Manylion y penderfyniad
Dadl: Diwrnod Rhyngwladol y Menywod
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.12
NDM5443
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2014 i nodi rôl
menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod llwyddiannau menywod o Gymru ym myd y
campau a’r ffordd y maent yn fodelau rôl cadarnhaol i fenywod a dynion ifanc.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Gwelliant
2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi adroddiad ‘Lle’r Fenyw' gan Chwarae Teg a oedd yn
dangos bod y mwyafrif o gyflogwyr yn meddwl y byddai gweithredu pellach gan y
llywodraeth, a chymorth gyda gofal plant yn benodol, yn helpu i sicrhau
cydraddoldeb rhwng dynion a menywod yn y gweithle ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i amlinellu’r camau y bydd yn eu cymryd i ehangu darpariaeth gofal plant
fforddiadwy o ansawdd yng Nghymru.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5443
Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2014 i nodi rôl
menywod ym mywyd economaidd, gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
2. Yn cydnabod llwyddiannau menywod o Gymru ym
myd y campau a’r ffordd y maent yn fodelau rôl cadarnhaol i fenywod a dynion ifanc.
3. Yn nodi adroddiad ‘Lle’r Fenyw' gan Chwarae Teg a oedd yn
dangos bod y mwyafrif o gyflogwyr yn meddwl y byddai gweithredu pellach gan y
llywodraeth, a chymorth gyda gofal plant yn benodol, yn helpu i sicrhau
cydraddoldeb rhwng dynion a menywod yn y gweithle ac yn galw ar Lywodraeth
Cymru i amlinellu’r camau y bydd yn eu cymryd i ehangu darpariaeth gofal plant
fforddiadwy o ansawdd yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 04/03/2014
Dyddiad y penderfyniad: 04/03/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 04/03/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad