Manylion y penderfyniad

Order of consideration of amendments for Stage 3 of the Historic Environment (Wales) Bill

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Bil Llywodraeth Cymru a gyflwynwyd gan Ken Skates AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Cyfeiriodd y Pwyllgor Busnes y Bil at y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

 

Gwybodaeth am y Bil

Bwriadwyd i Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) fod yn rhan o gyfres o ddeddfwriaethau, polisïau, cynghorion a chanllawiau a oedd yn cyflwyno newidiadau pwysig i wella’r systemau presennol a ddefnyddir i warchod a rheoli amgylchedd hanesyddol Cymru mewn modd cynaliadwy. Yn fras, roedd y Bil yn gwarchod adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig yn fwy effeithiol; roedd yn gwella’r mecanweithiau presennol ar gyfer rheoli’r amgylchedd hanesyddol mewn modd cynaliadwy; ac yn sicrhau bod penderfyniadau ynghylch yr amgylchedd hanesyddol yn cael eu gwneud mewn ffordd fwy tryloyw ac atebol.

 

Wrth ei gyflwyno, nodwyd mai bwriad y Bil oedd creu mesurau newydd a oedd yn:

  • yn caniatáu i Weinidogion Cymru roi stop ar unwaith ar unrhyw waith anawdurdodedig wneir ar henebion cofrestredig, gan ei gwneud yn haws cymryd camau yn erbyn y sawl sydd wedi difrodi neu ddinistrio heneb;
  • yn galluogi awdurdodau i weithredu’n gyflym os bydd adeilad rhestredig mewn perygl oherwydd gwaith anawdurdodedig, gan roi iddynt fwy o hyblygrwydd wrth ymdrin ag adeiladau hanesyddol y mae angen gwaith brys arnynt i’w gwarchod rhag dirywio ymhellach;
  • yn ei gwneud yn haws i berchnogion neu ddatblygwyr greu ffyrdd newydd a chynaliadwy o ddefnyddio adeiladau hanesyddol nad ydynt yn rhestredig, drwy lacio’r amodau ar gyfer gwneud cais am dystysgrif imiwnedd rhag rhestru;
  • yn creu cofrestr statudol o barciau a gerddi hanesyddol Cymru;
  • yn caniatáu i berchnogion asedau hanesyddol negodi cytundebau partneriaeth dreftadaeth, ar gyfer cyfnod o rai blynyddoedd, gyda’r awdurdod cydsynio. Bydd hyn yn cael gwared ar yr angen i wneud ceisiadau am gydsyniad dro ar ôl tro ar gyfer gwaith tebyg ac yn hyrwyddo dulliau mwy cyson a chydlynol o reoli adeiladau neu henebion;
  • yn sicrhau dyfodol mwy sefydlog i gofnodion amgylchedd hanesyddol Cymru, sy’n rhoi gwybodaeth a chyngor manwl ar yr amgylchedd hanesyddol i awdurdodau cynllunio lleol a’r cyhoedd;
  • yn gwneud y strwythurau presennol a ddefnyddir i ddynodi asedau hanesyddol o bwys cenedlaethol yn fwy agored a thryloyw drwy gyflwyno ymgynghori ffurfiol â pherchnogion a mecanwaith ar gyfer adolygu penderfyniadau;
  • yn sefydlu panel annibynnol i roi cyngor ar bolisïau a strategaeth ym maes yr amgylchedd hanesyddol ar lefel genedlaethol yng Nghymru.

 

 

Cyfnod Presennol

 

Daeth Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (gwefan allanol) yn gyfraith yng Nghymru ar 21 Mawrth 2016.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cyfnod

Dogfennau

Cyflwyno'r Bil: 1 Mai 2015

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), fel y’i cyflwynwyd ((PDF 260KB)

 

Memorandwm Esboniadol (PDF 1MB)

 

Datganiad y Llywydd: 1 Mai 2015 (PDF 125KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil (PDF 64KB)

 

Geirfa’r Gyfraith y Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) (PDF 162KB)

 

Datganiadau o Fwriad y Polisi (PDF 191KB)

 

Crynodeb y Gwasanaeth Ymchwil o’r Bil (PDF 403KB)

 

Rheoli Cofnodion Amgylchedd Hanesyddol yng Nghymru – Canllawiau Statudol (PDF 1.66MB)

 

Atodlenni Keeling*:

Deddf Henebion a Mannau Archaeolegol 1979 (PDF 262KB)

Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (PDF 305KB)

 

*Defnyddir Atodlenni Keeling i ddangos sut y bydd deddfau presennol yn darllen pan y'i diwygiwyd gan y Bil.

 

Cyfnod 1 - Pwyllgor yn trafod yr egwyddorion cyffredinol

Ymgynghoriad Cyhoeddus. Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth, a gaeodd ar 19 Mehefin 2015.

 

Dyddiadau’r Pwyllgor

Ystyriodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Bil ar y dyddiadau canlynol:

 

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

4 Mehefin 2015

Sesiwn tystiolaeth lafar

Darllen y trawsgrifiad

Gwylio’r cyfarfod

10 Mehefin 2015

Sesiwn tystiolaeth lafar

Darllen y trawsgrifiad

Gwylio’r cyfarfod

18 Mehefin 2015

Sesiwn tystiolaeth lafar

Darllen y trawsgrifiad

Gwylio’r cyfarfod

2 Gorffennaf 2015

Sesiwn tystiolaeth lafar

Darllen y trawsgrifiad

Gwylio’r cyfarfod

8 Gorffennaf 2015

Sesiwn tystiolaeth lafar ac ystyried prif faterion

Darllen y trawsgrifiad

Gwylio’r cyfarfod

 

Ystyriodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Bil ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

8 Mehefin 2015

Gwylio’r cyfarfod

 

Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid y Bil ar y dyddiadau canlynol:

Dyddiad Cyfarfod & Agenda

Pwrpas y cyfarfod

Trawsgrifiad

Senedd.TV

21 Mai 2015

Ystyried y goblygiadau ariannol

Darllen y trawsgrifiad

Gwylio’r cyfarfod

 

Gwylio crynodeb 60 eiliad o’n sesiynau tystiolaeth:

4 Mehefin 2015

10 Mehefin 2015

18 Mehefin 2015

2 Gorffennaf 2015

 

Gohebiaeth

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth - 16 Mehefin 2015 (PDF 420KB)

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Atodiad 1 - Cofnodion amgylchedd hanesyddol - 16 Mehefin 2015 (PDF 73KB)

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Atodiad 2 - Y Panel Cynghori - 16 Mehefin 2015 (PDF 46KB)

 

Gohebiaeth gan y Cadeirydd i’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth – 10 Gorffennaf 2015 (PDF 172KB)

Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth - 21 Gorffennaf 2015 (PDF 503KB)

Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Atodiad 1 - 21 Gorffennaf 2015 (PDF 125KB)

 

Gohebiaeth gan y Cadeirydd i’r Comisiynydd y Gymraeg – 18 Medi 2015 (PDF 151KB)

Ymateb gan y Comisiynydd y Gymraeg – 1 Hydref 2015 (PDF 202KB)

 

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth – 28 Medi 2015 (Saesneg yn unig) (PDF 343KB)

 

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor (PDF 983KB)

Yr amserlen o ran tystiolaeth lafar (PDF 18KB)

 

Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth – 3 Tachwedd 2015(PDF 188KB)

Ymateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth ynglŷn â pharciau a gerddi hanesyddol – 24 Tachwedd 2015 (PDF 361KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PDF 742KB)

 

 

Cyfnod 1 - Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

 

Cytunodd y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Hydref 2015.

 

Penderfyniad Ariannol

 

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil yn y Cyfarfod Llawn ar 20 Hydref 2015.

 

Cyfnod 2 - Pwyllgor yn ystyried y gwelliannau

 

 

Ystyriwyd gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 26 Tachwedd 2015.

 

Cofnodion Cryno: 26 Tachwedd 2015

 

Cytunodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar 18 Tachwedd 2015 o dan Reol Sefydlog 26.21 mai dyma fydd y drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2: Adran 3, Atodlen 1, adrannau 4 i 22, adran 2, adran 24, Atodol 2, adrannau 25 i 32, adran 23, adrannau 33 i 41, adran 1, a’r Teitl hir.

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 27 Hydref 2015 (PDF 88KB)

Llywodraeth Cymru – Tabl Diben ac Effaith: 27 Hydref 2015 (PDF 207KB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 16 Tachwedd 2015 f2 (PDF 84KB)

Llywodraeth Cymru – Tabl Diben ac Effaith: 16 Tachwedd 2015 (PDF 162KB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 19 Tachwedd 2015 (PDF 151KB)

 

Hysbysiadau Cyfun ynghylch Gwelliannau (PDF 188KB)

 

Rhestr o welliannau wedi’u didoli: 26 Tachwedd 2015 f4 (PDF 205KB)

 

Grwpio Gwelliannau: 26 Tachwedd 2015 f2 (PDF 72KB)

 

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF 257KB)

(Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

 

Memorandwm Esboniadol Diwygiwyd (PDF 4.66MB)

 

 

Cyfnod 3 - y Cyfarfod Llawn yn ystyried y gwelliannau

 

 

Yn dilyn cwblhau trafodion Cyfnod 2, dechreuodd Cyfnod 3 ar 27 Tachwedd 2015.

 

Cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 26 Ionawr 2016, o dan Reol Sefydlog 26.36, mai dyma fydd y drefn ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 3: Adran 3, Atodlen 1, Adrannau 4 i 22, Adran 2, Adran 24, Atodlen 2, Adrannau 25 i 32, Adran 23, Adrannau 33 i 42, Adran 1, Teitl Hir

 

Cafodd y gwelliannau eu hystyried a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 2 Chwefror 2016.

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 14 Ionawr 2016 f4 (PDF 114KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 22 Ionawr 2016 f3 (PDF 111KB)

Llywodraeth Cymru – Tabl Diben ac Effaith: 22 Ionawr 2016 (PDF 342KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 26 Ionawr 2016 f3 (PDF 142KB)

Hysbysiadau Cyfun ynghylch Gwelliannau (PDF 230KB)

 

Rhestr o welliannau wedi’u didoli: 2 Chwefror 2016 (PDF 207KB)

Grwpio Gwelliannau: 2 Chwefror 2016 f2 (PDF 71KB)

 

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 (PDF 282KB)

(Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen.)

 

Newidiadau argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 3 (PDF 108KB)

 

Cyfnod 4 - Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

 

 

Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 9 Chwefror 2016 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), fel y’i pasiwyd (PDF 476KB)

 

Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), fel y’i pasiwyd (Crown XML)

Ar ôl Cyfnod 4

 

 

Ysgrifenodd y Twrnai Cyffredinol (PDF 209KB) ac y Cwnsler Cyffredinol (PDF 177KB) at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i'w hysbysu na fyddent yn cyfeirio’r Bil Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) at y Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

 

 

Dyddiad Cydsyniad Brenhinol

 

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol (PDF 165KB) ar 21 Mawrth 2016.

 

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 15.49

NDM5933 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i Fil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:

a) adran 3

b) atodlen 1

c) adrannau 4-22

d) adran 2

e) adran 24

f) atodlen 2

g) adrannau 25-32

h) adran 23

i) adrannau 33-42

j) adran 1

k) Teitl Hir

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Dyddiad cyhoeddi: 27/01/2016

Dyddiad y penderfyniad: 26/01/2016

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 26/01/2016 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad