Manylion y penderfyniad

Debate on Fairer Funding for Wales

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Penderfyniad:

NDM4776 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r consensws cyffredinol sy’n bodoli yng nghymdeithas sifig Cymru nad yw’r setliad ariannol datganoledig ar gyfer Cymru yn addas i’r diben bellach, a’i fod er mwyn cefnogi’r consensws hwnnw:

a) Yn cymeradwyo nod Llywodraeth Cymru o sicrhau un pecyn cydlynol o ddiwygiadau i setliad ariannol Cymru ac yn cytuno bod yn rhaid i setliad o’r fath gynnwys:

i) cyfundrefn ariannu decach, sy’n ymgorffori llawr Holtham, a diwygio fformiwla Barnett yn ehangach;  

ii) datganoli pwerau benthyg i ariannu buddsoddiadau cyfalaf a’r hawliau i godi arian cyfalaf;

b) Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fwrw ymlaen â diwygio ariannol i Gymru;  

c) Yn annog y dylid dechrau’n fuan ar drafodaethau pendant rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig ac yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn gadarnhaol ym mhob agwedd ar y trafodaethau hynny, gan gynnwys ystyried yr achos o blaid cryfhau atebolrwydd ariannol, yn unol ag argymhellion Rhan 2 o adroddiad Comisiwn Holtham o ran cyfrifoldebau cyllidol priodol.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

 

Dyddiad cyhoeddi: 04/07/2011

Dyddiad y penderfyniad: 05/07/2011

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 05/07/2011 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad