Manylion y penderfyniad

Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Caiff Aelodau'r Cynulliad ofyn Cwestiynau Llafar y Cynulliad i'r Prif Weinidog am unrhyw fater sy'n dod o fewn eu cyfrifoldeb.

 

Bydd y Prif Weinidog yn ateb cwestiynau bob wythnos. Atebir cwestiynau llafar yn ystod cyfnod a neilltuir ar gyfer Cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn. Unwaith bob pedair wythnos caiff yr eitem ei threfnu am 60 munud a bydd y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion sy’n ymwneud â’i chyfrifoldebau.

 

Bydd y Llywydd yn cynnal balot i benderfynu pa Aelodau a gaiff gyflwyno cwestiynau. Caiff pob Aelod gynnwys ei enw yn y balot.

 

Yna, rhaid i'r Aelod a ddetholir gyflwyno'r cwestiwn llafar o leiaf bum niwrnod cyn y dyddiad a bennwyd ar gyfer ei ateb. Defnyddir cyfrifiadur i ddewis trefn ar hap ar gyfer gofyn y cwestiynau yn y Cyfarfod Llawn.

Penderfyniadau:

Dechreuodd yr eitem am 13.30

 

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.

Dyddiad cyhoeddi: 15/02/2017

Dyddiad y penderfyniad: 14/02/2017

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 14/02/2017 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Dogfennau Cefnogol: