Manylion y penderfyniad
Debate: Together for Mental Health Annual Report 2013-14
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.25
NDM5660 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Blynyddol
(2013-14) Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, a anfonwyd at Aelodau'r Cynulliad ar 6
Ionawr 2015.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r dystiolaeth a gafodd
y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod ei ymchwiliad i Wasanaethau
Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) ynghylch y pwysau cynyddol ar y
gwasanaeth a'i allu i ateb y galw.
Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cymryd camau brys i wella
mynediad i wasanaethau CAMHS; a
b) cynnal asesiad o gyllid ar
gyfer CAMHS yng Nghymru i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael adnoddau digonol i
ddiwallu anghenion pobl ifanc ar draws y wlad.
Derbyniwyd gwelliant 2 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cleifion sy'n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl yn
cael gwybodaeth drylwyr am y dewis o driniaethau a'u hargaeledd ac i sicrhau eu
bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau mewn modd amserol.
Derbyniwyd gwelliant 3 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i
amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd meddwl
a chorfforol ac i roi terfyn ar stigma.
Derbyniwyd gwelliant 4 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a gweddill y
gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at effaith
diwygiadau lles ar bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
17 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio
gyda chyflogwyr i fynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â phroblemau
iechyd meddwl i hyrwyddo cyflogaeth.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar
ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi'r ymgyrch 'Amser i
newid' i fynd i'r afael â rhagfarn a gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â
phroblemau iechyd meddwl.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
54 |
0 |
0 |
54 |
Derbyniwyd gwelliant 7.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5660 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad
Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Adroddiad Blynyddol
(2013-14) Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, a anfonwyd at Aelodau'r Cynulliad ar 6
Ionawr 2015.
2. Yn nodi'r dystiolaeth a
gafodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod ei ymchwiliad i
Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) ynghylch y pwysau cynyddol
ar y gwasanaeth a'i allu i ateb y galw.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i:
a) cymryd camau brys i wella
mynediad i wasanaethau CAMHS; a
b) cynnal asesiad o gyllid ar gyfer
CAMHS yng Nghymru i sicrhau bod y gwasanaeth yn cael adnoddau digonol i
ddiwallu anghenion pobl ifanc ar draws y wlad.
4. Yn galw ymhellach ar
Lywodraeth Cymru i sicrhau bod cleifion sy'n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl
yn cael gwybodaeth drylwyr am y dewis o driniaethau a'u hargaeledd ac i sicrhau
eu bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau mewn modd amserol.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i amlinellu'r camau y mae'n eu cymryd i sicrhau cydraddoldeb rhwng iechyd
meddwl a chorfforol ac i roi terfyn ar stigma.
6. Yn gresynu at effaith
diwygiadau lles ar bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
7. Yn galw ar Lywodraeth Cymru
i weithio gyda chyflogwyr i fynd i'r afael â gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â
phroblemau iechyd meddwl i hyrwyddo cyflogaeth.
8. Yn cefnogi'r ymgyrch 'Amser
i newid' i fynd i'r afael â rhagfarn a gwahaniaethu yn erbyn pobl sydd â
phroblemau iechyd meddwl.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
12 |
54 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 14/01/2015
Dyddiad y penderfyniad: 13/01/2015
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/01/2015 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad