Manylion y penderfyniad
Dadl Fer
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae dadleuon byr yn wahanol i
ddadleuon eraill oherwydd eu bod yn rhoi cyfle i unrhyw Aelod, nad yw'n aelod
o'r llywodraeth, gynnal dadl gyffredinol am bwnc sydd o ddiddordeb neu am fater
sy'n ymwneud â'r etholaeth. Ni fydd gofyn i'r Cynulliad bleidleisio ar ddiwedd
y ddadl honno (oherwydd nad oes cynnig yn gysylltiedig â'r dadleuon hyn). Detholir Aelodau drwy falot a gynhelir gan y
Llywydd a chaniateir iddynt gyflwyno pwnc o'u dewis. Bydd yr Aelod yn agor y
ddadl ac yn siarad am y cyfnod a neilltuwyd. Fel rheol, bydd y Gweinidog neu'r
Comisiynydd Cynulliad sy'n gyfrifol am y pwnc dan sylw'n ymateb i'r ddadl fer.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 18:07
NDM5067 Jenny
Rathbone (Canol Caerdydd)
Gwella Gofal Dementia – datblygu gwasanaethau di-dor
Mae’r cynnydd yn nifer yr achosion o ddementia yn golygu ei bod yn hollbwysig ailfeddwl am wasanaethau yn ogystal ag agweddau. Gall gwneud diagnosis ac asesiadau yn gynharach gadw pobl allan o’r ysbyty ac mae hynny’n eu galluogi i lunio’r trefniadau ar gyfer eu gofal hirdymor. Mae ar bobl angen gwasanaethau amlddisgyblaethol, hyblyg a chosteffeithiol i’w cefnogi wrth i’w hanghenion newid.
Dyddiad cyhoeddi: 18/10/2012
Dyddiad y penderfyniad: 17/10/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/10/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad