Manylion y penderfyniad
Debate: The Welsh Ministers' Report on Equality 2014
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.07
NDM5674 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Gweinidogion Cymru ar
Gydraddoldeb 2014.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu
pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar
Lywodraeth Cymru i ystyried materion trawsryweddol ehangach o fewn dyletswydd
cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau
pellach i fynd i'r afael â bwlio homoffobig mewn ysgolion.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen am weithio mewn
partneriaeth yn well er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd yn y tensiynau rhwng cymunedau
a gwella cydlyniant yn dilyn yr ymosodiadau brawychwyr ym Mharis.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa
Ystadegau Gwladol ym mis Tachwedd 2014 yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y
rhywiau ar ei lefel isaf erioed, ond yn cydnabod bod angen gwneud mwy.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
dioddefwyr troseddau casineb yn gallu cael gafael ar wasanaethau cymorth
cynhwysfawr yn rhwydd.
Derbyniwyd gwelliant 5 yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu mai ychydig o gynnydd sydd wedi'i
wneud o ran cynyddu'r amrywiaeth o gyrff yng Nghymru sy'n gwneud
penderfynaidau.
Derbyniwyd gwelliant 6 yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod rhaid i amcanion cydraddoldeb hefyd
gadarnhau'r hawl i gael gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng ieithoedd swyddogol
Cymru.
Derbyniwyd gwelliant 7 yn unol
â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu na ellir sicrhau
cydraddoldeb yng Nghymru oni bai bod cyfoeth wedi'i rannu'n deg ledled y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
13 |
51 |
Derbyniwyd y gwelliant 8.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5674 Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i ystyried materion trawsryweddol ehangach o fewn dyletswydd cydraddoldeb y
sector cyhoeddus.
2. Yn nodi Adroddiad
Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb 2014.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno
mesurau pellach i fynd i'r afael â bwlio homoffobig mewn ysgolion.
4. Yn cydnabod yr angen am
weithio mewn partneriaeth yn well er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd yn y
tensiynau rhwng cymunedau a gwella cydlyniant yn dilyn yr ymosodiadau
brawychwyr ym Mharis.
5. Yn croesawu ffigurau a
gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Tachwedd 2014 yn dangos bod y
bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar ei lefel isaf erioed, ond yn cydnabod bod angen
gwneud mwy.
6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i sicrhau bod dioddefwyr troseddau casineb yn gallu cael gafael ar wasanaethau
cymorth cynhwysfawr yn rhwydd.
7. Yn gresynu mai ychydig o gynnydd sydd wedi'i
wneud o ran cynyddu'r amrywiaeth o gyrff yng Nghymru sy'n gwneud
penderfynaidau.
8. Yn credu bod rhaid i amcanion cydraddoldeb
hefyd gadarnhau'r hawl i gael gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng ieithoedd
swyddogol Cymru.
9. Yn credu na ellir sicrhau
cydraddoldeb yng Nghymru oni bai bod cyfoeth wedi'i rannu'n deg ledled y DU.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
13 |
50 |
Derbyniwyd cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 28/01/2015
Dyddiad y penderfyniad: 27/01/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 27/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad