Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am
16.28
Gohiriwyd y
bleidlais ar y Cynnig a’r Gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod
pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y Cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5746 Aled
Roberts (Gogledd Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod cynllun blaenllaw ac
aneffeithiol Llywodraeth Cymru, Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn, heb
unrhyw beth i gymryd ei le.
2. Yn nodi bod adroddiad gwerthuso interim
2014 ar Twf Swyddi Cymru wedi canfod:
a) y byddai 73 y cant o bobl ifanc wedi dod
o hyd i gyflogaeth heb y cynllun;
b) bod methiannau sylweddol o ran targedu'r
bobl ifanc hynny sydd angen help i ddod o hyd i waith fwyaf; ac
c) bod y rhai a oedd yn cymryd rhan yn y
cynllun wedi'u cyfyngu i gyflogau isel, gan ennill dim ond 67 y cant o'r
cyfartaledd ar gyfer eu grŵp oedran.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ganolbwyntio cynlluniau cyflogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn y dyfodol ar
wella lefelau sgiliau, cynyddu nifer y prentisiaethau a datblygu cyfleoedd
hyfforddiant sy'n seiliedig ar waith, a fyddai'n cefnogi pobl ifanc sy'n fwyaf
tebygol o wynebu diweithdra hirdymor a rhoi sgiliau a chyfleoedd iddynt a fydd
yn helpu i adeiladu economi gryfach i'w galluogi i lwyddo mewn bywyd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
37 |
41 |
Gwrthodwyd y Cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
1. Yn cydnabod bod economi Deyrnas Unedig
gref:
a) yn creu'r amodau ar gyfer twf o ran
cyfleoedd swydd i'n pobl ifanc;
b) yn herio ysgolion, sefydliadau addysg
bellach ac uwch, llywodraethau a chyflogwyr i nodi a diwallu sgiliau sydd eu
hangen yn y farchnad gyflogaeth sy’n tyfu; ac
c) yn caniatáu i entrepreneuriaid ifanc
fanteisio ar gyfleoedd sy'n deillio o dwf economaidd.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
7 |
42 |
Derbyniwyd Gwelliant 1.
Gwelliant 2 – Elin
Jones (Ceredigion)
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod cynllun
blaenllaw Llywodraeth Cymru, sef Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn ac yn
galw am adfer rhaglen sy'n cyfateb iddo yn gyflym.
Cynhaliwyd pleidlais ar Welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
9 |
21 |
41 |
Gwrthodwyd Gwelliant 2.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y Cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5746 Aled
Roberts (Gogledd Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod economi Deyrnas Unedig
gref:
a) yn creu'r amodau ar gyfer twf o ran
cyfleoedd swydd i'n pobl ifanc;
b) yn herio ysgolion, sefydliadau addysg
bellach ac uwch, llywodraethau a chyflogwyr i nodi a diwallu sgiliau sydd eu
hangen yn y farchnad gyflogaeth sy’n tyfu; ac
c) yn caniatáu i entrepreneuriaid ifanc
fanteisio ar gyfleoedd sy'n deillio o dwf economaidd.
2. Yn nodi bod cynllun blaenllaw ac
aneffeithiol Llywodraeth Cymru, Twf Swyddi Cymru, wedi'i gau yn sydyn, heb
unrhyw beth i gymryd ei le.
3. Yn nodi bod adroddiad gwerthuso interim
2014 ar Twf Swyddi Cymru wedi canfod:
a) y byddai 73 y cant o bobl ifanc wedi dod
o hyd i gyflogaeth heb y cynllun;
b) bod methiannau sylweddol o ran targedu'r
bobl ifanc hynny sydd angen help i ddod o hyd i waith fwyaf; ac
c) bod y rhai a oedd yn cymryd rhan yn y
cynllun wedi'u cyfyngu i gyflogau isel, gan ennill dim ond 67 y cant o'r
cyfartaledd ar gyfer eu grŵp oedran.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
ganolbwyntio cynlluniau cyflogaeth Cronfa Gymdeithasol Ewrop yn y dyfodol ar
wella lefelau sgiliau, cynyddu nifer y prentisiaethau a datblygu cyfleoedd
hyfforddiant sy'n seiliedig ar waith, a fyddai'n cefnogi pobl ifanc sy'n fwyaf
tebygol o wynebu diweithdra hirdymor a rhoi sgiliau a chyfleoedd iddynt a fydd
yn helpu i adeiladu economi gryfach i'w galluogi i lwyddo mewn bywyd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
28 |
41 |
Gwrthodwyd y Cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 30/04/2015
Dyddiad y penderfyniad: 29/04/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 29/04/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad