Manylion y penderfyniad
Debate on Public Health Challenges – Tobacco Control
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
NDM4871 Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco;
2. Yn nodi amcanion y cynllun sef:
a) lleihau'r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan ysmygu yng Nghymru, yn arbennig amddiffyn plant rhag effeithiau niweidiol tybaco; a
b) lleihau amlder ysmygu yn ein cymunedau mwyaf amddifad gan fod ysmygu yn un o brif achosion y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd; ac
3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth, os dengys tystiolaeth fod yr ymgyrch i ostwng ysmygu mewn ceir sy'n cario pobl ifanc dan oed yn methu â sicrhau gostyngiad sylweddol yn y graddau y mae pobl yn dod i gysylltiad â mwg ail-law.
Cafodd Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco ei anfon at yr Aelodau drwy e-bost ar 29 Tachwedd 2011.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant
1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ym mhwynt 3, dileu ‘Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru'n
ystyried cyflwyno deddfwriaeth’ a rhoi yn ei le ‘Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
gyflwyno deddfwriaeth yn y tymor Cynulliad hwn’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
11 |
2 |
42 |
55 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De
Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gynyddu’r niferoedd sy’n manteisio
ar gynlluniau rhoi’r gorau i ysmygu er mwyn lleihau’r niwed i iechyd y cyhoedd
a achosir gan ysmygu.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
43 |
1 |
12 |
55 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4871 Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn ystyried Cynllun Gweithredu Cymru ar Reoli Tybaco;
2. Yn nodi amcanion y cynllun sef:
a) lleihau'r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan ysmygu yng Nghymru, yn arbennig amddiffyn plant rhag effeithiau niweidiol tybaco; a
b) lleihau amlder ysmygu yn ein cymunedau mwyaf amddifad gan fod ysmygu yn un o brif achosion y bwlch mewn disgwyliad oes rhwng pobl gyfoethog a phobl dlawd; ac
3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyflwyno deddfwriaeth, os dengys tystiolaeth fod yr ymgyrch i ostwng ysmygu mewn ceir sy'n cario pobl ifanc dan oed yn methu â sicrhau gostyngiad sylweddol yn y graddau y mae pobl yn dod i gysylltiad â mwg ail-law.
4. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar gynyddu’r niferoedd sy’n manteisio ar gynlluniau rhoi’r gorau i ysmygu er mwyn lleihau’r niwed i iechyd y cyhoedd a achosir gan ysmygu.
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
53 |
1 |
2 |
56 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 07/12/2011
Dyddiad y penderfyniad: 06/12/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 06/12/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad