Manylion y penderfyniad
Ethol Dirprwy Lywydd o dan Reol Sefydlog 6
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Statws: I'w ystyried
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Rheolau
Sefydlog Cynulliad Cenedlaethol Cymru
6.1 Yn ei gyfarfod
cyntaf ar ôl etholiad Cynulliad, rhaid i’r Cynulliad ethol Llywydd a Dirprwy o
blith ei Aelodau.
6.2 Os daw swydd y
Llywydd neu swydd y Dirprwy yn wag, rhaid i’r Cynulliad ethol Aelod cyn gynted
â phosibl i lenwi'r swydd wag. Mae ethol Llywydd yn cymryd blaenoriaeth dros
bob busnes arall.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 14.17
Gwahoddodd y Llywydd (Elin Jones) enwebiadau yn
unol â Rheol Sefydlog 6.6.
Enwebwyd John Griffiths gan David Rees
Eiliodd Janet Finch-Saunders yr enwebiad.
Enwebwyd Ann Jones gan Joyce
Watson.
Eiliodd Angela Burns yr enwebiad.
Gwahoddodd y Llywydd yr ymgeiswyr i annerch y
Cynulliad.
Gan fod dau enwebiad, cynhaliwyd pleidlais gudd
yn unol â Rheol Sefydlog 6.8
Canlyniad y bleidlais gudd oedd:
John Griffiths |
Ann Jones |
Ymatal |
Cyfanswm |
29 |
30 |
0 |
59 |
Cyhoeddodd
y Llywydd fod Ann Jones wedi’i hethol yn Ddirprwy Lywydd a’i gwahodd i annerch
y Cynulliad.
Dyddiad cyhoeddi: 12/05/2016
Dyddiad y penderfyniad: 11/05/2016
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/05/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd