Manylion y penderfyniad
Debate: Improving Primary and Community Care
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 16.15
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr
eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
NDM5515 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi’r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi’u
cymryd i wella a pharhau i integreiddio gofal sylfaenol, gofal cymunedol a
gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cyllid ychwanegol y cytunwyd arno gan Ddemocratiaid
Rhyddfrydol Cymru, Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gronfa Gofal
Canolraddol yng nghyllideb 2014/15.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
37 |
0 |
11 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi pleidleisio yn erbyn gwelliannau i'r
Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant a fyddai wedi rhoi terfyn ar yr arfer
rheolaidd o slotiau gofal 15 munud ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd
camau i roi terfyn ar yr arfer hwn.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
13 |
0 |
35 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi pryderon Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu ynghylch yr angen am
fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau gofal sylfaenol, sef yr hyn a nodir yn
eu hymgyrch Patients First: Back General Practice.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella trefniadau cynllunio’r gweithlu gofal
sylfaenol ac i weithredu ar frys i roi sylw i’r heriau sy’n gysylltiedig â
recriwtio meddygon teulu ledled Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
48 |
0 |
0 |
48 |
Derbyniwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith y bydd toriadau termau real Llywodraeth Cymru i
gyllideb y GIG yn ei gwneud yn fwy anodd sicrhau gwelliannau ac integreiddio gofal
sylfaenol, gofal yn y gymuned a gofal cymdeithasol ymhellach yng Nghymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
10 |
9 |
29 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod mwy a mwy o feddygon teulu yn nesáu at oed ymddeol, yn enwedig
yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig, ac yn gresynu at y ffaith nad yw
Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu cynllun clir i gael meddygon teulu newydd yn
eu lle.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
25 |
48 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM5515 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r camau gweithredu y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cymryd i
wella a pharhau i integreiddio gofal sylfaenol, gofal cymunedol a gofal
cymdeithasol yng Nghymru.
2. Yn croesawu'r cyllid ychwanegol y cytunwyd
arno gan Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru, Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar
gyfer y Gronfa Gofal Canolraddol yng nghyllideb 2014/15.
3. Yn nodi pryderon Coleg Brenhinol y Meddygon
Teulu ynghylch yr angen am fuddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau gofal
sylfaenol, sef yr hyn a nodir yn eu hymgyrch Patients First: Back General
Practice.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella
trefniadau cynllunio’r gweithlu gofal sylfaenol ac i weithredu ar frys i roi
sylw i’r heriau sy’n gysylltiedig â recriwtio meddygon teulu ledled Cymru.
O
blaid |
Ymatal |
Yn
erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
10 |
48 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Dyddiad cyhoeddi: 04/06/2014
Dyddiad y penderfyniad: 03/06/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 03/06/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad