Manylion y penderfyniad

Debate: Future of Devolution for Wales

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.15

 

NDM5605

 

Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Elin Jones (Ceredigion)

Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu ymrwymiad y Prif Weinidog y bydd Cymru yn rhan ganolog o’r ddadl ar ddyfodol y Deyrnas Unedig.

 

2. Yn galw am gyd-drafodaethau sydd wedi’u llywio gan ganfyddiadau Comisiynau Holtham a Silk 1, gan gynnwys asesiad diweddar o lefel bresennol cyllid cymharol Cymru ac i ba gyfeiriad y mae’n debygol o fynd yn y dyfodol.

 

3. Yn galw ar y trafodaethau hynny, a ddylai ddechrau ar unwaith a dod i ben erbyn mis Ionawr 2015, i ganolbwyntio’n benodol ar ariannu teg, gyda’r nod o sicrhau bod cyllid gwaelodol yn cael ei weithredu ar frys sy’n rhoi sylw i danariannu mewn modd sy’n gyson ag anghenion Cymru ac sy’n atal cydgyfeirio yn y dyfodol.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i:

 

a) sicrhau bod yr un pwerau’n cael eu rhoi i Gymru o ran datganoli Treth Gorfforaeth os yw’r pwerau hynny’n cael eu rhoi i Ogledd Iwerddon a’r Alban;

 

b) datganoli Toll Teithwyr Awyr ar gyfer hediadau pellter hir uniongyrchol;

 

c) adolygu lefel y pwerau benthyca a roddir i Gymru ym Mil Cymru; a

 

d) cydweithio â Llywodraeth Cymru i’w galluogi i gyhoeddi ei bondiau ei hun.

 

5. Yn ceisio cydnabyddiaeth os yw penderfyniad yn cael ei gymryd i gynnal Refferendwm ar bwerau amrywio trethi, y dylai hyn adlewyrchu barn pobl Cymru.

 

6. Yn ceisio cadarnhad y bydd y model Cadw Pwerau yn cael ei sefydlu ar gyfer Cymru.

 

7. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi’r pŵer i Gynulliad Cenedlaethol Cymru i bennu ei drefniadau etholiadol.

 

8. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wneud cynnydd o ran Silk 2.

 

9. Yn cadarnhau y dylid datblygu’r materion hyn ymhellach mewn cynigion deddfwriaethol, a gyhoeddir cyn diwedd sesiwn seneddol bresennol San Steffan.

 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Dyddiad cyhoeddi: 22/10/2014

Dyddiad y penderfyniad: 21/10/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 21/10/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad