Manylion y penderfyniad
Dadl ar Cymunedau yn Gyntaf
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
17.23
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem
hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi y bydd yn rhaid i’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf
newydd gael sylfaen llywodraethu corfforaethol effeithiol er mwyn gallu creu
Mudiadau Cymunedol annibynnol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
25 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 -
Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwerthusiad
priodol yn rhan annatod o’r holl brosiectau Cymunedau yn Gyntaf er mwyn mesur
llwyddiant ac i allu gwneud gwelliannau yn ystod oes y prosiectau.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 -
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad oedd y rhaglen Cymunedau yn Gyntaf
wreiddiol yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â thlodi
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
18 |
6 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 -
Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar
Cymunedau yn Gyntaf wedi dod i’r casgliad ‘ni all rhaglen Cymunedau yn Gyntaf
ddangos gwerth am arian’.
Gellir gweld adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus drwy
fynd i:
http://www.assemblywales.org/cr-ld7923.pdf
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
18 |
6 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant
4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn nodi, yn ei adroddiad ‘Regenerating
Communities First Neighbourhoods’, mai gwelliannau bychain yn unig a ganfuwyd
gan Sefydliad Joseph Rowntree mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.
Gellir gweld adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree drwy fynd
i:
http://www.jrf.org.uk/sites/files/jrf/communities-regeneration-Wales-full.pdf
(Saesneg yn unig)
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
25 |
49 |
Gwrthodwyd gwelliant
5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
ei rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd yn cyflawni gwell canlyniadau na’i
rhagflaenydd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant
6.
Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y
cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
gan ei rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd dargedau clir, perthnasol a mesuradwy
i fynd i’r afael â thlodi.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
49 |
0 |
0 |
49 |
Derbyniwyd gwelliant
7.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4896 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r Rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd, a fydd yn canolbwyntio ar
fynd i’r afael â thlodi, gyda chynnwys y gymuned yn egwyddor allweddol iddi.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwerthusiad
priodol yn rhan annatod o’r holl brosiectau Cymunedau yn Gyntaf er mwyn mesur
llwyddiant ac i allu gwneud gwelliannau yn ystod oes y prosiectau.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
ei rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd yn cyflawni gwell canlyniadau na’i
rhagflaenydd.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
gan ei rhaglen Cymunedau yn Gyntaf newydd dargedau clir, perthnasol a mesuradwy
i fynd i’r afael â thlodi.
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
36 |
13 |
0 |
49 |
Derbyniwyd y
cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 24/01/2012
Dyddiad y penderfyniad: 24/01/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 24/01/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad