Manylion y penderfyniad
Debate: The Impact of the UK Government's Welfare Reforms in Wales
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.22
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5631
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) effaith a goblygiadau’r Diwygiadau Lles yng Nghymru; a
b) y cynlluniau diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer
gweithredu Credyd Cynhwysol.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant
1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt a) a rhoi yn ei le:
y mabwysiadwyd y diwygiadau lles a weithredwyd gan Llywodraeth
y DU i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn y system budd-daliadau ac i sicrhau
na all unrhyw un ennill mwy ar fudd-daliadau nag y mae'r teulu cyffredin yn
ennill drwy fynd allan i weithio; a
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
37 |
53 |
Gwrthodwyd
gwelliant 1.
Gwelliant
2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mai nod credyd cynhwysol yw lleihau tlodi, drwy
wneud i waith dalu, a helpu hawlwyr a'u teuluoedd i fod yn fwy annibynnol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
16 |
0 |
37 |
53 |
Gwrthodwyd
gwelliant 2.
Gwelliant
3 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ddiddymu'r dreth ystafell wely.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
11 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 3.
Gwelliant
4 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn penderfynu bod mesurau i greu swyddi yn fwy effeithiol
na diwygiadau lles cosbol fel ffordd o greu cymunedau sy'n ffynnu.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
42 |
11 |
0 |
53 |
Derbyniwyd
gwelliant 4.
Gwelliant
5 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y byddai rhewi budd-dal plant yn niweidiol i'r
nod o ddileu tlodi plant.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
15 |
11 |
27 |
53 |
Gwrthodwyd
gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5631
Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) effaith a goblygiadau’r Diwygiadau Lles yng Nghymru; a
b) y cynlluniau diweddaraf sydd wedi’u cyhoeddi ar gyfer
gweithredu Credyd Cynhwysol.
2. Yn galw am ddiddymu'r dreth ystafell wely.
3. Yn penderfynu bod mesurau i greu swyddi yn fwy
effeithiol na diwygiadau lles cosbol fel ffordd o greu cymunedau sy'n ffynnu.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
42 |
0 |
11 |
53 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 26/11/2014
Dyddiad y penderfyniad: 25/11/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 25/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad