Manylion y penderfyniad
Debate: Welsh Language Strategy 2012 - 17
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.20
NDM4935 Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, Iaith
fyw: iaith byw, a fabwysiadwyd yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth Cymru
2006, wedi’i chyhoeddi; a
2. Yn nodi
ymhellach yr ymrwymiad sydd yn y Strategaeth i weld y Gymraeg yn ffynnu yng
Nghymru a chynnydd yn nifer y bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r iaith.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro lefel y cyfranogiad a fydd gan
sefydliadau gwirfoddol, annibynnol a phreifat wrth gyflenwi’r strategaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
17 |
9 |
29 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi gyda phryder y ffaith bod nifer y cymunedau lle mae dros 70 y cant
o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi gostwng yn sylweddol yn ôl y cyfrifiad
diwethaf.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu grŵp gorchwyl
a gorffen i gynllunio ar gyfer cynyddu nifer y cymunedau lle mae'r Gymraeg yn
brif iaith.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Llywodraeth i gynnwys mesurau i adfywio'r Gymraeg fel iaith
gymunedol yn ei rhaglen ddeddfwriaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
29 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Llywodraeth i adnabod y gyllideb sy'n angenrheidiol i
wireddu'r strategaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y caiff ei thargedau i gynyddu nifer y disgyblion sy’n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg eu cyrraedd.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
26 |
0 |
29 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant
6.
Cynhaliwyd pleidlais
ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4935 Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg,
Iaith fyw: iaith byw, a fabwysiadwyd yn unol ag adran 78 o Ddeddf Llywodraeth
Cymru 2006, wedi’i chyhoeddi;
2. Yn nodi
ymhellach yr ymrwymiad sydd yn y Strategaeth i weld y Gymraeg yn ffynnu yng
Nghymru a chynnydd yn nifer y bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r iaith;
3. Yn nodi gyda phryder y ffaith bod nifer y cymunedau lle mae dros 70 y
cant o'r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi gostwng yn sylweddol yn ôl y
cyfrifiad diwethaf;
4. Yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu grŵp
gorchwyl a gorffen i gynllunio ar gyfer cynyddu nifer y cymunedau lle mae'r
Gymraeg yn brif iaith; a
5. Yn galw ar y Llywodraeth i adnabod y gyllideb sy'n angenrheidiol i
wireddu'r strategaeth.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
55 |
0 |
0 |
55 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 14/03/2012
Dyddiad y penderfyniad: 13/03/2012
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/03/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad