Manylion y penderfyniad
Consideration of proposals to amend the Public Audit (Wales) Act 2013: Evidence session 4
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Cyhoeddodd
y Pwyllgor ei adroddiad
(PDF, 2MB) ym mis Rhagfyr 2019 a chytunodd i ymgynghori
ar Fil Archwilio Cyhoeddus (Diwygio) (Cymru) drafft.
Cyflwynwyd
Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru)
2013 ym mis Gorffennaf 2012 a daeth yn gyfraith yng Nghymru ar 29 Ebrill
2013. Roedd y Ddeddf yn amcanu i gryfhau a gwella atebolrwydd a threfniadau
llywodraethu Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru gan sicrhau
annibyniaeth a gwrthrychedd yr Archwilydd Cyffredinol ar yr un pryd.
Gwnaeth
Pwyllgor Cyllid Cynulliad
Cenedlaethol Cymru waith craffu ar ôl deddfu ar y Ddeddf a ganolbwyntiodd ar
ddau faes:
1. Ystyried materion a godwyd (PDF, 944KB) gan
Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru mewn cysylltiad â Deddf
Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, gan gynnwys:
- Codi ffioedd
- Trefniadau cworwm
Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru
- Trefniadau adrodd Swyddfa Archwilio
Cymru
- Problemau gyda gosod cyfrifon ac
adrodd arnynt
2. Ystyried i ba raddau y gallai agweddau
eraill ar Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 elwa ar adolygiad.
Date, Agenda and Minutes |
Transcript |
Video |
|
Archwilydd Cyffredinol yr Alban Caroline
Gardner, Archwilydd Cyffredinol yr Alban Diane McGiffen,
Prif Swyddog Gweithredu, Audit Scotland |
|||
Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth Alan Bermingham,
Rheolwr Polisi, Llywodraethau, Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a
Chyfrifyddiaeth |
|||
Cyrff a archwilir Huw Thomas, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd Iechyd
Prifysgol Hywel Dda Lynne Hamilton, Cyfarwyddwr Cyllid, Bwrdd
Iechyd Prifysgol Bae Abertawe Jon Rae, Cyfarwyddwr Adnoddau, Cymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru |
|||
Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd Rebecca Evans AC, Y Gweinidog Cyllid a'r
Trefnydd, Llywodraeth Cymru |
|||
Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa
Archwilio Cymru Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru Isobel Everett, Cadeirydd Swyddfa Archwilio
Cymru Martin Peters,
Pennaeth y Gyfraith a Moeseg, Swyddfa Archwilio Cymru Steve O’Donoghue, Cyfarwyddwr Cyllid, Swyddfa
Archwilio Cymru |
Darllenwch y Trawsgrifiad
o Sesiwn Dystiolaeth 5 |
Gwyliwch
sesiwn dystiolaeth 5 ar Senedd.tv. |
Penderfyniadau:
5.1 Trafododd
y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd ar gynigion i ddiwygio Deddf Archwilio
Cyhoeddus (Cymru) 2013.
Dyddiad cyhoeddi: 24/07/2019
Dyddiad y penderfyniad: 17/07/2019
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/07/2019 - Y Pwyllgor Cyllid - Y Bumed Senedd
Dogfennau Cefnogol: