Manylion y penderfyniad

Debate: The Change4Life Be Food Smart Campaign

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.54

NDM5159 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ‘Bwyta’n Gall’ fel rhan o ymgyrch farchnata gymdeithasol Newid am Oes i annog teuluoedd yng Nghymru i ddewis a choginio prydau bwyd sy’n isel mewn braster, siwgr a halen ac yn cynnwys mwy o ffrwythau a llysiau.

2. Yn cydnabod bod gan yr ymgyrch rôl bwysig i’w chwarae fel rhan o amrywiaeth o fentrau cydgysylltiedig gan Lywodraeth Cymru, y GIG a phartneriaid eraill i gyfrannu at leihau lefelau afiechyd sy’n gysylltiedig â deiet yng Nghymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1- Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu bod pump o’r 10 ardal awdurdod lleol â’r lefelau isaf o iechyd ‘da’ yng Nghymru a Lloegr i’w cael yng Nghymoedd De Cymru, ac yn credu y bydd rhagor o ymwybyddiaeth am fwyta’n iachach yn helpu i wella hyn.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Gwelliant  2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi bod llawer o deuluoedd nad ydynt yn gallu cael gafael ar ystod lawn o fwydydd iach ac yn gresynu bod nifer cynyddol yn ddibynnol ar fanciau bwyd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

40

0

11

51

Derbyniwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng tlodi a deiet gwael fel rhan o’i hymgyrch.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun cynhwysfawr ar gyfer diogelu’r cyflenwad bwyd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod deiet gwael wedi cyfrannu at y ffaith bod 57% o oedolion a 35% o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew.  

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

9

51

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu bod pump awdurdod lleol yng Nghymru ymysg y deg awdurdod ‘lleiaf iach’ yn y Deyrnas Unedig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n bendant i fynd i’r afael â’r heriau deietegol yn yr ardaloedd hyn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

9

51

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r dull gorfiwrocrataidd o weithredu yng nghyswllt Blas am Oes sy’n ychwanegu at gost darparu bwyd iach mewn ysgolion.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

34

51

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ategu’r ymgyrch hon drwy sicrhau bod plant yn cael dewis o fwydydd iach yn yr ysgol gan ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael iddi o dan Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

50

0

0

50

Derbyniwyd gwelliant 8.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5159 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu bod pump o’r 10 ardal awdurdod lleol â’r lefelau isaf o iechyd ‘da’ yng Nghymru a Lloegr i’w cael yng Nghymoedd De Cymru, ac yn credu y bydd rhagor o ymwybyddiaeth am fwyta’n iachach yn helpu i wella hyn.

2. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ‘Bwyta’n Gall’ fel rhan o ymgyrch farchnata gymdeithasol Newid am Oes i annog teuluoedd yng Nghymru i ddewis a choginio prydau bwyd sy’n isel mewn braster, siwgr a halen ac yn cynnwys mwy o ffrwythau a llysiau.

3. Yn nodi bod llawer o deuluoedd nad ydynt yn gallu cael gafael ar ystod lawn o fwydydd iach ac yn gresynu bod nifer cynyddol yn ddibynnol ar fanciau bwyd.

4. Yn cydnabod bod gan yr ymgyrch rôl bwysig i’w chwarae fel rhan o amrywiaeth o fentrau cydgysylltiedig gan Lywodraeth Cymru, y GIG a phartneriaid eraill i gyfrannu at leihau lefelau afiechyd sy’n gysylltiedig â deiet yng Nghymru.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r cysylltiad rhwng tlodi a deiet gwael fel rhan o’i hymgyrch.

6. Yn gresynu bod deiet gwael wedi cyfrannu at y ffaith bod 57% o oedolion a 35% o blant yng Nghymru dros eu pwysau neu’n ordew.  

7. Yn gresynu bod pump awdurdod lleol yng Nghymru ymysg y deg awdurdod ‘lleiaf iach’ yn y Deyrnas Unedig, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’n bendant i fynd i’r afael â’r heriau deietegol yn yr ardaloedd hyn.

8. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ategu’r ymgyrch hon drwy sicrhau bod plant yn cael dewis o fwydydd iach yn yr ysgol gan ddefnyddio’r pwerau sydd ar gael iddi o dan Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

51

0

0

51

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

Dyddiad cyhoeddi: 06/02/2013

Dyddiad y penderfyniad: 05/02/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/02/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad