Manylion y penderfyniad
Dadl ar Gyflog Cyfartal
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 16.26
NDM5721 Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod gwerth hyrwyddo Cyflog Cyfartal
fel prif flaenoriaeth ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhywiol ac yn nodi'r cynnydd
a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn wrth ymdrin ag achosion anghydraddoldeb
cyflog rhwng y rhywiau.
Cyflwynwyd y
gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 – Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ffigurau a gyhoeddwyd gan y
Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Tachwedd 2014 yn dangos bod y bwlch cyflog
rhwng y rhywiau ar ei lefel isaf erioed.
Derbyniwyd
Gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r ffaith bod y ffigurau
diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y bwlch cyflog llawn
amser rhwng dynion a menywod yn fwy cul nag y mae wedi bod ers dechrau casglu
cofnodion cymharol ym 1997.
Derbyniwyd
Gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 – Aled
Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu gwaith Gweinidog Cydraddoldebau
Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd angen i gwmnïau sy'n cyflogi mwy na 250 o weithwyr
gyhoeddi'r cyflog cyfartalog ar gyfer gweithwyr gwrywaidd a benywaidd, neu
wynebu dirwy o hyd at £5,000.
Derbyniwyd
Gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynhaliwyd
pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5721 Jane Hutt
(Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod gwerth hyrwyddo Cyflog
Cyfartal fel prif flaenoriaeth ar gyfer sicrhau cydraddoldeb rhywiol ac yn
nodi'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd yn hyn wrth ymdrin ag achosion
anghydraddoldeb cyflog rhwng y rhywiau.
2. Yn croesawu ffigurau a gyhoeddwyd gan y
Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Tachwedd 2014 yn dangos bod y bwlch cyflog
rhwng y rhywiau ar ei lefel isaf erioed.
3. Yn croesawu'r ffaith bod y ffigurau
diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod y bwlch cyflog llawn
amser rhwng dynion a menywod yn fwy cul nag y mae wedi bod ers dechrau casglu
cofnodion cymharol ym 1997.
4. Yn croesawu gwaith Gweinidog
Cydraddoldebau Llywodraeth y DU i sicrhau y bydd angen i gwmnïau sy'n cyflogi
mwy na 250 o weithwyr gyhoeddi'r cyflog cyfartalog ar gyfer gweithwyr gwrywaidd
a benywaidd, neu wynebu dirwy o hyd at £5,000.
Derbyniwyd y cynnig
wedi’i ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36
Dyddiad cyhoeddi: 18/03/2015
Dyddiad y penderfyniad: 17/03/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 17/03/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad