Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.28.
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM5016 Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu:
a) nad oes lle i fod
yn hunanfodlon yng nghyswllt cyflenwi
gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru;
b) mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddal Byrddau Iechyd Lleol i gyfrif drwy fecanwaith ystyrlon ar gyfer
monitro ansawdd gofal mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru;
c) bod Cymru yn wynebu sialensiau newydd a bod cyd-destun cymdeithasol ac economaidd gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn newid yn gyson;
d) y dylai pob menyw yng
Nghymru, ni waeth ble mae
hi'n byw ac ni waeth beth
yw ei chefndir
cymdeithasol neu ei hethnigrwydd, allu cael gafael
ar a derbyn gofal mamolaeth a newyddenedigol diogel o ansawdd uchel;
e) na fu gwelliant sylweddol
mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol er 1999; a
f) bod yr ystadegau cyfredol ar gyfer gwasanaethau
newyddenedigol a mamolaeth yn annerbyniol.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ddarparu arweinyddiaeth strategol a chryf i Fyrddau Iechyd Lleol ledled
Cymru i sicrhau bod gwasanaethau
mamolaeth a newyddenedigol yn gwella;
b) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau newyddenedigol a wneir gan Fyrddau
Iechyd Lleol yn cael ei
gymeradwyo gan y Rhwydwaith Newyddenedigol i sicrhau nad yw
unrhyw gynigion yn peryglu darparu
gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr; ac
c) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau mamolaeth a wneir gan Fyrddau
Iechyd Lleol yn cael ei
gymeradwyo gan Grŵp
Gweithredu Cymru Gyfan i sicrhau nad yw
unrhyw gynigion yn peryglu darparu
gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
41 |
45 |
Gwrthodwyd y
cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1
- Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu is-bwyntiau 1e ac 1f.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
7 |
15 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2
- Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
cynllunio’r gweithlu yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod digon o staff arbenigol ar gael ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol ledled y wlad.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd
gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd
y cynnig:
Yn nodi toriadau Llywodraeth Cymru i gyllideb y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a
oedd yn fwy
nag erioed o’r blaen, a bod modd i’r rhain beryglu
unrhyw ymdrechion i wella gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
33 |
45 |
Gwrthodwyd
gwelliant 3.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5016 Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu:
a) nad oes lle i fod
yn hunanfodlon yng nghyswllt cyflenwi
gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru;
b) mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am ddal Byrddau Iechyd Lleol i gyfrif drwy fecanwaith ystyrlon ar gyfer
monitro ansawdd gofal mamolaeth a newyddenedigol ar draws Cymru;
c) bod Cymru yn wynebu sialensiau newydd a bod cyd-destun cymdeithasol ac economaidd gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol yn newid yn gyson;
a
d) y dylai pob menyw yng
Nghymru, ni waeth ble mae
hi'n byw ac ni waeth beth
yw ei chefndir
cymdeithasol neu ei hethnigrwydd, allu cael gafael
ar a derbyn gofal mamolaeth a newyddenedigol diogel o ansawdd uchel.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ddarparu arweinyddiaeth strategol a chryf i Fyrddau Iechyd Lleol ledled
Cymru i sicrhau bod gwasanaethau
mamolaeth a newyddenedigol yn gwella;
b) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau newyddenedigol a wneir gan Fyrddau
Iechyd Lleol yn cael ei
gymeradwyo gan y Rhwydwaith Newyddenedigol i sicrhau nad yw
unrhyw gynigion yn peryglu darparu
gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr;
c) sicrhau bod unrhyw adolygiad o wasanaethau mamolaeth a wneir gan Fyrddau
Iechyd Lleol yn cael ei
gymeradwyo gan Grŵp
Gweithredu Cymru Gyfan i sicrhau nad yw
unrhyw gynigion yn peryglu darparu
gwasanaeth Cymru gyfan cynhwysfawr; a
d) cynllunio’r gweithlu yn yr hirdymor er mwyn sicrhau bod digon o staff arbenigol ar gael ar gyfer gwasanaethau newyddenedigol ledled y wlad.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 21/06/2012
Dyddiad y penderfyniad: 20/06/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 20/06/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad