Manylion y penderfyniad
Dadl Fer
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Argymhellion a gymeradwywyd
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Mae dadleuon byr yn wahanol i
ddadleuon eraill oherwydd eu bod yn rhoi cyfle i unrhyw Aelod, nad yw'n aelod
o'r llywodraeth, gynnal dadl gyffredinol am bwnc sydd o ddiddordeb neu am fater
sy'n ymwneud â'r etholaeth. Ni fydd gofyn i'r Cynulliad bleidleisio ar ddiwedd
y ddadl honno (oherwydd nad oes cynnig yn gysylltiedig â'r dadleuon hyn). Detholir Aelodau drwy falot a gynhelir gan y
Llywydd a chaniateir iddynt gyflwyno pwnc o'u dewis. Bydd yr Aelod yn agor y
ddadl ac yn siarad am y cyfnod a neilltuwyd. Fel rheol, bydd y Gweinidog neu'r
Comisiynydd Cynulliad sy'n gyfrifol am y pwnc dan sylw'n ymateb i'r ddadl fer.
Penderfyniad:
Dechreuodd yr eitem am 17.52
NDM5483 Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Aros ar y Cledrau: Cynnal Cysylltiadau
Rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru
Pwysigrwydd cysylltiadau rheilffyrdd rhwng Gogledd Cymru a'r ganolfan HS2
yn Crewe, ynghyd â'r potensial am wella'r capasiti o Wrecsam ac Arfordir
Gogledd Cymru i Lerpwl a Manceinion.
Dyddiad cyhoeddi: 03/04/2014
Dyddiad y penderfyniad: 02/04/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 02/04/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad