Manylion y penderfyniad
Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf
ar agenda'r Cyfarfod Llawn.
Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:
- dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;
Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint
o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r
pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu
cynnal.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.11
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM5623
Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod pobl drawsryweddol yng Nghymru ymhlith
y rhai mwyaf agored i arwahanrwydd cymdeithasol a rhagfarn.
2. Yn nodi bod y ddarpariaeth o wasanaethau ar gyfer y
gymuned drawsryweddol yng Nghymru yn annigonol mewn nifer o feysydd, gan
gynnwys cyflogaeth, hyfforddiant, gofal iechyd a thai.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) pennu Gweinidog i gymryd cyfrifoldeb am y materion y
mae'r gymuned drawsryweddol yn eu hwynebu;
b) llunio cynllun gweithredu ar gyfer canfod rhagfarn
sefydliadol, gwella mynediad at wasanaethau cyhoeddus a mynd i'r afael â stigma
cymdeithasol, aflonyddu a bwlio ar gyfer y grŵp hwn; ac
c) adrodd yn ôl i'r Cynulliad o fewn 6 mis i'r dyddiad y
caiff y Gweinidog ei benodi.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
28 |
0 |
19 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 20/11/2014
Dyddiad y penderfyniad: 19/11/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 19/11/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad