Manylion y penderfyniad

Debate on the Sustainable Development Annual Report

Y sawl sy'n gwneud penderfyniad: Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad

Statws: Argymhellion a gymeradwywyd

Is AllweddolPenderfyniad?: Yes

Penderfyniad:

Dechreuodd yr eitem am 16.56

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

NDM5381 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2012-13, fel y’i nodir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Rhagfyr 2013.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnwys pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn nodi gyda phryder y sylwadau a wnaed yn adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o ddatblygu cynaliadwy, a bod “gwendidau systemig yn y strwythurau llywodraethu presennol ar gyfer datblygu cynaliadwy” o hyd.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Dileu “’r cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2012-13, fel y’i nodir yn”.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

29

57

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Dirprwy Lywydd ei bleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y rôl ganolog y mae addysg yn ei chwarae wrth ddatblygu dyfodol cynaliadwy i Gymru ac yn croesawu adolygiad thematig Estyn o Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang er mwyn gwella ei ffocws a chanfod gwelliannau.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y gostyngiad yn lefelau caffael bwyd lleol y sector cyhoeddus, nad oedd y strategaeth ‘Bwyd i Gymru, Bwyd o Gymru’ bresennol yn addas i'r diben ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun labelu cynhwysfawr ar gyfer bwyd a diod o Gymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

11

28

56

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o flaenoriaeth i gasglu tystiolaeth gan y rheini sydd â phrofiad ymarferol wrth ffurfio polisïau datblygu cynaliadwy a’u cynnwys mewn partneriaethau cyflawni.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 5.

Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi adroddiad ar sut y mae polisïau yn y Rhaglen Lywodraethu yn gysylltiedig â’r Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Cymru.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 6.

Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y cyfraniad a wnaed gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy yn ei sylwadau ar yr adroddiad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 7.

Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod pryderon parhaus y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o strwythur a chynnwys yr adroddiad.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

55

0

0

55

Derbyniwyd gwelliant 8.

Gwelliant 9. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am Fil Cenedlaethau’r Dyfodol cadarn ac effeithiol i roi sylw priodol i'r pwyntiau a godwyd gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ac i'r Gweinidog ymgysylltu â phob plaid a'r gymdeithas ddinesig ehangach wrth baratoi ar gyfer y Bil hwn.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

56

0

0

56

Derbyniwyd gwelliant 9.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM5381 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi gyda phryder y sylwadau a wnaed yn adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch dealltwriaeth Llywodraeth Cymru o ddatblygu cynaliadwy, a bod “gwendidau systemig yn y strwythurau llywodraethu presennol ar gyfer datblygu cynaliadwy” o hyd.

2. Yn nodi’r cynnydd a wnaed o ran hyrwyddo datblygu cynaliadwy yn 2012-13, fel y’i nodir yn Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Rhagfyr 2013.

3. Yn cydnabod y rôl ganolog y mae addysg yn ei chwarae wrth ddatblygu dyfodol cynaliadwy i Gymru ac yn croesawu adolygiad thematig Estyn o Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy a Dinasyddiaeth Fyd-eang er mwyn gwella ei ffocws a chanfod gwelliannau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi mwy o flaenoriaeth i gasglu tystiolaeth gan y rheini sydd â phrofiad ymarferol wrth ffurfio polisïau datblygu cynaliadwy a’u cynnwys mewn partneriaethau cyflawni.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi adroddiad ar sut y mae polisïau yn y Rhaglen Lywodraethu yn gysylltiedig â’r Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy ar gyfer Cymru.

6. Yn cydnabod y cyfraniad a wnaed gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy yn ei sylwadau ar yr adroddiad.

7. Yn cydnabod pryderon parhaus y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ynghylch elfennau o strwythur a chynnwys yr adroddiad.

8. Yn galw am Fil Cenedlaethau’r Dyfodol cadarn ac effeithiol i roi sylw priodol i'r pwyntiau a godwyd gan y Comisiynydd Dyfodol Cynaliadwy ac i'r Gweinidog ymgysylltu â phob plaid a'r gymdeithas ddinesig ehangach wrth baratoi ar gyfer y Bil hwn.

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

44

12

0

56

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

 

Dyddiad cyhoeddi: 11/12/2013

Dyddiad y penderfyniad: 10/12/2013

Penderfynwyd yn y Cyfarfod: 10/12/2013 - Y Cyfarfod Llawn - Y Pedwerydd Cynulliad