Manylion y penderfyniad

Dadl: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.33

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

NDM5463 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi pryderon a godwyd am nifer y biliau fframwaith sy'n cael eu cyflwyno gerbron y Cynulliad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Gwrthodwyd gwelliant 1.

 

Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi pryderon a godwyd am nifer yr achlysuron lle y mae proses ddeddfwriaethol safonol y Cynulliad wedi cael ei chwtogi.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

30

59

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi â phryder y duedd ddiweddar o ran biliau fframwaith, a deddfwriaeth llwybr carlam a deddfwriaeth frys, sy'n tanseilio'r gallu i graffu'n effeithiol ar ddeddfwriaeth ac i sicrhau atebolrwydd democrataidd cryf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

29

0

30

59

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

 

Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno Bil ar Anghenion Addysgol Arbennig o fewn y flwyddyn nesaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

58

0

0

58

Derbyniwyd gwelliant 4.

 

Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod bod llwyddiant y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn dibynnu ar Raglen Lywodraethu gynhwysfawr ac ystyrlon.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

58

0

0

58

Derbyniwyd gwelliant 5.

 

Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi bod y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn cael ei chyfyngu pan fydd deddfwriaeth y llywodraeth yn cael ei chyfeirio at y Goruchaf Lys.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

0

13

58

Derbyniwyd gwelliant 6.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5463 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1.Yn nodi Rhaglen Ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru.

 

2.Yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno Bil ar Anghenion Addysgol Arbennig o fewn y flwyddyn nesaf.

 

3.Yn cydnabod bod llwyddiant y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn dibynnu ar Raglen Lywodraethu gynhwysfawr ac ystyrlon.

 

4.Yn nodi bod y Rhaglen Ddeddfwriaethol yn cael ei chyfyngu pan fydd deddfwriaeth y llywodraeth yn cael ei chyfeirio at y Goruchaf Lys.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

45

13

0

58

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 19/03/2014

Dyddiad y penderfyniad: 18/03/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 18/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad