Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Gohiriwyd y
bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau
o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei
ddiwygio:
NDM4811 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Chronfa Swyddi Cymru yn canolbwyntio ar gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth yn y sector preifat.
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
4 |
0 |
52 |
56 |
Gwrthodwyd y cynnig heb
ei ddiwygio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Yn lle “yn
canolbwyntio ar gyfleoedd”, rhoi “yn cynnwys cyfleoedd”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
17 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant
1
Gwelliant 2 - Jocelyn Davies
(Dwyrain De Cymru)
Dileu ‘yn y sector preifat’ a rhoi yn ei
le ‘yn unol â’r Rhaglen Adnewyddu’r
Economi’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
40 |
0 |
17 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod cyflogaeth yn y sector preifat yng Nghymru wedi
gweld gostyngiad o 3.7% rhwng mis Mehefin
2010 a mis Mehefin 2011, y gostyngiad mwyaf yn y DU.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
29 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio’n agos gyda chyflogwyr
lleol a darparwyr hyfforddiant i ganfod cyfleoedd drwy Gronfa Swyddi Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
57 |
0 |
0 |
57 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De
Cymru)
Ychwanegu pwynt
newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach yng Nghymru sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai i helpu i gynyddu effaith Cronfa Swyddi Cymru a helpu i greu swyddi parhaol yn y sector preifat.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
12 |
0 |
45 |
57 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei Chronfa Swyddi Cymru yn cynnwys cyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth yn unol â’r Rhaglen Adnewyddu’r Economi.
Yn galw ar Lywodraeth
Cymru i weithio’n agos gyda chyflogwyr
lleol a darparwyr hyfforddiant i ganfod cyfleoedd drwy Gronfa Swyddi Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
52 |
5 |
0 |
57 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 29/09/2011
Dyddiad y penderfyniad: 28/09/2011
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 28/09/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad