Manylion y penderfyniad

Dadl ar: Mae Addysgu’n Gwneud Gwahaniaeth

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.31

NDM4908 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu bod ansawdd addysgu ac arweinyddiaeth yn allweddol er mwyn trawsnewid perfformiad ysgolion, a

2. Yn croesawu’r camau a gymerwyd i gyflwyno Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol o’r hydref hwn ymlaen, a’r ffaith bod safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon, gan gynnwys gofynion o ran llythrennedd a rhifedd, wedi’u cyflwyno, ynghyd â’r rheoliadau rheoli perfformiad newydd ar gyfer athrawon a phenaethiaid.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod cyfraniad nifer o athrawon ac arweinwyr ysgol nodedig yng Nghymru fel sbardun allweddol i weddnewid perfformiad ysgolion.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Rhoi pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail-rifo’r pwyntiau sy’n dilyn:

Yn nodi â phryder yr asesiad yn Adroddiad Blynyddol 2010/11 Estyn bod "gostyngiad sylweddol" yn nifer yr enghreifftiau o addysgu ‘ardderchog’ neu ‘rhagorol’ a ganfuwyd.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â rheol Sefydlog 12.36

 

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ym Mhwynt 2: Dileu ‘croesawu’r’ a rhoi ‘nodi’r’ yn ei le.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

0

38

56

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwaith pellach ar adnabod a gwerthuso amrywiadau mewn safonau addysgu ledled Cymru a blaenoriaethu camau gweithredu i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon yn unol â hynny.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

9

56

Derbyniwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod natur ddewisol y cymhwyster gradd Meistr yn golygu efallai na fydd anghenion hyfforddi’r holl athrawon newydd gymhwyso wedi cael sylw llawn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

13

38

56

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dilysu a monitro’r cymhwyster gradd Meistr yn cael ei wneud yn unol â’r safonau rhyngwladol uchaf.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

54

0

2

56

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

7

31

56

Gwrthodwyd gwelliant 7.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4908 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1.Yn cydnabod cyfraniad nifer o athrawon ac arweinwyr ysgol nodedig yng Nghymru fel sbardun allweddol i weddnewid perfformiad ysgolion.

2. Yn nodi â phryder yr asesiad yn Adroddiad Blynyddol 2010/11 Estyn bod "gostyngiad sylweddol" yn nifer yr enghreifftiau o addysgu ‘ardderchog’ neu ‘rhagorol’ a ganfuwyd.

3. Yn croesawu’r camau a gymerwyd i gyflwyno Gradd Meistr mewn Ymarfer Addysgol o’r hydref hwn ymlaen, a’r ffaith bod safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon, gan gynnwys gofynion o ran llythrennedd a rhifedd, wedi’u cyflwyno, ynghyd â’r rheoliadau rheoli perfformiad newydd ar gyfer athrawon a phenaethiaid.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gwaith pellach ar adnabod a gwerthuso amrywiadau mewn safonau addysgu ledled Cymru a blaenoriaethu camau gweithredu i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon yn unol â hynny.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dilysu a monitro’r cymhwyster gradd Meistr yn cael ei wneud yn unol â’r safonau rhyngwladol uchaf.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 08/02/2012

Dyddiad y penderfyniad: 07/02/2012

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/02/2012 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad