Manylion y penderfyniad

Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Diben:

Dadleuon yw un o'r eitemau busnes a fydd yn digwydd amlaf ar agenda'r Cyfarfod Llawn. Cyflwynir sawl math o ddadl yn y Cyfarfod Llawn, gan gynnwys:

  • dadleuon yr Wrthblaid am bwnc o'i dewis;

Y Pwyllgor Busnes a fydd yn pennu faint o amser a neilltuir ar gyfer dadleuon nad ydynt yn ddadleuon y Llywodraeth a'r pwyllgor hwnnw hefyd a fydd yn penderfynu pa mor aml y caiff y dadleuon hyn eu cynnal.

Penderfyniad:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

 

NDM4788  Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod busnesau bach yn hanfodol i adferiad economaidd Cymru ac yn chwarae rôl mewn economïau lleol ledled Cymru;

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o ardrethi busnes er mwyn:

 

a) Osgoi sefyllfa lle mae gwneud gwelliannau i eiddo yn cynyddu ei werth ac felly’n golygu bod ardreth y busnes yn uwch;

 

b) Newid y rôl y dylai awdurdodau lleol ei chwarae o ran casglu a chadw ardrethi busnes, er mwyn rhoi sylw i anghenion lleol;

 

c) Rhoi’r gorau i godiadau anferth mewn ardrethi busnes pan fo gwerthoedd yn cynyddu a chostau’n codi rhwng blynyddoedd fel sydd wedi digwydd i lawer o fusnesau gwely a brecwast yn ddiweddar;

 

d) Ehangu’r rhyddhad ardrethi busnes i helpu mwy o gyfleusterau cymunedol fel swyddfeydd post, tafarndai, mentrau cymdeithasol a siopau annibynnol;

 

e) Penderfynu a fyddai Cymru’n elwa o fabwysiadu’r un trefniadau cyfrifo ardrethi busnes ag sydd gan yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda Llywodraeth y DU.

 

3. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) Rewi ardrethi busnes nes caiff argymhellion yr adolygiad hwn eu rhoi ar waith;

 

b) Amlinellu manylion ei chynlluniau i lunio cynllun cynhwysfawr i leihau’r beichiau rheoleiddio ar fusnesau bach; a

 

4. Yn galw ar y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i asesu effaith ei pholisïau ar fusnesau bach yn rheolaidd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

5

0

48

53

Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)

 

Dileu pwyntiau 2 a 3 o’r cynnig gwreiddiol a rhoi yn eu lle bwyntiau newydd 2 a 3, a nodir isod.

 

2. Yn cydnabod bod cynnwys y cyfrifoldeb arweiniol am bolisi ardrethi busnes o fewn portffolio y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn rhoi arwydd clir ynghylch effaith bosibl ardrethi busnes ar fusnesau Cymru.

 

3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu polisïau ynghylch ardrethi busnes er mwyn cyflwyno ardrethi teg a chymesur ar gyfer busnesau Cymru er mwyn bodloni amcanion economaidd a chymdeithasol y Llywodraeth.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

26

54

Derbyniwyd gwelliant 1.

 

Gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. 

 

Gwelliant 2 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad llawn o ardrethi busnes a pharhau â’r cynllun rhyddhad ardrethi busnes cyfredol i fusnesau bach wrth i’r adolygiad fynd rhagddo.

 

Gwelliant 3 - Nick Ramsay (Mynwy)

 

Dileu is-bwynt 3a) a rhoi yn ei le:

 

Dileu’r holl ardrethi busnes ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol o £12000 neu lai a thapro ardrethi busnes ar gyfer busnesau sydd â gwerth ardrethol rhwng £12000 a £15000.

 

Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu is-bwynt 3a) ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn.

  

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4788  Peter Black (Gorllewin De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod busnesau bach yn hanfodol i adferiad economaidd Cymru ac yn chwarae rôl mewn economïau lleol ledled Cymru;

 

2. Yn cydnabod bod cynnwys y cyfrifoldeb arweiniol am bolisi ardrethi busnes o fewn portffolio y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn rhoi arwydd clir ynghylch effaith bosibl ardrethi busnes ar fusnesau Cymru.

 

3. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn adolygu polisïau ynghylch ardrethi busnes er mwyn cyflwyno ardrethi teg a chymesur ar gyfer busnesau Cymru er mwyn bodloni amcanion economaidd a chymdeithasol y Llywodraeth.

 

4. Yn galw ar y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth i asesu effaith ei pholisïau ar fusnesau bach yn rheolaidd.

 

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

42

0

12

54

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

 

Dyddiad cyhoeddi: 14/07/2011

Dyddiad y penderfyniad: 13/07/2011

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 13/07/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad