Manylion y penderfyniad
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Is AllweddolPenderfyniad?: Ydy
Diben:
Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y
Cynulliad i'r Prif Weinidog am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.
Bydd y Prif Weinidog yn ateb cwestiynau bob wythnos. Atebir
cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod
Llawn. Unwaith
bob pedair wythnos caiff yr eitem ei threfnu am 60 munud a bydd y Dirprwy
Weinidog a’r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar
faterion sy’n ymwneud â’i chyfrifoldebau.
Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a
gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.
Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn
llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir
cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod
Llawn.
Penderfyniadau:
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.58, atebodd
Arweinydd y Tŷ ar ran y Prif Weinidog.
Gofynnwyd cwestiynau 1-3 a 5-9. Tynnwyd cwestiwn
4 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i
Arweinydd y Tŷ ar ôl cwestiwn 2.
Dyddiad cyhoeddi: 01/03/2017
Dyddiad y penderfyniad: 28/02/2017
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Dogfennau Cefnogol: