Manylion y penderfyniad
Debate on Corporate Parenting Responsibilities for Looked After Children
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
NDM4819 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1) Yn nodi bod gwella deilliannau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal
yn her barhaus; a
2) Yn cydnabod pwysigrwydd rhianta corfforaethol i wella cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal.
Gohiriwyd
y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau
a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain
De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i’r afael â chanfyddiadau’r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol fod y Wladwriaeth, yn rhy aml, yn cael effaith negyddol ar ganlyniadau bywyd plant unwaith y byddant mewn gofal.
Gellir gweld canfyddiadau’r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://www.centreforsocialjustice.org.uk/default.asp?pageRef=316
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
24 |
0 |
28 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i fynd i’r afael â’r diffygion mewn darparu eiriolaeth i blant sy’n derbyn gofal, fel yr amlinellir yn Adroddiad Blynyddol 2010/11 Comisiynydd Plant Cymru.
Gellir gweld Adroddiad Blynyddol 2010/11 Comisiynydd Plant Cymru drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://www.complantcymru.org.uk/cy/rhestr-cyhoeddiadau/
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
28 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i archwilio dichonoldeb cyflwyno Bwrsariaeth Cenedlaethol, sy’n mynnu bod awdurdodau lleol yn cefnogi
plant sy’n derbyn gofal sy’n mynd
ymlaen i Addysg Uwch.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
28 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu mai dim ond 1 plentyn o bob 10 sy’n gadael gofal sy’n cael 5 TGAU gradd A* i C.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
25 |
0 |
28 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i dalu costau byw a ffïoedd dysgu
llawn plant oedd yn derbyn gofal
sy’n fyfyrwyr mewn prifysgol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
5 |
11 |
37 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymestyn y ddyletswydd gofal i 21 oed, pa un a yw’r plentyn yn aros mewn addysg ai peidio, er mwyn gwella cyfleoedd bywyd plant sy’n derbyn gofal.
Cynhaliwyd pleidlais
ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
37 |
53 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4819 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1) Yn nodi bod gwella deilliannau ar gyfer Plant sy'n Derbyn Gofal
yn her barhaus; a
2) Yn cydnabod pwysigrwydd rhianta corfforaethol i wella cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
53 |
0 |
0 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dyddiad cyhoeddi: 11/10/2011
Dyddiad y penderfyniad: 11/10/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 11/10/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad