Manylion y penderfyniad
Debate on the Enterprise and Business Committee's Report on the Inquiry into Youth Entrepreneurship
Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad, Y Pwyllgor Menter a Busnes - Y Pedwerydd Cynulliad
Statws: Wedi’i gwblhau
Is AllweddolPenderfyniad?: Yes
Diben:
Cynhaliodd y Pwyllgor Menter a Busnes ymchwiliad i Entrepreneuriaeth
ymysg Ieuenctid.
Y cylch gorchwyl
- Pa mor effeithiol yw ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at hyrwyddo
entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc?
- Pa gamau y gellir eu cymryd i wella neu gryfhau'r gefnogaeth sydd ar
gael i
ddarpar entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru?
Roedd y materion y bu’r Pwyllgor yn eu hystyried
fel rhan o’r cylch gorchwyl hwn yn cynnwys:
- Beth yw profiadau entrepreneuriaid ifanc yng Nghymru?
- Faint o adnoddau ac arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi tuag at
hyrwyddo entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc? A yw'n ddigonol?
- Pa gynnydd sydd wedi'i wneud o ran gweithredu Strategaeth a Chynllun
Gweithredu Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc Llywodraeth Cymru?
- Sut mae ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at hyrwyddo entrepreneuriaeth
ymysg pobl ifanc yn ymgorffori materion fel cydraddoldeb, menter
gymdeithasol ac amrywiaethau rhanbarthol mewn sgiliau a chyfleoedd
hyfforddi.
- Pa gyfleoedd a gaiff eu cyflwyno drwy ehangu entrepreneuriaeth ymysg
pobl ifanc fel modd o fynd i'r afael â diweithdra ac anweithgarwch ymysg
pobl ifanc?
- I ba raddau y mae entrepreneuriaeth yn ganolog i sefydliadau addysg
uwchradd, addysg bellach ac addysg uwch yng Nghymru?
- Pa dystiolaeth sydd ar gael o ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at
gefnogi ac annog
entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc?
- Sut mae Llywodraeth Cymru yn monitro ac yn gwerthuso ei gweithgareddau
entrepreneuriaeth ymysg pobl ifanc? Pa effaith y mae wedi ei chael ar
nifer y bobl sy'n dechrau busnes?
- Pa enghreifftiau o arfer da ym maes polisi entrepreneuriaeth ymysg
pobl ifanc y gellir eu canfod o fewn Cymru, yn ehangach o fewn y DU, ac yn
rhyngwladol?
Yflwyniad
fideo ar gyfer yr Ymchwiliad i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc - Mehefin
2013
Penderfyniad:
Dechreuodd yr
eitem am 14.57
NDM5404
Nick Ramsay (Mynwy)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar yr Ymchwiliad
i Entrepreneuriaeth ymysg Pobl Ifanc, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14
Tachwedd 2013.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Dyddiad cyhoeddi: 23/01/2014
Dyddiad y penderfyniad: 22/01/2014
Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 22/01/2014 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad