Manylion y penderfyniad
Dadl ar y Strategaeth Microfusnesau
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd
yr eitem am 17.24
NDM4903 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu Adroddiad y Grwp Gorchwyl a Gorffen Microfusnes ac ymrwymiad y
Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i lunio cynllun ar gyfer gweithredu
polisi a strategaeth Microfusnes.
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Rhoi pwynt 1 newydd ar ddechrau’r cynnig:
Yn nodi bod 331,400 o bobl yn gweithio i 193,010 microfusnes yng Nghymru ac
yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chynnwys cymorth
ychwanegol ar gyfer microfusnesau yn ei chyllideb.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
20 |
0 |
30 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnwys ar ddiwedd y cynnig:
‘sy’n cynnwys mesurau i leihau baich ardrethi busnes’
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
26 |
51 |
Fel sy’n ofynnol
o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw
drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod yr adroddiad “Prynu’n Ddoethach ar Adegau Mwy Anodd” yn cynnwys
amcangyfrif Llywodraeth Cymru ei fod yn costio £20m i fusnesau gwblhau’r cam
cyn-gymhwyso er mwyn cyflwyno cais ar gyfer contractau caffael cyhoeddus, ac
mae hynny’n atal microfusnesau rhag cystadlu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
31 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi argymhelliad yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru greu un brand
cyfarwydd i gael mynediad at gymorth i fusnesau.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu argymhelliad yr adroddiad i leihau’r baich rheoleiddio ar ficrofusnesau
ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cyflwyno polisi ‘un i mewn ac un allan’ ar gyfer rheoliadau sy’n
effeithio ar ficrofusnesau; a
b) cyflwyno cymal machlud ar gyfer yr holl reoliadau newydd sy’n effeithio
ar ficrofusnesau er mwyn asesu eu heffeithiolrwydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
18 |
7 |
25 |
50 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Strategaeth Microfusnes yn cynnwys darpariaeth i fynd i’r afael â mannau gwan ar gyfer derbyn band eang fel blaenoriaeth er mwyn sicrhau bod gan bob microfusnes fynediad dibynadwy i’r rhyngrwyd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
50 |
0 |
0 |
50 |
Derbyniwyd gwelliant
6.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4903 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu Adroddiad y Grwp Gorchwyl a Gorffen Microfusnes ac ymrwymiad y
Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i lunio cynllun ar gyfer
gweithredu polisi a strategaeth Microfusnes.
Yn nodi argymhelliad yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru greu un brand
cyfarwydd i gael mynediad at gymorth i fusnesau.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Strategaeth Microfusnes yn cynnwys darpariaeth i fynd i’r afael â mannau gwan ar gyfer derbyn band eang fel blaenoriaeth er mwyn sicrhau bod gan bob microfusnes fynediad dibynadwy i’r rhyngrwyd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 01/02/2012
Dyddiad y penderfyniad: 31/01/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 31/01/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad