg cyn diwedd tymor
yr haf, a bydd ar gael ar-lein a thrwy nifer cyfyngedig o gopïau argraffedig.
Cyfarfod: 25/05/2017 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 8)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 75
Cofnodion:
Derbyniodd y Bwrdd yr Adroddiad
Blynyddol a Chyfrifon drafft ar gyfer 2016-17 a diolchwyd am eu cyfraniadau.
Roedd Adroddiad drafft yn cael ei
anfon i Swyddfa Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, gyda
drafft terfynol yn cael ei gyflwyno i'r Comisiwn ar 17 Gorffennaf ac yn cael ei
gyhoeddi ar ôl hynny.
CAM I'W GYMRYD: Y Bwrdd Rheoli i roi
gwybod am unrhyw newidiadau pellach erbyn 26 Mai.
Cyfarfod: 12/05/2016 - Y Bwrdd Rheoli (Eitem 7)
Adroddiad blynyddol a chyfrifon 2015-16
Eitem lafar.
Cofnodion:
Roedd yr Adroddiad blynyddol a'r cyfrifon ar fin cael eu cwblhau a
gofynnwyd i'r Bwrdd roi gwybod am unrhyw sylwadau erbyn hanner dydd 13 Mai, cyn
i'r drafft terfynol gael ei anfon i Swyddfa Archwilio Cymru ei adolygu.
Rhoddodd y Bwrdd ganmoliaeth i Nia Morgan a'r tîm Cyllid, Chris Warner ac
eraill am eu gwaith ar yr adroddiad.
Cyfarfod: 16/11/2015 - Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd (Eitem 8)
Paratoi ar gyfer Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn 2015-16, a’u symleiddio
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 80
Cofnodion:
ACARAC (30) Papur 9 -
Paratoi ar gyfer Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn 2015-16, a’u
symleiddio
8.1
Rhannodd Nicola fersiwn ddrafft o’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon, a
baratowyd gan y Pennaeth Cyllid a benodwyd yn ddiweddar, i adlewyrchu
canllawiau 'Simplifying and Streamlining Accounts' Trysorlys Ei Mawrhydi. Bydd y gyfres interim o gyfrifon yn profi’r
cynllun newydd hwn a chroesawodd y Pwyllgor y newidiadau a ddrafftiwyd hyd yn
hyn. Gofynnwyd i'r swyddogion beidio â
thanbrisio'r gwaith sydd ynghlwm â pharatoi'r gyfres interim o gyfrifon, o
ystyried y newidiadau yng nghynllun y ddogfen.
Camau gweithredu
-
Nicola i gyflwyno gwaith archwilio interim ym mis Chwefror.
Cyfarfod: 07/10/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14: Llythyr gan Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad (26 Medi 2014)
Dogfennau ategol:
Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 4)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2013 - 2014: Trafod y dystiolaeth a gafwyd
Cofnodion:
4.1
Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a gafwyd, gan gytuno i edrych eto ar y mater
hwn ar ôl cael y wybodaeth ychwanegol gan Gomisiwn y Cynulliad.
Cyfarfod: 23/09/2014 - Y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus - Y Pedwerydd Cynulliad (Eitem 2)
2 Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2013 - 2014
PAC(4)-24-14
papur 1
Papur
briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil
Peter Black
AC - Comisiynydd
Claire
Clancy, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad
Nicola
Callow – Cyfarwyddwr Cyllid
Dogfennau ategol:
- PAC(4)-24-14 (p1)_w, Eitem 2
PDF 7 MB
- V2 RS142275 Briefing for Assembly Commission accounts 2013-14_w , Gweld rhesymau dros gyfyngu (2/2)
Cofnodion:
2.1
Trafododd y Pwyllgor Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2013
– 2014, gan holi Peter Black AC, Comisiynydd, Claire Clancy, Prif Weithredwr a
Chlerc y Cynulliad, a Nicola Callow, Cyfarwyddwr Cyllid y Cynulliad.
2.2
Cytunodd Claire Clancy:
· i ddarparu amlinelliad o'r camau a
gymerwyd yn dilyn y digwyddiad twyll
· i ddarparu manylion pellach
ynghylch llithriad y prosiect Adnoddau Dynol â'r Gyflogres
· i anfon darn o Adroddiad
Cydraddoldeb Blynyddol 2013-14 sy'n dangos y cydbwysedd rhwng y rhywiau yn ôl
gradd
· i ddarparu amlinelliad o raddau
effeithlonrwydd ynni Tŷ Hywel a'r Senedd
· i ddarparu gwybodaeth fanwl am y
costau TGCh ar gyfer 2013-14, gan gynnwys y costau rhedeg arferol a'r gwariant
a wnaed fel rhan o'r prosiect i ddod â darpariaeth TGCh yn fewnol
Cyfarfod: 20/06/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2012-13
Cofnodion:
Cyhoeddir
Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y Comisiwn ar-lein ar 11 Gorffennaf. Anfonir copïau at yr Aelodau
cyn diwedd y tymor a bydd rhywfaint o gopïau ar gael, gyda chrynodeb, yn
nigwyddiadau'r Comisiwn dros yr haf.
Cytunodd y Comisiynwyr
ar yr adroddiad drafft, yn amodol ar nifer fach o newidiadau.
Cyfarfod: 28/02/2013 - Comisiwn y Senedd (Eitem 5)
Y fframwaith ar gyfer adroddiad blynyddol Comisiwn y Cynulliad a’r datganiad o gyfrifon ar gyfer 2012-13
Cofnodion:
Cafodd amlinelliad arfaethedig o’r Adroddiad Blynyddol ei gyflwyno er
mwyn i’r Comisiwn ei ystyried. Cytunwyd ar y fframwaith.
Cam i’w gymryd: Swyddogion i barhau gyda’r gwaith
ar yr adroddiad.
Cyfarfod: 28/06/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
Adroddiad a chyfrifon blynyddol ar gyfer 2011-12
Papur 3
Cofnodion:
Mae
Adroddiad Blynyddol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2011-12 yn rhoi trosolwg
strategol ar flaenoriaethau strategol Comisiwn y Cynulliad, ac yn rhoi pwyslais
cryf ar adeiladu Cynulliad ar gyfer y dyfodol
Caiff yr Adroddiad Blynyddol ei gyhoeddi arlein ar 12
Gorffennaf a chaiff y ddogfen lawn, gan gynnwys cyfrifon, ei gosod yn ffurfiol
erbyn diwedd y tymor.
Cytunodd
y Comisiynwyr ar yr adroddiad.
Cyfarfod: 08/03/2012 - Comisiwn y Senedd (Eitem 3)
3 Fframwaith ar gyfer adroddiad a datganiad o gyfrifon blynyddol Comisiwn y Cynulliad 2011-12
Dogfennau ategol:
- AC(4)2012(2) Papur 3 - Fframwaith ar gyfer adroddiad a datganiad o gyfrifon blynyddol Comisiwn y Cynulliad 2011-12, Eitem 3
PDF 393 KB
Gweld fel HTML (3/1) 15 KB
Cofnodion:
Bydd Adroddiad Blynyddol
Comisiwn y Cynulliad 2011-12 yn
rhoi trosolwg strategol ar flaenoriaethau strategol Comisiwn y Cynulliad, ac yn
rhoi pwyslais cryf ar adeiladu Cynulliad ar gyfer y dyfodol.
Adroddiad
Blynyddol ar gyfer y cyhoedd fydd hwn, ond bydd hefyd o ddiddordeb i Aelodau’r
Cynulliad, eu staff cymorth, y cyfryngau a rhanddeiliaid eraill. Bydd yn ymdrin
â nifer o themâu, gan gynnwys paratoi ar gyfer yr etholiad a’r diddymiad; yr
etholiad a’r aelodaeth newydd; gwaith Comisiwn newydd y Cynulliad a’r
trefniadau ar gyfer busnes y Cynulliad.
Cytunodd
y Comisiwn ar gynnwys arfaethedig yr Adroddiad Blynyddol, Cytunwyd i gyhoeddi
adroddiad gwahanol yn amlinellu’r hyn y mae’r Comisiwn wedi’i gyflawni yn ystod
blwyddyn gyntaf y Pedwerydd Cynulliad; adroddiad ar gyfer Aelodau’r Cynulliad
yn bennaf fydd hwn.
Cam i’w gymryd: swyddogion i fwrw ymlaen â’r paratoadau angenrheidiol.
Cyfarfod: 29/06/2011 - Comisiwn y Senedd (Eitem 2)
2 Adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Cynulliad
Dogfennau ategol:
- AC(4)2011(2) Papur 2 - Adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Cynulliad 2010-11, Eitem 2
PDF 124 KB
Gweld fel HTML (2/1) 9 KB
Cofnodion:
Trafododd y Comisiwn yr Adroddiad
Blynyddol drafft ar gyfer 2010-11. Nodwyd y byddai proses ar wahân yn cael ei
dilyn ar gyfer y cyfrifon yn yr un cyfnod. Pwyllgor Archwilio Comisiwn y
Cynulliad fyddai’n craffu ar y cyfrifon - Angela Burns, fel y Comisiynydd â
chyfrifoldeb dros y gyllideb a llywodraethu, oedd cynrychiolydd y Comisiwn.
Byddai’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon wedyn yn cael eu cyhoeddi ar y cyd
mewn un ddogfen ar 14 Gorffennaf.
Yn ogystal â chyfrifoldeb statudol y
Comisiwn i baratoi a chyflwyno’r adroddiad blynyddol a’r cyfrifon, roedd y
Comisiynwyr am sicrhau y byddai’r cyhoeddiad yn cyrraedd cynifer o bobl â
phosibl a cyflawnwyd hyn drwy ddarparu fersiwn ar-lein ar ffurf llinell amser
ryngweithiol a fyddai’n hollol hygyrch. Yn ogystal, byddai crynodeb hefyd yn
cael ei baratoi ac ar gael i’r cyhoedd.
Roedd y naratif yn rhoi adolygiad o
weithgarwch yn 2010-11 a byddai’n cael ei werthfawrogi gan y sawl sy’n edrych
ar hanes y Cynulliad. Gwnaeth y Comisiynwyr sylwadau penodol, a fydd yn cael eu
cynnwys mewn fersiwn ddiwygiedig. Yn ogystal, byddai Iwan Williams yn trafod
gwelliannau penodol a awgrymwyd gan Sandie Mewies.
Gweithred:
Iwan Williams i drafod y gwelliannau awgrymodd Sandy Mewies. Claire Clancy i
ddiwygio’r naratif fel yr awgrymwyd yn y cyfarfod.