Manylion y penderfyniad

Debate on The Mental Health (Wales) Measure 2010 - Duty to Review - Final Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi gwneud gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

 

Cylch gorchwyl yr ymchwiliad hwn oedd i asesu'r modd y caiff Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ei roi ar waith a'i weithredu, yn benodol drwy:

  • asesu i ba raddau y mae'r amcanion a bennwyd ar gyfer y Mesur yn cael eu cyflawni;
  • nodi a oes unrhyw wersi y gellir eu dysgu neu arfer da y gellir ei rannu yn sgil y gwaith o lunio a gweithredu'r Mesur a'r is-ddeddfwriaeth a chanllawiau cysylltiedig; ac
  • asesu a yw'r ddeddfwriaeth wedi rhoi gwerth am arian, ac a fydd yn parhau i wneud hynny.

Yr egwyddorion sy'n sail i'r cylch gorchwyl yw:

  • gweld a yw'r ddeddfwriaeth yn gweithio yn ymarferol yn ôl y bwriad;
  • cyfrannu at ddeddfwriaeth well;
  • gwella'r ffocws ar weithredu a chyflawni amcanion polisi; a
  • nodi a lledaenu arfer da fel y gellir dysgu gwersi gan lwyddiannau a methiannau a ddatgelwyd gan y gwaith craffu; ac
  • asesu a yw'r ddeddfwriaeth wedi rhoi gwerth am arian ac a fydd yn parhau i wneud hynny.

 

Tystiolaeth gan y Cyhoedd

Cynhaliodd y Pwyllgor ymgynghoriad cyhoeddus i gasglu tystiolaeth am y testun yma.

 

Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Tystiolaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PDF, 657KB).

 

Adroddiad y Pwyllgor

Cyflwynodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF, 708KB) yn Ionawr 2015. Ymatebodd Llywodraeth Cymru (PDF, 146KB) yn Chwefror 2015.

 

Dadl yn y Cyfarfod Llawn

Cynhaliwyd y ddadl yn y Cyfarfod Llawn ar adroddiad y Pwyllgor ar y gwaith craffu ar ôl deddfu ar Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010 ar 4 Mawrth 2015.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.49

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn annerbyniol o uchel.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y ffaith bod targedau amseroedd aros cyfredol yn cuddio amseroedd aros am therapïau seicolegol sy'n aml yn hir ac yn galw am ddata mwy tryloyw a rheolaidd am amseroedd aros ar gyfer ymyriadau seicolegol.

Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5971 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi cynnwys Adroddiad Terfynol y Ddyletswydd i Adolygu Asesiad Ôl-Ddeddfwriaethol o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010.

2. Yn credu bod rhestrau aros ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn annerbyniol o uchel.

3. Yn gresynu at y ffaith bod targedau amseroedd aros cyfredol yn cuddio amseroedd aros am therapïau seicolegol sy'n aml yn hir ac yn galw am ddata mwy tryloyw a rheolaidd am amseroedd aros ar gyfer ymyriadau seicolegol.

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 24/02/2016

Dyddiad y penderfyniad: 23/02/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 23/02/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad