Manylion y penderfyniad

Debate: Governance of National Parks and Areas of Outstanding Natural Beauty in Wales

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 17.03

 

NDM5516 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod gwerth presennol a gwerth posibl tirweddau dynodedig Cymru i amgylchedd, economi, iechyd, lles ac ansawdd bywyd pobl Cymru.

 

2. Yn nodi’r adolygiad sydd yn yr arfaeth o drefniadau llywodraethu ar gyfer tirweddau dynodedig yng Nghymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn dathlu cyfraniad tri pharc cenedlaethol Cymru at ein treftadaeth ac yn cefnogi'r rôl y maent yn parhau i'w chwarae yn hybu hunaniaeth unigryw Cymru.

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Gohiriwyd y bleidlais ar weddill y gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

 

Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo yn unol â hynny:

 

Yn credu y byddai mwy o atebolrwydd democrataidd yn arwain at wella’r modd y mae’r parciau cenedlaethol yn cael eu llywodraethu ac yn gwella’r berthynas rhwng awdurdodau’r parciau a’r trefi a’r cymunedau sydd o fewn eu ffiniau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

23

0

25

48

Gwrthodwyd gwelliant 2.

 

Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi’r argymhellion yn ymwneud â pharciau cenedlaethol yn yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus ac yn credu bod angen rhoi pecyn cynhwysfawr o ddiwygiadau ar waith cyn gynted ag y bo modd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

34

48

Gwrthodwyd gwelliant 3.

 

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

 

NDM5516 Lesley Griffiths (Wrecsam)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn dathlu cyfraniad tri pharc cenedlaethol Cymru at ein treftadaeth ac yn cefnogi'r rôl y maent yn parhau i'w chwarae yn hybu hunaniaeth unigryw Cymru.

 

2. Yn cydnabod gwerth presennol a gwerth posibl tirweddau dynodedig Cymru i amgylchedd, economi, iechyd, lles ac ansawdd bywyd pobl Cymru.

 

3. Yn nodi’r adolygiad sydd yn yr arfaeth o drefniadau llywodraethu ar gyfer tirweddau dynodedig yng Nghymru.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

Dyddiad cyhoeddi: 04/06/2014

Dyddiad y penderfyniad: 03/06/2014

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/06/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad