Manylion y penderfyniad

Debate on the Draft Budget 2013-14

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16:24

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailddrafftio ei Chyllideb Ddrafft ar gyfer 2013-14 fel ei bod:

a) yn mynd i’r afael â’r pwysau ariannol eithriadol ar y Gwasanaeth Iechyd o ganlyniad i doriadau mewn termau real o £493 miliwn dros dair blynedd;

b) yn diwallu anghenion busnesau yng Nghymru, sy’n hanfodol wrth greu cyflogaeth;

c) yn cau’r bwlch cyllido rhwng disgyblion ysgol yng Nghymru a Lloegr; a

d) yn sicrhau darpariaeth i liniaru’r codiadau yn y dreth gyngor ar gyfer cartrefi yng Nghymru lle mae’r esgid ariannol yn gwasgu.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

10

32

53

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu wrth y bwlch mewn gwariant ar addysg rhwng Cymru a Lloegr a fydd yn gwaethygu oherwydd na lwyddwyd i gynyddu’n sylweddol y Grant Amddifadedd Disgyblion yn 2013/14.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

21

27

53

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu nad yw’r Gyllideb Ddrafft yn ceisio mynd i’r afael â’r diffyg mynediad at driniaethau arloesol yn y GIG.  

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

10

26

52

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:


NDM5087 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:

 

Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer y flwyddyn ariannol 2013-2014 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ ar 2 Hydref 2012.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

27

10

16

53

Derbyniwyd y cynnig

Dyddiad cyhoeddi: 14/11/2012

Dyddiad y penderfyniad: 13/11/2012

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/11/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad