Manylion y penderfyniad
Debate on the results of the 'Natural Resources Wales' consultation
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16:35
NDM4891 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi canlyniadau’r ymgynghoriad ‘Adnoddau Naturiol Cymru’ ynghylch y
cynnig i ddatblygu un corff i reoli adnoddau naturiol yng Nghymru.
Mae canlyniadau’r
ymgynghoriad “Adnoddau Naturiol Cymru” ar gael drwy fynd i:
http://wales.gov.uk/consultations/environmentandcountryside/singlebody/?skip=1&lang=cy
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i bryderon y sector coedwigaeth a
fynegwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod arbenigedd masnachol y sector
coedwigaeth yn cael ei adlewyrchu’n ddigonol yn nhrefniadaeth unrhyw un corff
amgylcheddol newydd, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Amgylchedd a
Chynaliadwyedd yn ei adroddiad i’r achos busnes dros un corff amgylcheddol, a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2012.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd gweddill y bleidlais ar y cynnig a’r
gwelliannau o dan yr eitem hon
tan y Cyfnod Pleidleisio.
Gwelliant 3 - William
Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod yr achos busnes dros yr uno wedi’i gyhoeddi cyn ymgynghori
ar nodau’r un corff amgylcheddol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
29 |
0 |
30 |
59 |
Fel sy’n ofynnol
o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw
drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd gwelliant
3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pryderon presennol sector coedwigaeth Cymru o ran creu’r un corff
amgylcheddol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
58 |
0 |
0 |
58 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ail-archwilio prif nodau ac amcanion
strategol yr un corff amgylcheddol er mwyn cael sicrwydd ac eglurder llwyr yn
eu cylch.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
14 |
5 |
39 |
58 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o arbenigedd masnachol yn y
sefydliad newydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
58 |
0 |
0 |
58 |
Derbyniwyd gwelliant
6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o drefniadau diogelu yn yr un corff
amgylcheddol petai gwrthdaro mewn buddiannau rhwng y tir y mae Llywodraeth
Cymru yn berchen arno a’r trefniadau caniatáu ar gyfer prosiectau ynni ar y tir
hwnnw.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
58 |
0 |
0 |
58 |
Derbyniwyd gwelliant
7.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4891 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi canlyniadau’r ymgynghoriad ‘Adnoddau Naturiol Cymru’ ynghylch y
cynnig i ddatblygu un corff i reoli adnoddau naturiol yng Nghymru.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi sylw i bryderon y sector coedwigaeth a
fynegwyd yn yr ymatebion i’r ymgynghoriad.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod arbenigedd masnachol y sector
coedwigaeth yn cael ei adlewyrchu’n ddigonol yn nhrefniadaeth unrhyw un corff
amgylcheddol newydd, fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Amgylchedd a
Chynaliadwyedd yn ei adroddiad i’r achos busnes dros un corff amgylcheddol, a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 27 Ebrill 2012.
Yn nodi pryderon presennol sector coedwigaeth Cymru o ran creu’r un corff
amgylcheddol.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o arbenigedd masnachol yn y
sefydliad newydd.
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod digon o drefniadau diogelu yn yr un corff
amgylcheddol petai gwrthdaro mewn buddiannau rhwng y tir y mae Llywodraeth
Cymru yn berchen arno a’r trefniadau caniatáu ar gyfer prosiectau ynni ar y tir
hwnnw.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
58 |
0 |
0 |
58 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 23/05/2012
Dyddiad y penderfyniad: 22/05/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/05/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad