Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem
am 16.25
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5188 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn mynegi pryder nad
yw cleifion yng Nghymru yn
gallu cael gafael ar y triniaethau
a'r meddyginiaethau mwyaf newydd a mwyaf arloesol sydd ar gael
i gleifion eraill ledled y DU;
2.
Yn croesawu’r ffaith bod Cronfa Technolegau Iechyd Cymru wedi cael
ei chreu, ond yn gresynu
wrth y diffyg buddsoddiad mewn technolegau newydd, arloesol o’r dyraniad
gwerth £5 miliwn ar gyfer blwyddyn
ariannol 2012-2013;
3.
Yn nodi bod y diwydiant fferyllol wedi buddsoddi £4.4 biliwn mewn gwaith
ymchwil a datblygu yn y DU yn 2009, sydd yn fwy
nag unrhyw sector diwydiant
arall, ac yn credu bod GIG Cymru angen amgylchedd sy'n barod i dderbyn
arloesedd er mwyn cystadlu'n effeithiol am dreialon clinigol ar lefel
fyd-eang;
4.
Yn credu y dylid ystyried gwariant ar feddyginiaethau
modern yn fuddsoddiad yn hytrach nag yn gost. Felly, mae'n gresynu mai
dim ond 0.5% o gyfanswm gwariant y GIG yng Nghymru yn
2011 a wariwyd ar feddyginiaethau newydd a ddefnyddiwyd mewn gofal sylfaenol; a
5.
Yn nodi y rhagwelir y bydd Cymru yn sicrhau
arbedion o ryw £186 miliwn rhwng 2011 a 2015 oherwydd Colli Hawliau Unig Gynhyrchydd
(LOE) ac yn galw ar Lywodraeth Cymru
i fuddsoddi rhywfaint o’r arian hwn
yn y Gronfa Technolegau Iechyd, i gefnogi'r ymgysylltiad â Grwp Strategaeth Meddyginiaethau Cymru Gyfan (AWMSG) a’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth
Glinigol (NICE) fel y gall mwy o gleifion yng Nghymru fanteisio
ar y triniaethau a’r meddyginiaethau diweddaraf.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt
1, ar ôl ‘yng Nghymru’, rhoi
‘, yn enwedig rhai gyda chlefydau
prin,’.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
36 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant
2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt
2, dileu popeth ar ôl ‘gresynu’
a rhoi
yn ei le:
a)
wrth y diffyg
buddsoddiad mewn technolegau newydd, arloesol o’r dyraniad
gwerth £5 miliwn ar gyfer y flwyddyn
ariannol 2012-2013;
b)
nad yw’r
Gronfa yn mynd i’r afael
â hygyrchedd gwael triniaethau canser modern i gleifion yng Nghymru
wrth gymharu â rhannau eraill o’r DU.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
39 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant
3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i sicrhau bod Cronfa Technolegau Iechyd Cymru yn
ehangu mynediad at driniaethau canser modern ar gyfer cleifion
yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
34 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant
4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod modd peryglu
mynediad cleifion at feddyginiaethau a thriniaethau arloesol yn sgîl
toriadau termau real Llywodraeth Cymru i gyllideb GIG Cymru nas gwelwyd eu
tebyg o’r blaen.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
39 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gan na dderbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio gan y
Cynulliad, a chan na dderbyniwyd y gwelliannau a gyflwynwyd i’r cynnig,
gwrthodwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 14/03/2013
Dyddiad y penderfyniad: 13/03/2013
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/03/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad