Cyfarfodydd
Cynnig ar gyfer dadl ffurf hirach
Mae'r dudalen hon yn cynnwys manylion am unrhyw gyfarfodydd a gynhelir lle bydd y mater yn cael ei drafod, neu unrhyw gyfarfodydd a gynhaliwyd lle cafodd y mater ei drafod. Mae hefyd yn cynnwys lincs i'r papurau, agendâu a chofnodion perthnasol.
Noder: Gall yr agenda ar gyfer cyfarfod newid ar fyr rybudd. Cyn ichi wneud unrhyw gynlluniau i ddod i gyfarfod Pwyllgor, gofynnwn i chi sicrhau nad yw'r eitem sydd o ddiddordeb i chi wedi cael ei symud, yn enwedig mewn achosion lle mae'r dyddiad ar gyfer y cyfarfod wedi'i nodi mwy nag wythnos o flaen llaw.
Cyfarfod: 11/11/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3.4)
Dadleuon Agored: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 2
Cyfarfod: 23/09/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Dadleuon Agored: adolygiad interim
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 4
Cofnodion:
Adolygodd y Pwyllgor Busnes y profiad o ran y ddwy ddadl
agored a gynhaliwyd hyd yma, gwnaethant nodi eu barn gadarnhaol am y fformat a
chytunwyd i beidio â gwneud unrhyw addasiadau cyn y ddadl derfynol i'w
hamserlennu fel rhan o'r treial.
Cyfarfod: 10/06/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadleuon Agored: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 7
Cofnodion:
Datganodd
Heledd Fychan AS fuddiant gan ei bod wedi cyflwyno un o'r cynigion i'w
ystyried. Trafododd y Pwyllgor Busnes y cynigion a chytunodd i amserlennu’r
cynnig canlynol ar 18 Mehefin 2025:
Heledd
Fychan: NNDM8914 Diwylliant a'r Celfyddydau - braf i'w cael neu'n allweddol i
ddyfodol Cymru?
Cyfarfod: 11/03/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Dadleuon Agored: Dewis Cynnig ar gyfer Dadl
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 10
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes y cynigion a chytunodd i amserlennu’r cynnig canlynol ar 19
Mawrth 2025: Carolyn Thomas: NNDM8839 A all ynni adnewyddadwy
yn unig ddiwallu anghenion ynni Cymru?
Cyfarfod: 11/02/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Ychwanegiadau drafft i’r Canllawiau ar gynnal busnes y Senedd yn briodol: Dadleuon Agored
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 13
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y canllawiau i’w cyhoeddi a
chytunodd arnynt.
Cyfarfod: 21/01/2025 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Cynnig ar gyfer dadl ffurf hirach
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 16
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes y
cynnig a chytunodd y dylai Aelodau gyflwyno pynciau arfaethedig ac y dylid eu
cyhoeddi ar adeg cyflwyno. Yna byddai'r Pwyllgor Busnes yn dewis un pwnc ar
gyfer pob dadl, gan adael pynciau heb eu dewis ar y Cofnod. Cytunwyd dros dro y
bydd y ddadl gyntaf yn cael ei chynnal ddydd Mercher 19 Mawrth.
Cyfarfod: 10/12/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 5)
Cynnig ar gyfer dadl ffurf hirach
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 19
Cofnodion:
Bu'r
Pwyllgor Busnes yn ystyried yr ymatebion a gafwyd gan Aelodau a grwpiau'r
pleidiau i'r cynnig i dreialu fformat newydd ar gyfer dadleuon ffurf hirach o
bryd i'w gilydd, a chytunwyd i fwrw ymlaen â'r treial. Cytunodd y Pwyllgor:
- i ddychwelyd mewn cyfarfod
dilynol i ystyried cynnig i ddiwygio Rheol Sefydlog 12.19 – i alluogi
cynnal dadleuon ar sail pynciau yn hytrach na chynigion - a chytuno ar
ychwanegiadau at ganllawiau yn ymwneud â'r fformat newydd;
- i ddyrannu y ddadl gyntaf ar
gyfer dydd Mercher 19 Mawrth dros dro, yn amodol ar gytuno ar y newid
gofynnol i'r Rheolau Sefydlog a'r canllawiau wedi'u diweddaru;
- i amserlennu'r ddadl gyntaf am
120 munud, gydag adolygiad o hyn i ddilyn y ddadl gyntaf;
- i amserlennu pob un o'r
dadleuon yn lle Dadl Aelod a Dadl Fer;
- i ddefnyddio'r teitl 'Dadl
Agored /Open Debate' ar gyfer yr eitem newydd;
- y dylid gosod y terfynau amser
a ganlyn ar gyfer cyfraniadau yn y canllawiau: cyfanswm o 20 munud ar
gyfer cyfraniad agoriadol a chloi, cyfraniadau cyntaf yr Aelodau wedi’u
cyfyngu i wyth munud ac unrhyw gyfraniadau dilynol i dri munud, a dyraniad
o 10 munud i Aelod sy’n siarad fel cynrychiolydd y Llywodraeth;
- na fyddai unrhyw gyfraniad gan
y Llywodraeth yn cael ei wneud fel ymateb i’r ddadl;
- i ddychwelyd mewn cyfarfod
dilynol i ystyried sut y caiff y testun ar gyfer pob dadl ei ddewis.
Cyfarfod: 22/10/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Cynnig ar gyfer dadl ffurf hirach
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 22
Cofnodion:
Trafododd y
Pwyllgor Busnes opsiynau o ran amserlennu, natur a strwythur cyfnod treialu
posibl ar gyfer dadl ffurf hirach achlysurol yn ystod amser Busnes y Senedd yn
ystod 2025.
Cytunodd y
Pwyllgor Busnes i ymgynghori â’r Aelodau o’r Senedd a wnaeth y cynnig
gwreiddiol a grwpiau’r pleidiau ar ddull gweithredu arfaethedig ar gyfer y
cyfnod treialu, ar y sail a ganlyn:
- tair dadl, a drefnir bob tymor
yn ystod 2025, gan ddechrau yn nhymor y gwanwyn;
- trefnu 120 munud ar gyfer y
dadleuon, yn bennaf yn lle cyfle ar gyfer un ddadl Aelod ac un Ddadl Fer
ar amserlen busnes y Senedd, gyda rhywfaint o hyblygrwydd o ran dadleuon
pwyllgor os yw hynny’n briodol;
- dylai dadleuon gael eu cynnal
ar sail pynciau, nid cynigion, ac felly ni fyddai gwelliannau na
phleidlais;
- byddai’r Aelodau’n cael eu
gwahodd i gynnig pynciau posibl i’w dewis gan y Pwyllgor Busnes;
- dylid hwyluso cyfleoedd i’r
Aelodau gyfrannu fwy nag unwaith, a byddai ymyriadau hefyd yn cael eu
hannog;
- yr Aelod(au) a gyflwynodd y
cynnig yn wreiddiol fyddai’n agor ac yn cloi’r ddadl, heb unrhyw amodau
pellach ar drefn y siaradwyr;
- byddai Aelodau o’r Llywodraeth
yn gallu cyfrannu, ond nid ar ffurf ymateb.
Cyfarfod: 16/07/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 6)
Cynnig gan Aelodau ar gyfer dadl ffurf hirach
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 25
- Cyfyngedig 26
Cofnodion:
Cafodd y Pwyllgor Busnes drafodaeth
bellach ar rinweddau cyflwyno fformat newydd ar gyfer dadleuon estynedig
achlysurol i'w cynnal ar brynhawn Mercher i’w threialu, yn dilyn ei ystyriaeth
flaenorol o ohebiaeth gan sawl Aelod.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i drafod
y cynnig a'r opsiynau a gyflwynwyd gyda grwpiau pleidiau a dychwelyd i ystyried
cynnig manwl mewn cyfarfod yn gynnar yn nhymor yr hydref.
Cyfarfod: 11/06/2024 - Y Pwyllgor Busnes (Eitem 3)
Gohebiaeth gan Aelodau ynghylch busnes y Cyfarfod Llawn ar brynhawn Mercher
Dogfennau ategol:
- Cyfyngedig 29
Cofnodion:
Trafododd y Pwyllgor Busnes lythyr
gan Mark Drakeford, Adam Price, Jane Dodds a Paul Davies yn cynnwys cynnig i
dreialu fformat achlysurol newydd ar gyfer dadleuon y Cyfarfod Llawn ar ddydd
Mercher, a chytunwyd y byddai'r ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno papur i'w ystyried
ymhellach. Mynegodd y Rheolwyr Busnes awydd i drafod y cynnig hwn a dewisiadau
eraill posibl gyda'u grwpiau cyn penderfynu a ddylid treialu unrhyw ddull
newydd.