Manylion y penderfyniad

Debate on the General Principles of the Renting Homes (Wales) Bill

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Bil Llywodraeth, a gyflwynwyd gan Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi. Trosglwyddodd y Pwyllgor Busnes y Bil i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.

 

Gwybodaeth am y Bil

 

Y bwriadau a nodwyd ar gyfer y Bil oedd diwygio'r sail gyfreithiol ar gyfer rhentu cartref oddi wrth landlord preifat neu landlord cymunedol, gan gynnwys awdurdodau lleol a landlordiaid cofrestredig.

 

Cyfnod Presennol

 

Daeth Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn gyfraith yng Nghymru (gwefan allanol) ar 18 Ionawr 2016.

 

Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru

 

Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

 

Cyfnod

Dogfennau

Cyflwyno’r Bil: 9 Chwefror 2015

Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) – fel y'i cyflwynwyd (PDF 994KB)

 

Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) – Memorandwm Esboniadol (PDF 1.42MB)

 

Datganiad y Llywydd am Gymhwysedd Deddfwriaethol (09 Chwefror 2015) (PDF 126KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer ystyried y Bil (PDF 63KB)

 

Datganiad o Fwriad y Polisi (PDF 759KB) (Saesneg yn unig)

 

Crynodeb o’r Bil gan y Gwasanaeth Ymchwil (PDF 444KB)

 

Geirfa Gymraeg: Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) - (PDF 167KB)

 

Cyfnod 1: Y Pwyllgor yn trafod egwyddorion cyffredinol

Ymgynghoriad Cyhoeddus. Cyhoeddodd y Pwyllgor alwad am dystiolaeth, a ddaeth i ben ar 27 Mawrth 2015.

 

Yr Amserlen o ran Tystiolaeth Lafar (PDF 36KB)

 

Ystyriodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol y Bil ar y dyddiad(au) a ganlyn:

22 Ebrill 2015
30 Ebrill 2015
6 Mai 2015
14 Mai 2015
20 Mai 2015
10 Mehefin 2015 (preifat)
18 Mehefin 2015 (preifat)

 

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi:

16 Ebrill 2015 (PDF 317KB)

7 Mai 2015 (PDF 177KB) (Saesneg yn unig)

14 Mai 2015 (PDF 1018KB) (Saesneg yn unig)

9 Mehefin 2015 (PDF 956KB) (Saesneg yn unig)

 

Llythyr gan y Pwyllgor Cyllid, 28 Mai 2015 (PDF 365KB)

 

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor (PDF 1MB)

 

Adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor – crynodeb o'r casgliadau a'r argymhellion (PDF 460KB)

 

Fideo byr o'r Cadeirydd yn trafod Adroddiad y Pwyllgor

 

Ymateb y Gweinidog i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor (PDF 227KB)

 

Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol (PDF 268KB)

 

Cyfnod 1: Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar yr egwyddorion cyffredinol

 

Cynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Gorffennaf 2015. Derbyniwyd y cynnig i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

 

Penderfyniad Ariannol

 

Cytunwyd ar Benderfyniad Ariannol yn y Cyfarfod Llawn ar 7 Gorffennaf 2015.

 

Cyfnod 2: Pwyllgor yn trafod gwelliannau

 

Dechreuodd Cyfnod 2 ar 8 Gorffennaf 2015.

 

Cytunodd y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar 8 Gorffennaf 2015, o dan Reol Sefydlog 26.21, mai trefn y broses ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 2 fydd: adrannau 7 i 29, adrannau 31 i 88, adrannau 90 i 101, adrannau 103 i 119, adrannau 121 i 131, adrannau 133 i 145, adrannau 147 i 255, Atodlenni 2 i 11,  adran 30, adran 89, adran 102, adran 120, adran 132, adran 146, adrannau 1 i 4, Atodlen 1, adrannau 5 i 6, Teitl hir.

 

Cynhaliwyd trafodaethau Cyfnod 2 yn y Pwyllgor ddydd Mercher 30 Medi a dydd Iau 8 Hydref.

 

Cofnodion cryno: 30 Medi a 8 Hydref 2015

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 8 Gorffennaf 2015 f2 (PDF 91KB)

Llywodraeth Cymru – Tabl Diben ac Effaith: 8 Gorffennaf 2015 (PDF 26MB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 16 Gorffennaf 2015 f2 (PDF 85KB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 21 Medi 2015 f2 (PDF 156KB)

Llywodraeth Cymru – Tabl Diben ac Effaith: 21 Medi 2015 (PDF 224KB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 22 Medi 2015

(PDF 87KB)

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 23 Medi 2015 f2

(PDF 96KB)

 

Rhestr o Welliannau wedi'u Didoli:  30 Medi 2015 (PDF 253KB)

Rhestr o Welliannau wedi'u Didoli:  8 Hydref 2015 (PDF 170KB)

 

Grwpio Gwelliannau: 30 Medi 2015 (PDF 71KB)

Grwpio Gwelliannau: 8 Hydref 2015 (PDF 72KB)

 

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi:

7 Hydref 2015 (Saesneg yn unig) (PDF 1MB)

 

Bil Rhentu Cartrefi (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 (PDF 1002KB)

(Nodir diwygiadau i'r Bil ers y fersiwn flaenorol gyda llinell ar yr ochr dde.)

 

Newidiadau argraffu i'r Bil fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod 2 (PDF 124KB)

 

Memorandwm Esboniadol Diwygiedig (PDF 1.54KB)

 

Cam 3: Trafod y gwelliannau yn  Cyfarfod Llawn

 

Ar ôl cwblhau trafodion Cyfnod 2, dechreuodd Cyfnod 3 ar 9 Hydref 2015.

 

Cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Tachwedd 2015, o dan Reol Sefydlog 26.36, mai trefn y broses ystyried ar gyfer trafodion Cyfnod 3 fydd: adrannau 7 i 29, adrannau 31 i 88, adrannau 90 i 101, adrannau 103 i 119, adrannau 121 i 131, adrannau 133 i 146, adrannau 148 i 257, Atodlenni 2 i 11,  adran 30, adran 89, adran 102, adran 120, adran 132, adran 147, adrannau 1 i 4, Atodlen 1, adrannau 5 i 6, Teitl hir.

 

Cynhaliwyd trafodaeth Cyfnod 3 a gwaredwyd y gwelliannau yn y Cyfarfod Llawn ar 10 Tachwedd 2015.

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 29 Hydref 2015 f3 (PDF 224KB)

Llywodraeth Cymru – Tabl Diben ac Effaith: 29 Hydref 2015 f2 (PDF 584KB)

 

Hysbysiad ynghylch Gwelliannau: 3 Tachwedd 2015 f3 (PDF 165KB)

 

Hysbysiadau Cyfun ynghylch Gwelliannau (PDF 317KB)

 

Rhestr o Welliannau wedi'u Didoli:  10 Tachwedd 2015 f3 (PDF 322KB)

 

Grwpio Gwelliannau: 10 Tachwedd 2015 (PDF 72KB)

 

Bil Rhentu Cartrefi (Cymru), fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 (PDF 1016KB)

(Nodir diwygiadau i'r Bil ers y fersiwn flaenorol gyda llinell ar yr ochr dde.)

 

Newidiadau argraffu i'r Bil fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod 3 (PDF 105KB)

Cyfnod 4: Pasio'r Bil yn y Cyfarfod Llawn

 

Cytunodd y Cynulliad ar y Bil yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 ar 17 Tachwedd 2015.

 

Bil Rhentu Cartrefi (Cymru), fel y'i pasiwyd (PDF 1002KB)

Ar ôl Cyfnod 4

 

Ysgrifennodd y Twrnai Cyffredinol (PDF 216KB) (Saesneg yn unig) a’r Cwnsler Cyffredinol (PDF 174KB) (Saesneg yn unig) at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad i nodi na fyddent yn cyfeirio’r Bil Rhentu Cartrefi (Cymru) i’r Goruchaf Lys o dan Adrannau 112 neu 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.

Dyddiad Cydsyniad Brenhinol

 

Rhoddwyd Cydsyniad Brenhinol (PDF 168KB) ar 18 Ionawr 2016.

 

Gwybodaeth gyswllt

Clerc: Sarah Beasley/Claire Morris

Rhif ffôn: 0300 200 6565

 

Cyfeiriad post:

Senedd Cymru

Bae Caerdydd

Caerdydd

CF99 1SN

 

E-bost: cysylltu@cynulliad.cymru

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.30

NDM5808 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Rhentu Cartrefi (Cymru).

Derbyniwyd y Cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Dyddiad cyhoeddi: 08/07/2015

Dyddiad y penderfyniad: 07/07/2015

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 07/07/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad